Closed consultation

Consultation paper: amendments to the Poisons Act 1972 (Welsh)

Updated 4 February 2022

Applies to England, Scotland and Wales

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar y diwygiadau arfaethedig i fesurau rheoli ar gyfer gwerthu rhagsylweddion ffrwydrol a gwenwynau o dan Ddeddf Gwenwynau 1972. Mae’r ymgynghoriad wedi’i anelu at fusnesau sy’n cyflenwi cemegion a chynhyrchion cemegol, marchnadoedd ar-lein sy’n hwyluso’r cyflenwad o gemegion a chynhyrchion cemegol drwy eu marchnadoedd ac aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio cemegion a chynhyrchion cemegol penodol yn eu hobïau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Roedd Strategaeth CONTEST a gyhoeddwyd yn 2018 yn glir, er bod gan derfysgwyr yr uchelgais o hyd i gynnal ymosodiadau cymhleth, ‘bydd y rhan fwyaf o gynlluniau terfysgol yn y DU yn y dyfodol yn defnyddio dulliau syml y gellir eu datblygu’n rhwydd ac yn gyflym’. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwenwynau ac yn arbennig rhagsylweddion ffrwydrol, fel y gwelsom i effaith angheuol ym Manceinion yn 2017. Am y rheswm hwnnw, ymrwymodd y strategaeth i ‘Wella galluoedd i ganfod gweithgarwch terfysgol sy’n cynnwys deunydd Cemegol, Biolegol, Radiolegol, Niwclear a Ffrwydron (CBRNE) a’u rhagsylweddion ac i reoli a diogelu’r deunyddiau hyn’.

Nod y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yw cyflawni’r ymrwymiad hwnnw tra’n cynnal cydbwysedd ar gyfer defnyddwyr cyfreithlon.

Cefndir

Mae Deddf Gwenwynau 1972 yn rheoli gwerthu rhai rhagsylweddion ffrwydrol a gwenwynau. Nod y ddeddfwriaeth yw rheoli cemegion a gwenwynau y gellir eu defnyddio i achosi niwed tra’n parhau i ganiatáu i aelodau o’r cyhoedd a busnesau sydd ag angen cyfreithlon gael mynediad i’r sylweddau hyn i barhau â’u gweithgareddau. Mae’n cynnwys mesurau fel:

Trwyddedu Rhagsylweddion Ffrwydrol a Gwenwynau a Reoleiddir:

Gall aelod o’r cyhoedd ond prynu ffrwydron a gwenwynau a reoleiddir gyda thrwydded ddilys. Mae gwerthiannau a sylweddau Busnes i Fusnes sydd wedi’u cyfyngu i ddefnyddwyr proffesiynol wedi’u heithrio rhag gofynion trwyddedu.

Adrodd am Drafodion Amheus:

Mae’n ofynnol i gyflenwyr rhagsylweddion ffrwydrol a gwenwynau a reoleiddir ac sy’n adroddadwy adrodd am drafodion amheus a cholledion a lladradau sylweddol. Mae’r gofyniad hwn yn cwmpasu gwerthiannau busnes i fusnes, trafodion cyfanwerthu a gwerthu cynhyrchion i’w defnyddio yn y cartref.

Gorfodi:

Mae’r Heddlu’n gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth. Mae’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol hefyd yn chwarae rhan yn eu rôl fel y rheoleiddiwr fferyllol a’r corff arolygiaeth.

Mae’r mesurau newydd arfaethedig yn mynd i’r afael â blaenoriaethau deddfwriaethol allweddol ar gyfer rheoli rhagsylweddion ffrwydrol a nodwyd yn dilyn ymosodiadau ffrwydrol Arena Manceinion a Parsons Green. Byddai’r cynigion yn parhau i ddefnyddio dull cydlynol o ymdrin â gwenwynau a rhagsylweddion ffrwydrol ac yn cynnwys rheolaethau cryfach ar ddilysu defnyddwyr proffesiynol sy’n arbennig o berthnasol i gemegion nad ydynt yn cael eu gwerthu i’r cyhoedd fel mater o drefn.

