Consultation outcome

Crynodeb o’r ymatebion ac ymateb y Llywodraeth (Welsh)

Updated 6 March 2024

Rhagarweiniad

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion a dderbyniodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ar ôl ymgynghori ar ddiwygiadau posib i Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000 (SI 2000/1043), a ddiwygiwyd gan Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2020 (SI 2020/489), (‘Rheoliadau Biffenylau PCB’).

Rhedodd yr ymgynghoriad am chwe wythnos cyn dod i ben ar 30 Mehefin 2023.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 18 o gwestiynau. Roedd 8 yn gwestiynau cefndir am bwy oedd yn ymateb, er mwyn rhoi gwybodaeth gyd-destun bwysig. Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg lefel-uchel ar brif negeseuon yr ymatebion gan adlewyrchu’r safbwyntiau a gyflwynwyd. Mae hefyd yn cynnwys ymateb Llywodraeth y DU i’r negeseuon hyn.

Oherwydd bod y Rheoliadau PCB yn berthnasol i diriogaeth Cymru a Lloegr yn unig, roedd y diwygiadau a’r cynigion a ddisgrifiwyd yn yr ymgynghoriad i gael eu cymhwyso i Gymru a Lloegr yn unig. Roedd Llywodraeth Cymru’n rhan o baratoi’r Rheoliadau drafft a’r ymgynghoriad ei hun. Cafodd yr ymgynghoriad ei wneud ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Rydym yn ddiolchgar i bawb a wnaeth yr ymdrech ac a gymrodd yr amser i ymateb.

Cefndir yr ymgynghoriad

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn holi barn am newidiadau arfaethedig i’r Rheoliadau PCB.

Mae’r Deyrnas Unedig (y DU) wedi arwyddo Confensiwn Stockholm, cytuniad byd-eang sy’n rhestru sylweddau cemegol a elwir yn Llygryddion Organig Parhaus (POPs) ac mae un o’r rhain yn grŵp o gemegion a elwir yn biffenylau polyclorinedig (PCB). Nod Confensiwn Stockholm yw diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd drwy wahardd, dileu neu gyfyngu ar gynhyrchu a defnyddio llygryddion POPs. Mae biffenylau PCB yn perthyn i deulu eang o gyfansoddion cemegol organig artiffisial gydag ystod o nodweddion gwenwynig all achosi effeithiau iechyd difrifol mewn pobl ac anifeiliaid. Mae defnyddio biffenylau PCB wedi’i reoleiddio yn y DU ers dechrau’r 1980au. Ond mae rhai biffenylau PCB yn dal i gael eu defnyddio yn y DU heddiw, yn bennaf mewn cyfarpar foltedd uchel yn ein seilwaith ynni cenedlaethol. 

Yn y DU mae Rheoliad (UE) 2019/1021 a gymhathwyd, yn ei ffurf ddiwygiedig (‘Rheoliad POPs’), yn rheoleiddio cynhyrchu, rhoi ar y farchnad a defnyddio llygryddion POPs sydd wedi eu gwahardd neu gyfyngu o dan Gonfensiwn Stockholm. Cyflwynwyd y Rheoliadau Biffenylau PCB, sy’n berthnasol i reoli biffenylau PCB yng Nghymru a Lloegr, yn 2000 gan ddyddio felly i’r amser cyn mabwysiadu Confensiwn Stockholm (2001) a Rheoliad Llygryddion POPs yr UE (i ddechrau yn 2004 cyn ei ailwampio yn 2019). Yn benodol maen nhw’n rheoleiddio defnyddio a rheoli biffenylau PCB ymhellach i’r rheoleiddio cyffredinol o biffenylau PCB a llygryddion POPs o dan y Rheoliad Llygryddion POPs.

Yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Gonfensiwn Stockholm, diwygiwyd Rheoliad Llygryddion POPs yr UE yn 2019 i gynnwys gofynion newydd ar ddefnyddio a rheoli biffenylau PCB fel bod angen adnabod a thynnu rhai cyfarpar yn cynnwys biffenylau PCB allan o ddefnydd cyn gynted â phosib ac erbyn 31 Rhagfyr 2025 fan bellaf. O ganlyniad, gwnaed diwygiadau i Reoliadau Biffenylau PCB o dan Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) (Diwygiad) 2020 (‘Rheoliadau Biffenylau PCB 2020) er mwyn adlewyrchu bod Rheoliad Llygryddion POPs yr UE wedi’i ailwampio gan ddod yn Rheoliad Llygryddion POPs yn y DU ar ôl i’r DU adael yr UE.

Pan ddaeth Rheoliadau Biffenylau PCB 2020 i rym yng Ngorffennaf 2020, daeth Defra’n ymwybodol drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid bod angen mwy o eglurder ar y cyfeiriadau at feintiau biffenylau PCB mewn rhai o’r darpariaethau unigol, ac yn enwedig ar y gofyniad i dynnu rhai darnau o gyfarpar yn cynnwys biffenylau PCB allan o ddefnydd erbyn 31 Rhagfyr 2025.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Pwrpas yr ymgynghoriad oedd holi barn rhanddeiliaid am offeryn statudol drafft i ddiwygio’r Rheoliadau Biffenylau PCB yn defnyddio pwerau o dan Adran 2 Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999.

