Astudiaeth achos

Tŷ’n Llan yn dod yn dafarn a berchnogir gan y gymuned gyda buddsoddiad £250,000

Mae tafarn Tŷ’n Llan yn adeilad rhestredig Gradd II yn Llandwrog, Caernarfon. Mae dyfarniad o £250,000 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn eu helpu i gadw’r drysau ar agor.

Exterior of the Grade-II listed Ty’n Llan pub in Llandwrog

Mae tafarn Tŷ’n Llan yn adeilad rhestredig Gradd II yn Llandwrog, Caernarfon. Fe’i hadeiladwyd yn y 1860au ac fe gaeodd yn 2017. Mae’r gymuned leol yn gweithio’n galed i sicrhau ei dyfodol. Mae dyfarniad o £250,000 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn eu helpu i gadw’r drysau ar agor.

Pobl leol yn croesawu’r ailagoriad

Mae preswylwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i feddiannu’r dafarn gan y gymuned. Awgrymodd un aelod o’r cyhoedd fod ysbryd cymunedol wedi cael ei ailfywiogi a dywedodd:

Mae’n lle i bobl ddod i gyfarfod, nid dim ond yfed. Mae yna glybiau cerdded, mae yna glybiau darllen a boreau coffi i’r genhedlaeth hŷn. Mae’n rhywle i ddod â phlant i gyfarfod a chwarae.

Dywedodd un arall:

Mae tair cenhedlaeth o’m teulu wedi byw yma, ac rwy’n credu ei bod mor bwysig ei bod yma er mwyn i’r genhedlaeth nesaf ddod.

Gwelliannau i Dŷ’n Llan

Mae’r gwaith adnewyddu i’r dafarn yn cynnwys:

  • ystafell gymunedol ar gyfer cymdeithasau a chlybiau lleol
  • cegin a bwyty newydd
  • bar cyfoes

Dan reolaeth y gymuned

Mae’r dafarn bellach dan berchnogaeth a rheolaeth lwyr aelodau a gwirfoddolwyr cymuned Tŷ’n Llan.

Bu’n dirnod lleol am genedlaethau ac mae wedi denu sêr, cantorion a beirdd dros y blynyddoedd.

Diolch i ymdrechion codi arian lleol a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, mae dyfodol y dafarn yn fwy sicr bellach.

Members of the community and local volunteers gathered outside the Ty’n Llan pub entrance with banners and signs

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023