Yr amcan ar gyfer gweithredu’r mesurau newydd yw lleihau’r bygythiad a achosir gan y defnydd anghyfreithlon o ragsylweddion ffrwydrol a gwenwynau mewn ffordd sy’n gymesur ar gyfer y cyhoedd a busnesau yr effeithir arnynt.

Mae’r amcanion ar gyfer gweithredu yn canolbwyntio ar:

  • Leihau’r beichiau ar fusnesau a rheoleiddwyr tra’n sicrhau diogelwch a hyder y cyhoedd yng nghyfundrefn gwrth-derfysgaeth y DU;
  • Sefydlu pecyn deddfwriaethol sy’n lleihau canlyniadau anfwriadol, a mesurau diogelu rhag gwahaniaethu aelodau o’r cyhoedd sydd gyda defnydd cyfreithlon ar gyfer rhai o’r cemegion; a
  • Sicrhau canllawiau clir i gyflenwyr rhagsylweddion ffrwydrol a gwenwynau fel y gallant gydymffurfio’n hawdd â’u rhwymedigaethau.

Amgaeir Asesiad Effaith, ond gobeithiwn y bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i asesu’n llawn effaith bosibl y mesurau a ddisgrifir. Gan ddefnyddio’r data hwn, byddwn yn cwblhau Asesiad Effaith pellach cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ymgynghoriad hwn.

Croesewir sylwadau ar yr Asesiad Effaith.

Mae copïau o’r papur ymgynghori yn cael eu hanfon at y canlynol:

Consortiwm Manwerthu Prydain

Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain

Cydffederasiwn y Diwydiant Amaethyddol

Cymdeithas Masnach Arddwriaethol

Cymdeithas Storfeydd Cyfleustra

Cymdeithas Busnes Cemegol

Cymdeithas y Diwydiant Cemegol

Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Cyngor Fferyllol Cyffredinol

Cymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol

Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

Cymdeithas Cosmetigau, Pethau Ymolchi, Persawr

Cymdeithas Diwydiant Cynnyrch Glanhau’r DU

Cymdeithas Pyrotechneg y DU

Cymdeithas Ceir Radio’r DU

Cymdeithas Rasio Cychod Pŵer Prydain

Cymdeithas Rocedeg y DU

Fodd bynnag, ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gynhwysfawr nac yn gyfyngedig a chroesewir ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb neu farn ar y pwnc a gwmpesir gan y papur hwn. Rydym yn ceisio ymgysylltu â chynulleidfa mor eang â phosibl.

Y cynigion

Opsiwn 1 yw gwneud dim newidiadau o gwbl.

Opsiwn 2 yw cryfhau ac egluro mesurau o fewn y ddeddfwriaeth, ond nid newid y sylweddau a’r crynodiadau y gall aelodau o’r cyhoedd eu caffael, eu mewnforio, eu meddu a’u defnyddio ar yr amod bod ganddynt drwydded ddilys.

Ni fyddai aelodau o’r cyhoeddyn sylwi ar lawer o newid. Byddent yn dal i allu gwneud cais am drwydded er mwyn caffael, mewnforio, meddu neu ddefnyddio’r rhagsylweddion ffrwydrol a’r gwenwynau canlynol a gwmpesir yn Neddf Gwenwynau 1972.

Rhagsylweddion ffrwydron rheoledig cyfredol Crynodiad y mae angen trwydded os yw’n uwch nag ef (w/w) (w/w)
Hydrogen perocsid 12%
Asid nitrig 3%
Asid sylffyrig 15%
Nitromethan 30%
Potasiwm clorad 40%
Potasiwm perclorad 40%
Sodiwm clorad 40%
Sodiwm perclorad 40%
Gwenwynau a Reoleiddir
Ffosffad Alwminiwm
Arsenig; ei gyfansoddion
Bariwm, halwynau o,
Bromomethan
Cloropicrin
Asid fflworasetig; ei halwynau; fflworasetamid
Hydrogen cyanid; syanidau metel, ac eithrio fferoseianidau a fferiseianidau
Asetynnau plwm; cyfansoddyn plwm gydag asidau o olewau sefydlog
Magnesiwm ffosffid
Mercwri, cyfansoddion, o’r canlynol: - Nitradau mercwri ; ocsidiau syanid mercwrig; thiosyanad mercwrig; clorisau amoniwm mercwrig; ïodinau potasiwm mercwrig; cyfansoddion organig o fercwri sy’n cynnwys grŵp methyl sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r atom mercwri
Asid Ocsalig (10% w/w)
Ffenols (ffenol; isomerau ffenolig o’r cresolau canlynol, xylenols, monoethylffenols) ac eithrio mewn sylweddau sy’n cynnwys llai na 60% o bwysau o ran pwysau ffenols; cyfansoddion ffenols gyda metel, ac eithrio mewn sylweddau sy’n cynnwys llai na’r hyn sy’n cyfateb i 60% o bwysau mewn pwysau, o ffenols
Ffosfforws melyn
Strycnin; ei halwynau mewn cyfansoddion cwaternaidd
Thaliwm, halwynau ohono

Defnyddwyr proffesiynol yw’r rhai sydd ag angen amlwg am sylwedd rheoleiddiedig sy’n gysylltiedig â’u masnach, eu busnes neu eu proffesiwn. Gall hyn fod yn broffesiwn rhan-amser neu amser llawn. Nid ydynt yn cyflenwi’r sylwedd i eraill. Byddent yn dal i allu caffael, mewnforio, meddu a defnyddio rhagsylweddion ffrwydrol a gwenwynau a reoleiddir heb fod angen trwydded arnynt. Byddai’n ofynnol iddynt ddarparu prawf o’u busnes a manylion eu defnydd arfaethedig i’w cyflenwr yn rheolaidd neu rhag ofn y bydd newid sylweddol yn y trafodyn. Mae hyn er mwyn i’r cyflenwr allu gwirio ei statws, cofnodi’r manylion ac asesu amheuaeth.

Byddai angen i gyflenwyr barhau i ddilysu trwyddedau a phrawf adnabod wrth werthu rhagsylweddion ffrwydradau a gwenwynau a reoleiddir i aelodau’r cyhoedd. Byddai angen iddynt wirio’r statws a’r bwriad i ddefnyddio a chofrestru manylion y trafodyn wrth werthu i ddefnyddiwr proffesiynol neu gyflenwr arall. Byddai manylion o’r fath yn cynnwys: prawf adnabod unigolyn sydd â hawl i gynrychioli’r busnes; eu masnach, eu busnes neu eu proffesiwn; enw, cyfeiriad y cwmni; rhif TAW; a’r defnydd a fwriedir.

Byddai angen i’r cyflenwr asesu a yw’r defnydd a fwriedir yn gyson â’r fasnach, y busnes neu’r proffesiwn. Ble mae amheuaeth neu ansicrwydd, gellid gwrthod y gwerthiant ac adrodd amdano fel trafodyn amheus. Byddai cofnodion yn cael eu cadw am 18 mis a byddent ar gael i’w harchwilio.

Byddai angen i gyflenwyr barhau i adrodd am drafodion amheus gan roi sylw i bob amgylchiad. Byddai angen gwneud adroddiadau o fewn 24 awr o ystyried bod trafodiad neu drafodiad a geisir yn amheus.

Byddai angen i gyflenwyr hefyd hyfforddi eu staff ar gyfyngiadau a rhwymedigaethau adrodd. Ac os ydynt yn cyflenwi rhagsylweddion ffrwydrol neu wenwyn a reoleiddir i gyflenwr arall, byddai angen iddynt roi gwybod i’w cwsmer am y cyfyngiadau neu’r rhwymedigaethau adrodd cysylltiedig.

