Ymgynghoriad agored

Adolygu'r gyfraith ar gyfer dyfeisiau symudedd â phŵer

Crynodeb

Ceisio barn ar newid y rheolau ar gyfer defnyddio dyfeisiau symudedd â phŵer.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ceisio barn ar newid y rheolau ar gyfer defnyddio dyfeisiau symudedd â phŵer, gan gynnwys cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd â phŵer, ar ffyrdd a phalmentydd cyhoeddus.

Mae hyn yn cynnwys:

  • diweddaru’r geiriau a ddefnyddiwn yn y gyfraith i ddisgrifio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd â phŵer a phwy all eu defnyddio
  • ble gellir defnyddio’r dyfeisiau hyn – ar ffyrdd, palmentydd neu rywle arall
  • newid y rheolau ynghylch maint, cyflymder ac oedran ar gyfer defnyddio dyfeisiau mwy
  • a ddylid caniatáu i bobl gario teithiwr
  • a ddylid caniatáu mathau eraill o ddyfeisiau ar ffyrdd neu balmentydd cyhoeddus pan gânt eu defnyddio gan bobl anabl neu berson â symudedd cyfyngedig

Gweler yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg.

Dogfennau

Ffyrdd o ymateb

or

Cwblhau ffurflen ymateb a naill ai

E-bostio at:

mobilitydevices@dft.gov.uk

Ysgrifennu at:

Tîm Microsymudedd, Grŵp Trafnidiaeth Ffyrdd
Adran Drafnidiaeth
33 Horseferry Road
Llundain, SW1P 4DR

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2026 show all updates
  1. Dyddiad cau'r ymgynghoriad wedi'i ymestyn i 22 Ebrill 2026.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon