Astudiaeth achos

Dyfarnu £17 miliwn i Gaergybi am ei diwylliant a'i threftadaeth

Cafodd Cyngor Ynys Môn £17 miliwn i'w fuddsoddi yn niwylliant a threftadaeth Caergybi. Bydd y cyllid yn blaenoriaethu adfywio canol y dref a lleoliadau allweddol yn ardal ehangach Caergybi.

Adfywio Canol Tref Caergybi

Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwelliannau a chynlluniau ledled Canol Tref Caergybi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • adnewyddu eiddo yng nghanol tref sydd wedi cael eu hesgeuluso fel rhan o gynllun Trawsnewid Treflun
  • bydd tu blaen siopau presennol yn cael eu hadnewyddu yn unol â threftadaeth gyfoethog y dref
  • bydd eiddo adfeiliedig yng nghanol y dref yn cael eu prynu a’u hadnewyddu fel rhan o’r Rhaglen Eiddo Gwag
  • bydd Canolfan Chwarae’r Empire yn cael ei hymestyn i ganiatáu mwy o gapasiti i ymwelwyr
  • bydd Eglwys Sant Cybi rhestredig Gradd 1 yn troi yn ofod cymunedol
  • bydd Eglwys y Bedd rhestredig Gradd 2, yn cael ei thrawsnewid yn gaffi ffasiynol yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant mewn lletygarwch ac arlwyo mewn gofod treftadaeth
  • ailddatblygu maes parcio Swift Square a Churchyard

Gwella safleoedd allweddol Caergybi

Bydd y cyllid yn cefnogi amrywiaeth o safleoedd yng Nghaergybi

  • ymestyn Canolfan y Celfyddydau Ucheldre i ddarparu cyfleusterau gwell a mwy o gapasiti ar gyfer eu rhaglen ddigwyddiadau helaeth.
  • gwelliannau i Ganolfan Ymwelwyr Treftadaeth y Morglawdd.
  • bydd llochesi traeth yn cael eu hailddatblygu’n giosgau manwerthu ac yn hwyluso defnydd busnes lleol.

Bydd y pecyn o brosiectau yn gwrthdroi dirywiad canol y dref ac yn cynyddu balchder i’r gymuned leol.

Darganfyddwch fwy am Levelling Up in Holyhead (PDF, 2.1 MB)

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023