Mae marchnadoedd ar-lein yn gweithredu fel cyfryngwr sy’n caniatáu i gyflenwyr gwblhau trafodion gydag aelodau o’r cyhoedd, cyflenwyr eraill a defnyddwyr proffesiynol.

Byddai angen i farchnadoedd ar-lein adrodd am drafodion amheus gan roi sylw i bob amgylchiad a bod ganddynt weithdrefnau priodol, cymesur i ganfod trafodion amheus, wedi’u haddasu i’w hamgylchedd penodol. Byddai angen gwneud adroddiadau o fewn 24 awr o ystyried bod trafodiad neu ymdrech i wneud drafodiad yn amheus.

Byddai disgwyl i farchnadoedd ar-lein hefyd helpu defnyddwyr eu gwasanaethau i ddeall a chydymffurfio â rhwymedigaethau sy’n ymwneud â dilysu cwsmeriaid ac adrodd am drafodion amheus.

Mae Opsiwn 3 yn cyflwyno nifer o fesurau newydd i gynyddu diogelwch. Nod y cynigion hyn yw cynyddu ein gallu i ddiogelu rhag terfysgaeth a gweithgarwch maleisus drwy gyfyngu ar fynediad i gemegion sy’n peri pryder penodol a chynyddu ein gallu i nodi a gweithredu ar drafodion amheus. Rydym yn ceisio deall yr effaith y gallai fod yn rhaid i’r mesurau hyn ei chael i sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir yn gymesur ac nad yw’n gosod cyfyngiadau gormodol ar y rhai sy’n ceisio cael gafael ar ragsylweddion ffrwydrol a gwenwynau at ddibenion cyfreithlon.

O dan yr opsiwn hwn, mae’r un diwygiadau i egluro a chryfhau’r ddeddfwriaeth a restrir o dan Opsiwn 2 yn gymwys, yn ogystal â chyflwyno trothwy crynodiad uchaf i’w cymhwyso i Drwyddedau Rhagsylweddion Ffrwydrol a Gwenwynau sy’n cael eu rhoi i aelodau’r cyhoedd.

Tabl: Terfynau crynodiad uchaf arfaethedig i’w hychwanegu o dan Opsiwn 3:

Rhagsylweddion ffrwydrol a reoleiddir Crynodiad y mae angen trwydded amdano os yw’n uwch nag ef (w/w) Crynodiad na roddir trwydded iddo os yw’n uwch nag ef (w/w)
Hydrogen perocsid 12% 35%
Asid nitrig 3% 10%
Asid sylffyrig 15% 40%
Nitromethan 16% 100%
Potasiwm clorad 40% 40%
Potasiwm perclorad 40% 40%
Sodiwm clorad 40 40%
Sodiwm perclorad 40% 40%
Amoniwm nitrad 16%N 16%N

O dan opsiwn 3, byddwn yn ystyried ychwanegu sylweddau pellach at y rhestrau o ragsylweddion ffrwydrol a gwenwynau adroddadwy ac a reoleiddir. Mae’r tablau isod yn dangos ychwanegiadau arfaethedig i’r rhestrau rhagsylweddion ffrwydrol a gwenwynau presennol (ar dudalen 4). Byddai terfynau crynodiad uchaf ar gyfer y rhagsylweddion ffrwydrol a reoleiddir arfaethedig yn cael eu hystyried ar ôl ymgynghori.

Ychwanegiadau arfaethedig i ragsylweddion ffrwydrol a reoleiddir Crynodiad y mae angen trwydded amdano os yw’n uwch nag ef (w/w)
Asid Hydroclorig 10%
Asid Ffosfforig 30%
Hecsamin I’w gadarnhau
Amoniwm Nitrad 16% N
Ychwanegiadau arfaethedig i ragsylweddion ffrwydrol adroddadwy
Sylffwr
Ychwanegiadau arfaethedig i Wenwynau rheoledig
Alwminiwm Sylffid
Sodiwm Sylffid
Calsiwm Sylffid
Magnesiwm Sylffid
Ffosffid Sinc
Ffosffid Calsiwm
Cyfansoddion arsenig a mercwri
2,4 – Dinitrophenol a deilliadau gan gynnwys sodiwm dinitrophenolad
Ychwanegiadau arfaethedig i Wenwynau Adroddadwy
Sylffidau metel
Ffosffidau metel
Toddiadau sodiwm hypoclorid

