Casgliad

Enghreifftiau dilys o atwrneiaeth a gorchmynion dirprwy

Enghreifftiau swyddogol o atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus a gorchymyn dirprwy.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn diogelu pobl yng Nghymru a Lloegr nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol dros eu hunain o bosibl. Rydym hefyd yn helpu pobl i gynllunio ymlaen llaw bod rhywun arall yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan os ydynt yn ei chael yn anodd gwneud hynny, neu os nad ydynt yn gallu gwneud hynny, am nad oes ganddynt alluedd meddyliol bellach.

Mae 3 math o ddogfennau cyfreithiol sy’n rhoi’r pŵer i rywun wneud penderfyniadau o’r fath ynglŷn ag iechyd a lles neu arian ac eiddo ar ran rhywun arall: atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus a gorchmynion dirprwy.

Mae dolenni yn cynnwys enghreifftiau o’r dogfennau hyn ar gael isod. Pwrpas yr enghreifftiau hyn yw helpu pobl i ddeall beth yw atwrneiaeth a gorchmynion dirprwy dilys.

Mae nodiadau o dan bob math o ddogfen yn egluro’r marciau a manylion eraill sy’n gwneud y ddogfen yn ddilys. Hefyd, mae dolenni sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr awdurdod y mae pob dogfen yn ei roi i’r defnyddiwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Atwrneiaeth arhosol

Atwrneiaeth barhaus

Gorchymyn llys am ddirprwy

Cyhoeddwyd ar 20 May 2021