Roedd cynigion yr ymgynghoriad yn ceisio rhoi eglurder ychwanegol i adlewyrchu bwriad y polisi gwreiddiol o bedair darpariaeth unigol yn y Rheoliadau Biffenylau PCB presennol. Nid oedd y cynigion yn cynnwys unrhyw safiadau polisi newydd.

Gofynnwyd am gadarnhad gan randdeiliaid y byddai’r cynigion yn egluro’r gofynion mewn pedair darpariaeth ar gyfer cyfarpar yn cynnwys biffenylau PCB, fel a ganlyn:

  • Tynnu rhai darnau o gyfarpar allan o ddefnydd erbyn diwedd 2025
  • Pa ddarnau o gyfarpar y gellir eu cadw tan iddyn nhw ddod at ddiwedd eu hoes
  • Un o’r meini prawf ar gyfer dihalogi cyfarpar
  • Un o’r meini prawf ar gyfer labelu cyfarpar wedi’i ddihalogi

Y broses ymgynghori

Rhedodd yr ymgynghoriad am 6 wythnos o’r 19 Mai tan 30 Mehefin 2023 ar wefan Gofod y Dinesydd Defra. Roedd y wefan yn hygyrch o ddolenni oddi ar wefan Llywodraeth y DU a gwefan Llywodraeth Cymru. Roedd fersiynau Cymraeg o ddogfennau’r ymgynghoriad ar gael ar wefan Gofod y Dinesydd.

I godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad, yn enwedig ymhlith ein cynulleidfa darged, fe wnaethom gyhoeddi’r ymgynghoriad drwy gyfathrebu â Fforwm Rhanddeiliaid Cemegion y DU (UKCSF), y Fforwm Polisi a Chyfathrebu Cemegion (CPCF) a grwpiau eraill o randdeiliaid budd posib.

Os nad oedd yn bosib i ymatebwyr ymateb yn defnyddio’r wefan Gofod y Dinesydd, roedd opsiynau eraill ar gael i ymateb drwy e-bost i flwch post Defra a thrwy’r post i swyddfa De<0}

Oherwydd bod Defra’n rheoli’r broses ymgynghori ar ran Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, roedd hefyd opsiwn i ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy e-bostio blwch post Llywodraeth Cymru.

Nid oedd angen i ymatebwyr ateb pob adran o gwestiynau’r ymgynghoriad.

Dadansoddiad o’r ymatebion

Roedd llwyfan digidol ar-lein Defra, Gofod y Dinesydd, yn cofnodi ymatebion i’r ymgynghoriad drwy holiadur ar-lein. Derbyniwyd rhai ymatebion drwy e-bost hefyd. Roedd ymatebion e-bost yn ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau unigol yn cael eu cofnodi gyda llaw ar Gofod y Dinesydd ac yn cael eu trin yr un fath ag ymatebion eraill a dderbyniwyd ar y llwyfan hwnnw.

Derbyniwyd 11 ymateb i gyd gyda 6 wedi eu derbyn yn uniongyrchol drwy holiadur Gofod y Dinesydd a 5 wedi eu derbyn drwy e-bost i flwch post Defra.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 4 cwestiwn naill ateb neu’r llall, gydag opsiwn i ddewis o ‘cytuno’n gryf’ trwodd i ‘anghytuno’n gryf’, a 6 cwestiwn penagored yn gwahodd mwy o sylwadau. Cafodd yr holl ymatebion a dderbyniwyd cyn dyddiad cau’r ymgynghoriad eu cyfrif a’r safbwyntiau eu cynnwys yn y dadansoddiad. Darllenwyd pob ymateb yn unigol.

Rhoddir dadansoddiad rhifol o’r ymatebwyr o blaid ac yn erbyn pob cynnig, ynghyd â dadansoddiad o’r ymatebion yn ôl sector.

Derbyniwyd ymatebion unfath yn union gan un gymdeithas ddiwydiant a rhai o’i haelod-sefydliadau. Roedd ymateb y gymdeithas ddiwydiant yn cynrychioli barn gyfunol ei haelod-sefydliadau’n cyfrif fel un farn yn y dadansoddiad. Cafodd ymatebion gan aelod-sefydliadau a ymatebodd ar wahân hefyd eu cynnwys yn y dadansoddiad fel ymatebion gwahanol a darllenwyd yr holl ymatebion yn unigol.

Rhestrir holl gwestiynau’r ymgynghoriad a’r sefydliadau a ymatebodd iddo’n is i lawr yn y crynodeb hwn.

Trosolwg ar yr ymatebwyr

Roedd un gymdeithas ddiwydiant wedi ymateb ar ei rhan ei hun a 7 o’i haelod-sefydliadau, a’r saith i gyd yn fusnesau mawr. O’r 7 aelod-sefydliad, roedd pedwar hefyd wedi ymateb ar wahân gan roi ymatebion unfath yn union â’u cymdeithas ddiwydiant.

Derbyniwyd tri ymateb gan fusnesau mawr eraill gydag 1 yn dymuno aros yn ddienw.

Derbyniwyd dau ymateb gan gyrff llywodraeth.

Derbyniwyd un ymateb gan gorff cyhoeddus anadrannol.

Opsiwn Cyfanswm Canran
Cymdeithas ddiwydiant  1  9.1%
Busnes mawr (250 neu fwy o staff, gan gynnwys gweithgareddau byd-eang) 7 63.6%
Corff llywodraeth 2 18.2%
Arall - Corff cyhoeddus anadrannol (NDPB) 1 9.1%

Gofynnwyd i’r 11 a ymatebodd ble’r oedd eu sefydliadau wedi eu lleoli neu’n gweithredu ohono. Roedden nhw’n gallu dewis mwy nag un opsiwn. Roedd y sefydliadau wedi ymateb fel a ganlyn ar gyfer pob lleoliad:

  • 10 yn Lloegr

  • 6 yng Nghymru

  • 5 yn yr Alban

  • 4 yng Ngogledd Iwerddon

  • 2 y tu allan i’r DU ond o fewn yr UE

Opsiwn Cyfanswm
Lloegr 10
Cymru 6
Yr Alban 5
Gogledd Iwerddon 4
Tu Allan i’r DU (UE) 2
Heb ateb 0

Sefydliadau a ymatebodd

Roedd y sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad fel a ganlyn:

Electricity North West Ltd

Gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan i Ogledd-Orllewin Lloegr, ac eithrio Glannau Merswy a rhannau o Sir Gaer.

Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni

Corff diwydiant yn cynrychioli’r rhwydweithiau ynni yn y DU ac Iwerddon.

Landmarc Support Services Ltd

Darparu a chynnal gwasanaethau cymorth a seilwaith diogel sy’n hyrwyddo hyfforddiant milwrol cynaliadwy ac effeithiol.

Dosbarthu Trydan y Grid Cenedlaethol

Gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan ar gyfer Dwyrain a Gorllewin Canolbarth a De-Orllewin Lloegr, a Chymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Corff cyhoeddus a rheoleiddiwr adnoddau naturiol a’r amgylchedd yng Nghymru.

Network Rail

Perchennog, atgyweiriwr a datblygwr seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Northern Powergrid

Gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan ar gyfer Gogledd-Ddwyrain Lloegr, rhanbarthau Sir Efrog a Gogledd Lincolnshire.

SSE plc

Cwmni rhwydwaith trydan y DU sy’n datblygu a rhedeg seilwaith ynni carbon isel.

Awdurdod Ynni Atomig y DU

Corff ymchwil Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am ddatblygu ynni ymasio.

Rhwydweithiau Pŵer y DU

Gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan ar gyfer Llundain, De-Ddwyrain a Dwyrain Lloegr.

Di-enw

Busnes mawr (250 neu fwy o staff, gan gynnwys gweithgareddau byd-eang).

Crynodeb o’r ymatebion

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 18 o gwestiynau. Roedd yr 8 cwestiwn cyntaf yn holi pwy oedd, lleoliad a rôl yr ymatebwyr ac yn cael eu hadrodd yn yr adran flaenorol.

Roedd 10 cwestiwn yn ymwneud â’r diwygiadau arfaethedig i’r Rheoliadau Biffenylau PCB a chrynhoir yr ymatebion a dderbyniwyd i’r rhain isod.

Diwygiad i Reoliad 4(3A)

Roeddem ni’n cynnig diwygio Rheoliad 4(3A) yn y Rheoliadau Biffenylau PCB drwy ddisodli cyfeiriad at ‘Biffenylau PCB’ a rhoi ‘hylifau’n cynnwys biffenylau PCB’ yn ei le, i roi eglurder ar natur yr hylifau mewn trawsnewidwyr a bwriad polisi’r rheoliad hwn.

Cwestiwn ymgynghoriad 9: I ba raddau y cytunwch fod y diwygiadau arfaethedig i Reoliad 4(3A) y Rheoliadau Biffenylau PCB yn egluro gofynion y rheoliad hwn yn llwyddiannus?

Atebodd 11 y cwestiwn hwn. Roedd 10 o’r ymatebwyr yn cytuno ac un yn anghytuno â’r diwygiad arfaethedig.

Opsiwn Nifer yr ymatebion Canran o’r ymatebion
Cytuno’n gryf 2 18.2%
Cytuno 8 72.7%
Na’n cytuno na’n anghytuno 0 0%
Anghytuno 0 0%
Anghytuno’n gryf 1 9.1%
Ddim yn gwybod 0 0%
Gwell gen i beidio â dweud 0 0%
Heb ateb 0 0%

Cwestiwn ymgynghoriad 10: Eglurwch y rhesymau dros yr ateb a roesoch i gwestiwn 9, gan gyfeirio at dystiolaeth a / neu opsiynau eraill posib, lle bo’n berthnasol.

