Astudiaeth achos

Dyfarnu £13.3 i Safle Treftadaeth y Byd i wneud gwelliannau ar gyfer ymwelwyr

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ardal hon o harddwch naturiol eithriadol wedi cael £13.3 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Bro.

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn gampwaith peirianegol ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Mae’r draphont ddŵr yn brif ganolbwynt ar y rhan 11 milltir o’r Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r ardal hon o harddwch naturiol eithriadol wedi cael £13.3 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Bro.

Bydd y cyllid yn helpu i:

  • sicrhau ei dyfodol fel prif ased treftadaeth
  • cynyddu potensial y safle i’r eithaf

Cynllun Basn Trefor i gynyddu buddion twristiaeth

Bydd camau cychwynnol Prif Gynllun Technegol Basn Trefor yn:

  • ailganolbwyntio’r safle o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte
  • darparu amrywiaeth o welliannau ar gyfer ymwelwyr

Bydd hyn yn cynnwys buddsoddiad i:

  • ddatblygu llwybr cerdded newydd yn Nyffryn Dyfrdwy a’r ardal o amgylch y draphont ddŵr
  • sefydlu ardal addysg a gweithgarwch coetir
  • ailwylltio hen dir diwydiannol
  • creu ardal gyrraedd newydd

Uwchraddio profiad ymwelwyr

Bydd y buddsoddiad yn gwella cysylltedd, gan gynnwys:

  • gwella cysylltiadau rhwng Llangollen a Gwarchodfa Natur Wenffrwd
  • llwybr teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio ar hyd llinell reilffordd nad yw’n cael ei defnyddio mwyach
  • man cyhoeddus newydd ar gyffordd Castle Street ac Abbey Road yn Llangollen
  • cyfleusterau newydd i ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol

Bydd mynediad gwell ar draws y safle yn darparu buddion iechyd a lles i ymwelwyr yn y dyfodol.

Gwelliannau i Orsaf Corwen

Bydd gwaith uwchraddio i’r orsaf a’r maes parcio yn cynnwys:

  • llwybr teithio llesol ar hyd yr hen linell reilffordd rhwng Corwen a Chynwyd
  • mannau gwefru cerbydau trydan

Bydd y gwelliannau hyn yn:

  • rhoi bywyd newydd i’r ardal fel atyniad twristiaid byd-eang
  • rhoi hwb mawr i’r economi leol

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023