Byddai’r opsiwn hwn hefyd yn cynnwys mesurau i gryfhau’r drefn Adrodd am Weithgarwch Amheus drwy gyflwyno gofyniad i adrodd am adroddiadau gweithgaredd amheus drwy borth ar-lein a gynhelir drwy gov.uk (neu rif ffôn lle nad yw hyn yn bosibl). Byddai hefyd gofyniad i fanwerthwyr ddarparu gwybodaeth adnabyddadwy cyfredol, (er enghraifft, enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref) sy’n ymwneud â thrafodiad amheus wrth wneud yr adroddiad am weithgaredd amheus. Ni fydd hyn yn creu rhwymedigaeth i gasglu gwybodaeth adnabyddadwy lle nad yw hyn yn cael ei chadw, dim ond gofyniad i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â thrafodiad amheus a gedwir fel mater o drefn.

Bwriad y mesurau hyn fyddai gwella ansawdd y wybodaeth a dderbynnir mewn adroddiadau am weithgarwch amheus, ac wedyn cynyddu’r gallu i ni gymryd camau priodol yn dilyn adroddiad am weithgaredd amheus lle mae hyn yn angenrheidiol drwy safoni’r ffordd yr ydym yn derbyn yr adroddiadau. Byddwn yn ymgynghori â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar y gofyniad hwn ac yn croesawu unrhyw farn ar y cynnig hwn ymhellach i’r cwestiynau a nodir yn y ddogfen ymgynghori isod.

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Gellir cael rhagor o gopïau papur o’r ymgynghoriad hwn o’r cyfeiriad hwn ac mae hefyd ar gael ar-lein yn

Gellir gofyn am fersiynau fformat amgen o’r cyhoeddiad hwn gan.

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yw’r rhain yn bennaf).

Os ydych am i’r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, cofiwch, fod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac sy’n ymdrin, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau cyfrinachedd. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais am ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn gyfrwymol i’r Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.

Atodiad A – Tabl o’r mesurau arfaethedig yn opsiynau 2 a 3.

Tabl 1a: Opsiwn 2, mesurau arfaethedig o dan welliant Deddf Gwenwynau, y DU, 2021