Derbyniwyd 8 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Rhoddir manylion yr ymatebion isod yn yr adran ‘Sylwadau pellach ar y pedwar diwygiad arfaethedig’.

Diwygiad i Reoliad 4(3C)

Roeddem ni’n cynnig diwygio Rheoliad 4(3C) yn y Rheoliadau Biffenylau PCB drwy ddisodli cyfeiriad at ‘Biffenylau PCB’ a rhoi ‘hylifau’n cynnwys biffenylau PCB’ yn ei le, i roi eglurder ar natur yr hylifau mewn trawsnewidwyr a bwriad polisi’r rheoliad hwn.

Cwestiwn ymgynghoriad 11: I ba raddau y cytunwch fod y diwygiadau arfaethedig i Reoliad 4(3C) y Rheoliadau Biffenylau PCB yn egluro gofynion y rheoliad hwn yn llwyddiannus?

Atebodd 10 ymatebydd y cwestiwn hwn gyda phob un yn cytuno gyda’r diwygiad arfaethedig.

Opsiwn Nifer yr ymatebion Canran o’r ymatebion
Cytuno’n gryf 3 27.3%
Cytuno 7 63.6%
Na’n cytuno na’n anghytuno 0 0%
Anghytuno 0 0%
Anghytuno’n gryf 0 0%
Ddim yn gwybod 0 0%
Gwell gen i beidio â dweud 0 0%
Heb ateb 1 9.1%

Cwestiwn ymgynghoriad 12: Eglurwch y rhesymau dros yr ateb a roesoch i gwestiwn 11, gan gyfeirio at dystiolaeth a / neu opsiynau eraill posib, lle bo’n berthnasol.

Derbyniwyd 6 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Rhoddir manylion yr ymatebion isod yn yr adran ‘Sylwadau pellach ar y pedwar diwygiad arfaethedig’.

Diwygiad i Reoliad 4(4)(a)

Roeddem ni’n cynnig diwygio Rheoliad 4(4)(a) yn y Rheoliadau Biffenylau PCB drwy ddisodli cyfeiriad at ‘Biffenylau PCB’ a rhoi ‘hylifau’n cynnwys biffenylau PCB’ yn ei le, i roi eglurder ar beth ddylai amcan dihalogi trawsnewidwyr fod a bwriad polisi’r rheoliad hwn.

Cwestiwn ymgynghoriad 13: I ba raddau y cytunwch fod y diwygiadau arfaethedig i Reoliad 4(4)(a) y Rheoliadau Biffenylau PCB yn egluro gofynion y rheoliad hwn yn llwyddiannus?

Atebodd 11 y cwestiwn hwn. Roedd 10 o’r ymatebwyr yn cytuno ac un yn anghytuno â’r diwygiad arfaethedig.

Opsiwn Nifer yr ymatebion Canran o’r ymatebion
Cytuno’n gryf 2 18.2%
Cytuno 8 72.7%
Na’n cytuno na’n anghytuno 0 0%
Anghytuno 0 0%
Anghytuno’n gryf 1 9.1%
Ddim yn gwybod 0 0%
Gwell gen i beidio â dweud 0 0%
Heb ateb 0 0%

Cwestiwn ymgynghoriad 14: Eglurwch y rhesymau dros yr ateb a roesoch i gwestiwn 13, gan gyfeirio at dystiolaeth a / neu opsiynau eraill posib, lle bo’n berthnasol.

Derbyniwyd 7 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Rhoddir manylion yr ymatebion isod yn yr adran ‘Sylwadau pellach ar y pedwar diwygiad arfaethedig’.

Diwygiad i Reoliad 5(3)

Roeddem ni’n cynnig diwygio Rheoliad 5(3) yn y Rheoliadau Biffenylau PCB drwy ddisodli cyfeiriad at ‘Biffenylau PCB’ a rhoi ‘hylifau’n cynnwys biffenylau PCB’ yn ei le, i roi eglurder ar natur yr hylifau mewn darn o gyfarpar i bwrpas labelu, ac eglurder ar fwriad polisi’r rheoliad hwn.

Cwestiwn ymgynghoriad 15: I ba raddau y cytunwch fod y diwygiadau arfaethedig i Reoliad 5(3) y Rheoliadau Biffenylau PCB yn egluro gofynion y rheoliad hwn yn llwyddiannus?

Atebodd 11 y cwestiwn hwn. Roedd 10 o’r ymatebwyr yn cytuno â’r diwygiad arfaethedig ac un yn anghytuno â’r diwygiad arfaethedig.

