Skip to main content
Galwad agored am dystiolaeth

Ymchwil cyfranogwyr ymchwil defnyddwyr y Comisiwn Elusennau

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Crynodeb

Recriwtio cyfranogwyr Ymchwil Defnyddwyr

Mae'r alwad hon am dystiolaeth yn cau am

Disgrifiad yr alwad o dystiolaeth

A yw hwn yn gais dilys?

Ydy. Rydym yn eich gwahodd i gofrestru fel cyfranogwr ymchwil defnyddwyr cofrestredig.

Mae fersiwn Saesneg o’r dudalen hon ar gael.

https://www.smartsurvey.co.uk/s/CCEW-User-Research-cy

Pam ydw i wedi cael fy newis?

Rydym yn ceisio adeiladu cronfa fawr o ddefnyddwyr y gallwn gysylltu â nhw fel rhan o raglen waith sylweddol sy’n anelu at wella ein systemau a’n gwasanaethau. Rydych ar hyn o bryd wedi eich rhestru ar ein cronfa ddata o ymddiriedolwyr, felly mae hwn yn wahoddiad i chi rannu gyda ni beth sy’n anodd yn ein gwasanaethau a’ch barn amdanynt. Bydd llais y defnyddiwr yn rhoi mewnwelediadau pwysig i ni er mwyn gwella’r systemau a’r gwasanaethau yn llwyddiannus. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i gofrestru na chymryd rhan pan fyddwn yn cysylltu â chi, ond gobeithiwn y gwnewch hynny.

Ond nid wyf yn ymddiriedolwr!

Nid yw hynny’n bwysig; rydym eisiau clywed gan bawb sy’n defnyddio unrhyw un o’n systemau, o ddiweddaru manylion elusen i wirio’r Gofrestr Elusennau Gyhoeddus. Efallai bod gennych fewnwelediadau a fydd yn ein helpu i greu gwasanaethau a systemau gwell.

Ond nid wyf yn ymddiriedolwr mwyach!

Diolch am roi gwybod i ni. Bydd angen i chi ofyn i’r elusen ddiweddaru manylion yr ymddiriedolwr ar y gofrestr trwy ddefnyddio ein systemau, fel na fyddwch bellach yn cael eich dangos fel ymddiriedolwr ar y Gofrestr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. Nid ydym yn gallu newid y data hwn ein hunain gan fod angen i ni gynnal cofnodion o’r hyn y mae’r elusen yn ei ddweud wrthym.

Oes rhaid i mi ei gwblhau?

Nac oes, mae’n gwbl wirfoddol. Byddwn yn ddiolchgar iawn os gwnewch hynny, wrth gwrs, gan fod cael mwy o gyfranogwyr ymchwil defnyddwyr y gallwn eu gwahodd i’n gweithgareddau ymchwil yn cynyddu ein siawns o wella ein gwasanaethau a’n systemau.

Beth yw’r dyddiad cau?

Nid oes dyddiad cau ar gyfer hyn. Bydd angen mewnwelediadau gan ein defnyddwyr arnom bob amser i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda a beth rydym yn ei wneud yn wael yn ein systemau, fel y gallwn eu gwella’n barhaus.

Pam mae’r Comisiwn yn gwneud hyn?

Rydym eisiau dysgu mwy am sut mae pobl yn defnyddio ein gwasanaethau a’n systemau; ble maent yn teimlo bod y system yn anodd ei defnyddio neu’n ddryslyd, a lle gallent fod angen cymorth ychwanegol. Y nod yw defnyddio’r mewnwelediadau hynny i ddylunio rhyngwynebau gwell ar gyfer ein systemau a lleihau’r dryswch yn ein canllawiau a’n cyfeirio defnyddwyr o fewn y systemau. Yr hyn yr ydym am ei gyflawni yw lleihau’r baich ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau.

Nid yw’r ffurflen yn gweithio / Mi es i’n sownd

Os nad yw’r ffurflen yn gweithio, ac yr hoffech gymryd rhan yn ein hymchwil defnyddwyr, gallwch anfon eich enw a’ch cyfeiriad e-bost at gyfeiriad e-bost UserResearchTeam@charitycommission.gov.uk, a bydd ein tîm ymchwil defnyddwyr yn cysylltu â chi ynghylch y camau nesaf.

Nid yw fy amgylchiadau yn caniatáu i mi gwblhau’r ffurflen ar-lein – a allaf ei chwblhau fel dogfen ar-lein neu gael copi papur?

Gall ein tîm ymchwil defnyddwyr anfon copi papur o’r ffurflen drwy e-bost i chi er mwyn ei gwblhau, ac yna gallwch ei anfon yn ôl atom drwy e-bost. I gymryd rhan, gallwch anfon eich enw a’ch cyfeiriad e-bost at gyfeiriad e-bost UserResearchTeam@charitycommission.gov.uk, a bydd ein tîm ymchwil defnyddwyr yn cysylltu â chi ynghylch y camau nesaf.

A allaf rannu’r ddolen gyda fy nghyd-ymddiriedolwyr / a allaf ei hanfon ymlaen at rywun arall?

Wrth gwrs. Os yw’r person hwnnw’n ddefnyddiwr gwasanaeth, rydym yn awyddus i glywed ganddo.

Pryd fyddwn ni’n clywed gennych?

Efallai y cewch eich dewis i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau dros y 2 flynedd nesaf, gan gynnwys:

  • Arolygon
  • Cyfweliadau
  • Profion defnyddioldeb
  • Gweithdai cydweithredol i gasglu mewnwelediadau

Byddwn hefyd yn cysylltu â chi wrth i’r cyfnod o 2 flynedd ar Gofrestr Cyfranogwyr Ymchwil Defnyddwyr ddod i ben i wirio a hoffech adnewyddu eich caniatâd i aros wedi eich cofrestru fel cyfranogwr ymchwil defnyddwyr.

Ffyrdd o ymateb

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Gorffennaf 2026

Argraffu'r dudalen hon