Na. Mesur Disgrifiad o’r Mesur
1 Hysbysiad o’r gadwyn gyflenwi Rhaid i Actorion Economaidd (Cynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr) sy’n cyflenwi sylwedd cyfyngedig i weithredwr economaidd arall roi gwybod iddynt am y cyfyngiadau a’r rhwymedigaethau adrodd. Rhaid i weithredwyr economaidd sy’n cyflenwi unrhyw sylweddau i ddefnyddwyr proffesiynol neu aelodau o’r cyhoedd sicrhau a gallu dangos bod ei bersonél yn ymwybodol pa un o’i gynhyrchion sy’n cynnwys sylweddau rhestredig ac yn cael cyfarwyddyd ar rwymedigaethau.
2 Gwirio statws defnyddiwr proffesiynol Bydd gweithredwyr economaidd sy’n cyflenwi sylweddau rheoleiddiedig i ddefnyddwyr proffesiynol a gweithredwyr economaidd eraill yn gofyn am: brawf o ID yr unigolyn sydd â hawl i gynrychioli; eu masnach, eu busnes neu eu proffesiwn; enw, cyfeiriad y cwmni; rhif TAW; a’r defnydd a fwriedir. Dylai’r cyflenwr asesu a yw’r defnydd a fwriedir yn gyson â’r fasnach, busnes neu broffesiwn. Os oes amheuaeth, gellir gwrthod y gwerthiant ond rhaid ei adrodd fel trafodyn amheus. Rhaid cofnodi a chadw pob trafodyn sylweddau a reoleiddir am 18 mis ac ar gael i’w harchwilio.
3 Rhwymedigaethau adrodd 24 awr Dylai gweithredwyr economaidd eisoes adrodd am drafodion amheus ynghylch pob amgylchiad a bod ganddynt weithdrefnau priodol a chymesur i ganfod trafodion amheus. Bydd y mesur hwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob adroddiad gael ei wneud o fewn 24 awr o ystyried bod trafodyn neu drafodiad a geisir yn amheus. Bydd gweithredwyr economaidd, defnyddwyr proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd yn adrodd am ddiflaniadau a lladradau sylweddol o fewn 24 awr i’w canfod.
4 Rhwymedigaethau ar-lein y farchnad Bydd gan leoedd marchnad ar-lein weithdrefnau priodol a chymesur i gydymffurfio â mesurau 1 – 4, wedi’u haddasu i’w hamgylchedd penodol.
5 Cymhwyso a phontio Bydd trwyddedau a ddyroddir o dan Reoliad 28/2013 yn parhau’n ddilys tan eu dyddiad dod i ben neu flwyddyn ar ôl i’r diwygiadau hyn ddod i rym, pa un bynnag sydd gyntaf. Bydd cais adnewyddu a wneir ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r diwygiadau i rym yn cael ei wneud o dan y ddeddfwriaeth newydd. Gall sylweddau a reoleiddir a gaffaelwyd yn gyfreithiol gan aelodau o’r cyhoedd cyn i’r diwygiadau ddod i rym gael eu meddu, eu cyflwyno a’u defnyddio’n gyfreithiol tan flwyddyn yn ddiweddarach.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref, 2021.

Tabl 1b: Opsiwn 3, mesurau arfaethedig o dan welliant y Ddeddf Gwenwynau, DU, 2021.

Na. Mesur Disgrifiad o’r Mesur
1-5   Opsiwn 3 Cynnwys: Yr holl fesurau a restrir yn Nhabl 1a.
6 Newidiadau i sylweddau a chrynodiadau trwyddedadwy Bydd newidiadau’n cael eu gwneud i drothwyon crynodiad sylweddau sydd ar gael i aelodau’r cyhoedd heb drwydded, eu cyflwyno neu eu defnyddio. Bydd trothwyon crynodiad uchaf ar gyfer trwyddedu sylweddau Rhan 1 yn cael eu diwygio. Bydd newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i statws rhai cemegion o dan y Ddeddf – er enghraifft, symud rhai sylweddau o adroddadwy i reoledig. Amlinellir y newidiadau hyn yn Atodiad A.
7 Trosglwyddo rheolaethau Amoniwm Nitrad Mae rheolaethau ar gyflenwad amoniwm nitrad yn symud o REACH Atodiad XVII a Rhan 3 o atodlen 1A i Ran 1. O ganlyniad, gwaherddir cyflenwi amoniwm nitrad i aelodau o’r cyhoedd a chaffael, meddiannu a defnyddio gan aelodau o’r cyhoedd. Bydd opsiwn i ganiatáu i aelodau’r cyhoedd gyflenwi, neu gaffael, meddiannu a defnyddio drwy drwydded.
8 Gofyniad i fanwerthwyr a marchnadoedd adrodd am SARs gan ddefnyddio porth ar-lein gov.uk Bydd yn ofynnol yn awr i fanwerthwyr a marchnadoedd adrodd am Adroddiadau Gweithgarwch Amheus (SARs) gan ddefnyddio porth ar-lein gov.uk. Bydd hyn yn cynnwys gofyniad i gynnwys yr holl ddata bywgraffyddol perthnasol cyfredol wrth fewnbynnu SARs.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref, 2021.

Egwyddorion ymgynghori

Nodir yr egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori. https://www.gov.uk/government/publications/consultation-principles-guidance.