Astudiaeth achos

£7 miliwn i gefnogi tri phrosiect ledled Powys

Mae tri phrosiect yn ne a chanol Powys wedi derbyn bron £7 miliwn rhyngddynt gan y Gronfa Ffyniant Bro.

Mae’r prosiectau’n cynnwys:

  • adnewyddu a gwella Theatr Brycheiniog
  • paratoi safle diffaith Auto Palace ar gyfer ei ailddatblygu
  • darparu hyb amlasiantaethol

Hyb amlasiantaethol newydd yn Aberhonddu

Bydd y cyllid yn darparu hyb gwaith amlasiantaethol yn Aberhonddu. Bydd hyn yn dwyn sefydliadau ynghyd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Bydd symud gwasanaethau o ganol y dref yn:

  • rhyddhau tir ac eiddo i gefnogi adfywio economaidd
  • cefnogi datblygiad tai fforddiadwy

Gwaith gwella Theatr Brycheiniog

Theatr Brycheiniog yw canolfan gelfyddydau Aberhonddu. Mae wedi dod yn ased cymunedol sy’n annwyl gan lawer ac y gwneir llawer o ddefnydd ohono.

Mae’r theatr yn cynnwys:

  • stiwdio a man ymarfer â 120 o seddau
  • awditoriwm â 477 o seddau

Mae’n cynnal rhaglen uchelgeisiol o gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg. Bydd bron £2 filiwn gan y Gronfa Ffyniant Bro yn:

  • cefnogi gwaith adnewyddu a gwella hollbwysig
  • diogelu’r ased diwylliannol pwysig hwn

Adfywio safle Auto Palace

Bydd cyllid yn helpu i brynu ac ailddatblygu’r safle tir llwyd nesaf at adeilad rhestredig Gradd II* Auto Palace. Mae’r safle, yn Llandrindod, wedi bod yn ddiffaith am 15 mlynedd.

Bydd y gwaith adfywio’n:

  • dileu dolur llygad wrth borth allweddol i’r dref 
  • creu lle ar gyfer tai

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023