Opsiwn Nifer yr ymatebion Canran o’r ymatebion
Cytuno’n gryf 3 27.3%
Cytuno 7 63.6%
Na’n cytuno na’n anghytuno 0 0%
Anghytuno 0 0%
Anghytuno’n gryf 1 9.1%
Ddim yn gwybod 0 0%
Gwell gen i beidio â dweud 0 0%
Heb ateb 0 0%

Cwestiwn ymgynghoriad 16: Eglurwch y rhesymau dros yr ateb a roesoch i gwestiwn 15, gan gyfeirio at dystiolaeth a / neu opsiynau eraill posib, lle bo’n berthnasol.

Derbyniwyd 7 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Rhoddir manylion yr ymatebion isod yn yr adran ‘Sylwadau pellach ar y pedwar diwygiad arfaethedig’.

Sylwadau pellach ar y pedwar diwygiad arfaethedig

Pan roddwyd cyfle i gyflwyno sylwadau pellach i gefnogi lefel eu cytundeb â’r pedwar diwygiad arfaethedig, roedd rhwng 6 ac 8 o’r ymatebwyr wedi dewis gwneud sylwadau ychwanegol ar bob cynnig.

O’r rhai a wnaeth sylwadau ychwanegol, roedd y mwyafrif llethol (yn achos Rheoliadau 4(3A), 4(4a) a 5(3)), neu bob un (yn achos Rheoliad 4(3C)), o’r ymatebwyr hyn o blaid y cynigion gan ddweud eu bod yn cytuno y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn gwneud i ffwrdd â’r ansicrwydd yn fersiwn bresennol y Rheoliadau.

Dywedodd yr un ymatebydd a wnaeth sylwadau ychwanegol yn erbyn y cynigion hyn eu bod wedi sylwi ar wrthdaro rhwng geiriad newydd arfaethedig y Rheoliadau Biffenylau PCB a diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Biffenylau PCB 2020, y canllawiau atodol, a Rheoliad Llygryddion POPs yr UE yr oedd Rheoliadau Biffenylau PCB 2020 yn seiliedig arno. Dywedodd yr ymatebydd yma fod hyn oherwydd y newid geiriad arfaethedig o gyfaint o biffenylau PCB i gyfaint hylifol fel maen prawf ar gyfer tynnu cyfarpar allan o wasanaeth. Dywedodd yr ymatebydd hefyd eu bod yn credu y byddai’r geiriad newydd arfaethedig yn dargyfeirio o Reoliad Llygryddion POPs yr UE gan wneud gofynion y Deyrnas Unedig o dan y rheoliad hwn yn fwy beichus i gydymffurfio â nhw na gofynion cyfatebol yr UE.

Dywedodd un o’r ymatebwyr oedd o blaid y cynigion fod angen ystyried y broses lle y gallai llaid yng ngwaelod unedau llawn olew ail-symudo biffenylau PCB i mewn i’r olew.

O ran cynigion yn ymwneud â Rheoliadau 4(3A) a 4(4a), roedd y rhan fwyaf oedd o blaid y cynnig wedi ychwanegu sylw bod geiriad arfaethedig y rheoliadau diwygiedig yn awgrymu y gallai trawsnewidydd barhau i gael ei gadw’n cynnwys llai na 50ml o olew y tu mewn iddo, ond yn teimlo y byddai defnyddio trawsnewidwyr olew o’r maint hwn yn annhebygol.

Ystyried yr effeithiau ariannol

Cwestiwn ymgynghoriad 17: Cafodd effaith ariannol y polisi hwn ei hasesu a’i chyhoeddi mewn asesiad effaith yn 2020. Nid ydym ni’n rhagweld y byddai’r diwygiadau eglurhaol arfaethedig yn yr offeryn statudol drafft hwn yn rhoi unrhyw faich ariannol ychwanegol ar fusnesau yn y DU. A oes gennych unrhyw dystiolaeth i awgrymu’n wahanol? Os felly, rhowch fanylion gan gyfeirio’n benodol at unrhyw dystiolaeth o effeithiau neu gostau a fyddai’n cael eu hachosi.

Derbyniwyd 8 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Dywedodd un ymatebydd eu bod yn cytuno na fyddai unrhyw faich ariannol ychwanegol yn codi o’r diwygiadau arfaethedig.

Dywedodd 6 ymatebydd nad oedd ganddynt dystiolaeth i awgrymu y byddai’r diwygiadau eglurhaol arfaethedig yn rhoi baich ariannol ychwanegol ar fusnesau yn y DU.

Lleisiodd un ymatebydd bryderon y byddai’r cynigion yn cynyddu’n sylweddol y gost a’r amser i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddiwygiedig gan amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio 10 gwaith yn fwy na’r hyn yr oeddent wedi amcangyfrif i ddechrau .

Unrhyw sylwadau neu dystiolaeth bellach i’w rhannu

Cwestiwn ymgynghoriad 18: Defnyddiwch y gofod hwn i wneud unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am yr ymgynghoriad hwn a’r diwygiadau arfaethedig.

Derbyniwyd 9 ymateb i’r cwestiwn hwn.

