Astudiaeth achos

£17 miliwn wedi’i ddyfarnu i ganol tref Hwlffordd

Mae dros £17 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei fuddsoddi ym mhrosiect Hwlffordd. Dyma’r ail ddyfarniad mwyaf o’r Gronfa Ffyniant Bro yng Nghymru. Bydd y cyllid yn helpu i adfywio canol tref Hwlffordd.

External view of Haverfordwest castle including information books.

Castell Hwlffordd

Bydd y gronfa’n cefnogi gwelliannau i gastell Hwlffordd o’r 13eg ganrif.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwaith cynnal a chadw ar waliau hanesyddol y castell
  • creu man digwyddiadau awyr agored
  • adnewyddu’r carchar Fictoraidd
View of stairs leading up to Haverfordwest castle

Coridor Diwylliannol Hwlffordd

Bydd pont droed newydd dros Afon Cleddau yn arwain at Gei Gorllewinol y dref ac yn gwella mynediad i’r castell.

Y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod y Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd:

Mae cefnogi adfywio Hwlffordd wedi bod yn flaenoriaeth i mi a’r weinyddiaeth hon ers i ni ddechrau, ac rydym wedi treulio nifer o flynyddoedd yn caffael eiddo’n strategol a datblygu cynlluniau ac achosion busnes manwl i gefnogi buddsoddiad.

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023