Astudiaeth achos

Hwb i’r Celfyddydau wrth i Ganolfan Gelfyddydau Muni gael £5.3 miliwn o gyllid

Dyrannwyd £5.3 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro i Ganolfan Gelfyddydau Muni ym Mhontypridd.

Uwchraddio Canolfan Gelfyddydau Muni

Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau dyfodol yr adeilad rhestredig Gradd II. Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys creu lleoliad sy’n cynnig:

  • cyfleusterau cymunedol hyblyg
  • sinema ddigwyddiadau
  • man cymdeithasol newydd
  • cyfleusterau bar
  • theatr
  • cerddoriaeth

Pan fydd wedi’i hadnewyddu, bydd y Muni:

  • yn gwbl hygyrch gyda thŷ bach Mannau Newid
  • yn defnyddio ynni’n effeithlon

Dysgwch fwy am sut mae ffyniant bro yn cefnogi’r Muni.

Bydd y cyllid yn cefnogi economi hamdden a nos Pontypridd trwy fuddsoddi yng nghelfyddydau a diwylliant y dref.

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023