Dywedodd un ymatebydd eu bod yn credu y byddai’r newidiadau arfaethedig yn ddefnyddiol iawn gan helpu i wneud y gofynion rheoleiddio ar gyfer biffenylau PCB yn fwy eglur, a dywedodd un arall bod gwneud y Rheoliadau’n fwy eglur i’w groesawu’n fawr.

Holodd 6 o’r ymatebwyr pam na chynigiwyd diwygio’r diffiniad o “cyfarpar perthnasol” yn Rheoliad 4(10), sy’n cyfeirio ar hyn o bryd at gyfaint o biffenylau PCB, gan deimlo nad yw geiriad presennol Rheoliad 4 yn gyson â’r geiriad diwygiedig arfaethedig o ‘cyfaint o hylifau’ yn yr ymgynghoriad.

Dywedodd un ymatebydd eu bod yn credu, drwy gydymffurfio â geiriad diwygiedig y ddeddfwriaeth, y byddai gwerth gweddilliol y cyfarpar yn cael ei ddifetha ac y byddai’r difetha gwerth hwn yn anghymesur ag effaith amgylcheddol y cyfarpar.

Ymateb Llywodraeth y DU

Rydym ni wedi ystyried pob ymateb i’r ymgynghoriad yn ofalus a diolchwn i’r ymgyngoreion am roi eu hamser i ymateb.

Ar laid mewn unedau

Rydym wedi nodi’r sylw bod angen ystyried y broses lle y gallai llaid yng ngwaelod cyfarpar llawn olew ail-symudo biffenylau PCB i mewn i’r olew. Cytunwn fod angen bod yn ofalus iawn gyda llaid mewn cyfarpar ac mae’r rheoleiddwyr wedi cadarnhau bod hyn yn arfer gorau ers tro. Pan newidir yr olew mewn trawsnewidydd, mae’r cyfarpar yn cael ei olchi ag olew, ac yna’n cael ei brofi am biffenylau PCB. Mae’r broses yn cael ei hailadrodd os oes unrhyw arwydd o halogi PCB.

Ar unedau’n cynnwys llai na 50ml o olew

Er yn cydnabod y byddai busnesau yn y DU yn annhebygol o ddal trawsnewidwyr gyda llai na 50ml o olew’n cynnwys biffenylau PCB, o dan y diwygiadau arfaethedig bydd y Rheoliadau Biffenylau PCB yn parhau i adael i drawsnewidwyr yn cynnwys 50ml neu lai o olew gael eu defnyddio tan ddiwedd eu hoes ddefnyddiol.

Ar ddiffinio ‘cyfarpar perthnasol’ – pam nad oes angen rhoi eglurder ar Reoliad 4(10)

Rydym wedi nodi’r sylwadau’n gofyn pam na fwriedir diwygio’r diffiniad o ‘cyfarpar perthnasol’ yn Rheoliad 4(10), sy’n cyfeirio at ‘gyfaint o biffenylau PCB’, i fod yn gyson â’r geiriad arfaethedig yn Rheoliadau 4(3A), 4(3C), 4(4)(a) a 5(3), i gyfeirio at ‘gyfaint o hylifau’.

Bwriad polisi gyda Rheoliadau 4(9) a 4(10) gyda’i gilydd yw gadael i gyfarpar perthnasol, sy’n rhan o ddarn arall a mwy o gyfarpar perthnasol, gael ei ddal nes y bydd y darn mwy hwnnw o gyfarpar yn cael ei dynnu allan, os yw’n cynnwys 0.05 dm3 neu lai o hylifau’n cynnwys biffenylau PCB. Mae’r diffiniad llawn o biffenylau PCB yn Rheoliad 2(1) yn berthnasol i Reoliad 4(10) oherwydd nid yw’n destun yr eithriad sy’n berthnasol i rannau eraill o Reoliad 4 (a rheoliadau eraill). Mae “biffenylau PCB” felly eisoes yn cynnwys cymysgeddau, gan gynnwys hylifau, os yw’r hylif hwnnw’n cynnwys biffenylau PCB dros y crynodiad trothwy o 0.005% yn ôl y diffiniad o biffenylau PCB. Nid oes angen ei ddiwygio.

Rydym wedi nodi sut y gallai diwygio Rheoliad 4(10) i gyfeirio at gyfeintiau o hylifau’n hytrach na chyfeintiau o biffenylau PCB nodi’n glir iawn, pan fydd y rheoliad yn nodi ‘biffenylau PCB’, ei fod yn golygu ‘hylifau’n cynnwys biffenylau PCB’. Ond byddai gwneud hynny’n ehangu sgôp y rheoliad drwy fod yn berthnasol i unrhyw gymysgeddau’n cynnwys llai na 0.005%, neu hyd yn oed arlliw, o biffenylau PCB, gan felly newid bwriad polisi’r rheoliad hwnnw.

