Astudiaeth achos

£200,000 ar gyfer Siop Gymunedol Llandyrnog

Dyrannwyd £200,000 i The Llandyrnog Community Shop Ltd yn Sir Ddinbych ym mis Rhagfyr 2022 o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol y Deyrnas Unedig.

Bu siop yn y pentref ers 1841 ac mae wedi gwasanaethu’r gymuned yn ei lleoliad presennol ers 1982 tan iddi gau yn 2020. Mae’r preswylwyr lleol hefyd wedi bod yn brysur yn codi arian i brynu’r adeilad, ac mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol i ddefnyddio’r arian hwn i:

• adfywio siop y pentref • achub y Swyddfa Bost bresennol

Bydd hyn yn helpu i greu canolfan gymunedol go iawn a fydd yn gwasanaethu Llandyrnog a’i chyffiniau am flynyddoedd i ddod.

Dysgwch fwy am Ffyniant Bro.

Cyhoeddwyd ar 9 February 2023