Ar sylwadau yn erbyn y diwygiadau arfaethedig i’r rheoliadau

Er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (10 allan o 11) o blaid ein diwygiadau arfaethedig, rydym ni wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a gawsom gan yr un ymatebydd oedd yn erbyn y diwygiadau arfaethedig o ran cyfeirio at gyfeintiau o hylifau’n cynnwys biffenylau PCB. Roedd yr ymatebydd yma’n anghytuno â’r newidiadau arfaethedig i gyfeirio’n benodol at gyfeintiau o hylifau’n cynnwys biffenylau PCB, yn lle cyfeintiau o biffenylau PCB, fel maen prawf i dynnu cyfarpar allan o wasanaeth, gan awgrymu y byddai’n anoddach cydymffurfio â gofynion y DU o dan y Rheoliadau hyn na gofynion cyfatebol yr UE.

Mae cytundeb ers tro, yn rhyngwladol a domestig, mewn dogfennau awdurdodol ar ddefnyddio a rheoli biffenylau PCB, bod cyfeirio at gyfeintiau o biffenylau PCB mewn cyfarpar yn gyfeiriad at gyfanswm y cyfeintiau o hylifau (fel olew) sydd â biffenylau PCB yn gymysg yn yr hylifau hynny. Mae’r dogfennau hyn yn cynnwys Cyfarwyddeb 96/59/EC yr UE ar Biffenylau PCB a ddaeth i rym yn 1996, Confensiwn Stockholm yr UE ar Lygryddion POPs, y Rheoliadau Biffenylau PCB eu hunain, a’r Rheoliad Llygryddion POPs.

Mae cyfeirio at gyfeintiau o biffenylau PCB yn cyfeirio at gyfeintiau o olew’n gymysg â biffenylau PCB yn arfer hirsefydlog sy’n adlewyrchu dealltwriaeth rheoleiddwyr sy’n asesu cydymffurfio ar y sail yma. Mae hefyd yn adlewyrchu dealltwriaeth y rhan fwyaf o fusnesau a reoleiddir. Dywedodd y mwyafrif helaeth o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad (10 allan o 11) eu bod yn deall bod y Rheoliadau’n berthnasol i gyfeintiau o hylifau’n cynnwys biffenylau PCB, yn hytrach na chyfeintiau o biffenylau PCB pur. Gwelsom hyn yn eu cefnogaeth i’n cynigion a’r ffaith nad ydynt yn rhagweld unrhyw effeithiau ariannol ychwanegol o ganlyniad i’r diwygiadau oherwydd eu bod wedi bod yn gweithio tuag at derfyn amser 2025 ar y sail bod y gofynion i dynnu cyfarpar allan o wasanaeth yn cyfeirio at gyfeintiau o hylifau’n cynnwys biffenylau PCB.

Ar ddargyfeirio o reoliadau

Rydym wedi ystyried yn ofalus yr un ymateb i’r ymgynghoriad a ddywedodd y byddai’r geiriad newydd arfaethedig yn dargyfeirio o Reoliad Llygryddion POPs yr UE a ysgogodd y diwygiad i Reoliadau Biffenylau PCB yn 2020. Rydym hefyd wedi ystyried y sylw y byddai hyn yn gwneud gofynion y DU o dan y Rheoliadau Biffenylau PCB yn fwy beichus i gydymffurfio â nhw na gofynion cyfatebol yr UE. Deallwn fod cyfeiriadau at gyfeintiau yn Rheoliad Llygryddion POPs yr UE wedi eu bwriadu, ac yn cael eu deall, i gyfeirio at gyfeintiau o hylifau, nid biffenylau PCB pur. Bydd y diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Biffenylau PCB yn eu gwneud yn fwy cyson â Rheoliad Llygryddion POPs yr UE drwy wneud i ffwrdd ag unrhyw amwysedd posib wrth gyfeirio’n bresennol at gyfeintiau.

Ar effeithiau ariannol

Rydym wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a wnaed gan un ymatebydd a ddywedodd y byddai’r gost o ddatgomisiynu cyfarpar yn cynnwys biffenylau PCB yn cynyddu oherwydd y diwygiadau arfaethedig i’r Rheoliadau Biffenylau PCB ac y byddai gorfod dinistrio cyfarpar gyda gwerth gweddilliol yn anghymesur ag effaith amgylcheddol y cyfarpar. Er y gofynnwyd i’r ymatebydd roi manylion penodol am unrhyw dystiolaeth o effeithiau neu gostau a fyddai’n cael eu hachosi, ychydig iawn o wybodaeth am hyn oedd ar gael.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym wedi cysylltu â’r un ymatebydd a ddywedodd y byddai eu costau cydymffurfio’n cynyddu i’w helpu i adnabod yn fwy cywir a diwygio eu hamcangostau cychwynnol.

Yn 2020 cafodd Asesiad Effaith ei wneud yn darparu asesiad llawn o brif effeithiau diwygiadau 2020 i Reoliadau Biffenylau PCB. Roedd yr asesiad effaith yma’n cynnwys asesiad economaidd llawn o’r prif gostau ariannol ac anariannol, a’r prif fanteision ariannol ac anariannol, ynghlwm wrth brofi, tynnu allan ac adnewyddu cyfarpar wedi’i halogi cyn i’r cyfarpar ddod at ddiwedd ei oes ddefnyddiol. Ystyriwyd hefyd y prif risgiau, ystyriaethau sensitifrwydd a thybiaethau, yn ogystal ag effaith diwygio’r rheoliadau ar fusnesau bach, cyrff cyhoeddus a gwneuthurwyr cyfarpar trawsnewid trydan.

Roedd datblygu’r asesiad effaith yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i wneud asesiad manwl o’r gost o gydymffurfio â’r gofynion newydd a gynigiwyd yn 2020, gyda’r costau a ddyfynnwyd yn yr asesiad effaith wedi eu deillio a’u cytuno gan swyddogion ar y sail bod cyfanswm y cyfeintiau’n berthnasol i gyfeintiau o hylifau’n cynnwys biffenylau PCB, ac nid i gyfeintiau o biffenylau PCB pur. O dan yr opsiwn a ffafrir o wneud yr asesiad effaith, byddai angen i ddalwyr cyfarpar trawsnewid trydan dynnu cyfarpar wedi’i halogi â biffenylau PCB allan o wasanaeth erbyn terfyn amser 2025, ar gost iddynt eu hunain yn unol â’r egwyddor mai’r ‘llygrwr sy’n talu’, i gael ei oruchwylio gan y rheoleiddiwr perthnasol (Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) yng Nghymru. Gall y rheoleiddwyr gytuno i dynnu cyfarpar allan o’u rhestri o ddaliadau biffenylau PCB os gellir eu bodloni bod y cyfarpar wedi cael ei ddihalogi neu os gellir profi, drwy ddadansoddiad, ei fod yn rhydd o biffenylau PCB.

Ar ôl ystyried yr Asesiad Effaith a’r wybodaeth a’r sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd drwy’r ymgynghoriad hwn, yn ogystal â phwysigrwydd y Rheoliadau Biffenylau PCB i atal niwed i iechyd pobl a’r amgylchedd, daethom i’r casgliad bod y mesurau a gynigiwn yn yr ymgynghoriad hwn yn gymesur.

Casgliadau

Yn 2018, ymrwymodd Llywodraeth y DU yn ei Chynllun Amgylchedd 25 Mlynedd i sicrhau bod cemegion yn cael eu defnyddio a’u rheoli’n ddiogel a bod faint o gemegion niweidiol sy’n mynd i’r amgylchedd yn cael ei leihau’n sylweddol, gan gynnwys drwy “gynyddu’n sylweddol faint o ddeunydd Llygryddion Organig Parhaus (POPs) sy’n cael ei ddinistrio neu drawsnewid yn ddi-droi’n ôl erbyn 2030” ac, yn benodol, drwy “geisio dileu’r defnydd o biffenylau polyclorinedig (PCB) erbyn 2025, yn unol â’n hymrwymiadau o dan Gonfensiwn Stockholm.”

Yn 2023 fe wnaeth Llywodraeth y DU hefyd ailddatgan y nod hwn yn ei Chynllun Gwella’r Amgylchedd gan ymrwymo i “geisio dileu’r defnydd o biffenylau polyclorinedig (PCB) erbyn 2025 yn unol â’n hymrwymiadau o dan Gonfensiwn Stockholm”, ac rydym wedi datgan er mwyn sicrhau hyn y byddwn yn “gweithio gyda’r diwydiant i gofrestru a thynnu allan o ddefnydd yr holl gyfarpar sy’n cynnwys biffenylau polyclorinedig (PCB) erbyn 2025”.

Nod y diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Biffenylau PCB yw egluro’n well a dileu unrhyw amwysedd posib o ran sut y dehonglir y Rheoliadau fel y gallwn gwrdd â’r ymrwymiadau hyn ac fel y gall busnesau a chyrff cyhoeddus barhau i reoli, yn effeithiol, gyda sicrwydd ac yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol, unrhyw gyfarpar sy’n cynnwys biffenylau PCB .

Roedd y mwyafrif llethol o ymatebwyr i’r ymgynghoriad o blaid ein cynigion ac nid oeddent yn rhagweld unrhyw effeithiau ariannol ychwanegol yn sgîl y diwygiadau. Bwriadwn symud ymlaen â’r newidiadau arfaethedig i Reoliadau Biffenylau PCB ar gyfer Cymru a Lloegr fel y disgrifiwyd yn y dogfennau ymgynghori pan fydd amser seneddol ar gael.

Dylai unrhyw sefydliadau sydd angen mwy o fanylion am weithredu’r gofynion o dan y Rheoliadau Biffenylau PCB gysylltu â’r cyrff rheoleiddio perthnasol (Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr neu NRW yng Nghymru).

Camau nesaf

Bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n symud ymlaen â’r newidiadau arfaethedig i Reoliadau Biffenylau PCB ar gyfer Cymru a Lloegr fel y disgrifiwyd yn y dogfennau ymgynghori pan fydd amser seneddol ar gael.