Call for evidence outcome

Call for evidence: violence and abuse toward shop staff (Welsh translation) (accessible version)

Updated 9 August 2021

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 5 Ebrill 2019.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 28 Mehefin 2019.

Am yr alwad hon am dystiolaeth

At: Mae’r alwad hon am dystiolaeth ar agor i sefydliadau ac unigolion sy’n dymuno cyfrannu at ddealltwriaeth y Llywodraeth o’r broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop yng Nghymru a Lloegr. Yn benodol, anogwn ymatebion gan fanwerthwyr, cymdeithasau masnach ac undebau; a’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliad manwerthu.

Hyd: Rhwng 05/04/19 a 28/06/19

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur ar ffurfiau gwahanol) at: retailcrimeconsultation@homeoffice.gov.uk

Sut i Ymateb Er mwyn ein helpu ni i ddadansoddi’r ymatebion, cyflwynwch eich ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Anfonwch eich ymateb erbyn 23:00 ar 28 Mehefin 2019. Os, am resymau eithriadol, nad ydych chi’n gallu defnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy’r post neu ar e-bost at:

Call for Evidence
Violence and Abuse Toward Shop Staff
Crime Strategy Unit
5th Floor Fry Building
Home Office
2 Marsham Street
SW1P 4DF

E-bost: retailcrimeconsultation@homeoffice.gov.uk

Ymateb: Cyhoeddir ymateb y Llywodraeth ar GOV.UK erbyn Hydref 2019.

Rhagair

Mae staff siop yn chwarae rôl bwysig yn ein cymunedau, serch hynny, yn anffodus gwyddom y gallant fod yn ddioddefwyr troseddau megis lladrata neu ddioddef ymddygiad treisgar neu ymosodol. Yn amlwg mae hyn yn annerbyniol, ac mae’r Llywodraeth yn glir bod gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel yn y gwaith.

Fel Gweinidog dros Drosedd, Diogelu a Bregusrwydd, deallaf yr effaith sylweddol y gall y troseddau hyn ei chael ar ddioddefwyr. Yn ychwanegol, mae effaith digwyddiadau treisgar ac ymosodol yn cael ei theimlo hefyd gan gydweithwyr, manwerthwyr, y gymuned ehangach, a chwsmeriaid.

Gweithia’r Llywodraeth yn agos gyda’r sector manwerthu, yr heddlu, ac eraill i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, gan gynnwys trwy’r Grŵp Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol yr wyf yn ei gadeirio. Mae ein gwaith cyfredol hyd yma yn cynnwys:

  • pecyn o gefnogaeth ychwanegol ac arweiniad i staff a manwerthwyr wedi’u datblygu gan y NRCSG, gan gynnwys: lansio arweiniad i fanwerthwyr i’w ddefnyddio wrth adrodd ar ddigwyddiadau treisgar wrth yr heddlu i helpu i sicrhau ymateb prydlon a phriodol, a chyhoeddi arweiniad ar Ddatganiadau Effaith i Fusnesau, sy’n rhoi llais i fusnesau sydd wedi dioddef troseddau yn eu herbyn yn y broses cyfiawnder troseddol;
  • mae’r Swyddfa Gartref yn darparu £50,000 ar gyfer ymgyrch gyfathrebu wedi’i thargedu wedi’i harwain gan Gymdeithas Siopau Cyfleus i godi ymwybyddiaeth; a
  • £1 miliwn o ariannu dros dair blynedd (rhwng 2016 a 2019) trwy Gronfa Gweddnewid yr Heddlu ar gyfer Canolfan Trosedd Busnes Genedlaethol (NBCC) wedi’i harwain gan yr heddlu, sy’n gweithio i wella cyfathrebu rhwng heddluoedd ar drosedd busnes, hyrwyddo hyfforddiant a chyngor, a helpu i adnabod tueddiadau cenedlaethol a lleol.

Bydd y mesurau hyn yn helpu i gryfhau ein hymateb i’r mater hwn. Mae’r Llywodraeth yn gwybod bod mwy i’w wneud. Dyma pam ein bod ni’n lansio’r Alwad am Dystiolaeth hon i gynyddu ein dealltwriaeth o’r troseddau hyn, gan gynnwys o ran effaith ac effeithlonrwydd y fframwaith deddfwriaethol cyfredol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan y materion hyn, boed yn ddioddefwr, yn fanwerthwr, yn weithiwr proffesiynol rheng flaen neu fel arall, i rannu eu profiad i helpu i lunio’r camau nesaf ar gyfer ein hymateb i’r mater hwn.

Victoria Atkins

Gweinidog dros Drosedd, Diogelu a Bregusrwydd, Y Swyddfa Gartref

Crynodeb gweithredol

Ar 21 Ionawr 2019, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bwriad i lansio galwad am dystiolaeth ar fater trais a cham-drin tuag at weithwyr siop. Nod yr alwad am dystiolaeth hon yw galluogi i’r Llywodraeth ddeall gwir raddfa’r broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop, y mesurau a allai helpu i atal y troseddau hyn ac i ba raddau y mae deddfwriaeth gyfredol yn cael ei defnyddio i fynd i’r afael â hwy; ac i adnabod enghreifftiau o arfer gorau.

Mae’r alwad am dystiolaeth hon yn cynnwys trais a cham-drin tuag at yr holl staff sy’n gweithio o fewn lleoliad manwerthu (gan gynnwys, er enghraifft, y rheini sy’n gweithio mewn allfeydd manwerthu mewn gorsafoedd trenau, canol trefi a chanolfannau siopa) a gyflawnir gan aelodau’r cyhoedd. Rydym yn cydnabod bod y broblem hon yn ehangu y tu hwnt i staff siop ac fe all effeithio ar ystod o bobl sy’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, er enghraifft, y rheini sy’n gweithio ar rwydweithiau trafnidiaeth ac yn y diwydiant lletygarwch. Wrth gydnabod adroddiadau o ddigwyddiadau cynyddol tuag at staff siop yn ystod y blynyddoedd diweddar, prif ffocws yr alwad am dystiolaeth hon yw digwyddiadau sy’n digwydd mewn lleoliad manwerthu. Serch hynny, wrth ddadansoddi’r ymatebion byddwn yn ceisio ystyried sut y gallai’r canfyddiadau fod yn berthnasol i sectorau eraill.

Yn ychwanegol, er bod y Llywodraeth yn cydnabod bod pryderon yn ymwneud â thrais a cham-drin tuag at staff siop yng nghyd-destun gwerthiannau wedi’u cyfyngu gan oed, gwyddom hefyd y gall digwyddiadau godi mewn amgylchiadau eraill, megis ymgais gan staff siop i ddelio â lladron. Gan hynny mae’r alwad am dystiolaeth hon yn ceisio gwybodaeth ar ddigwyddiadau sy’n codi yn y ddau gyd-destun gyda chyfle i adrodd yn ôl unrhyw ystyriaethau penodol mewn perthynas â gwerthiannau wedi’u cyfyngu gan oed.

Rydym yn ceisio tystiolaeth ar bedair agwedd allweddol:

  • cyffredinolrwydd a data;
  • atal a chefnogi;
  • gorfodi a’r system cyfiawnder troseddol; ac
  • arfer gorau.

Cyflwyniad

Bwriad yr alwad am dystiolaeth hon yw cryfhau dealltwriaeth y Llywodraeth o broblem trais a cham-drin tuag at staff siop yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi’i hanelu at fanwerthwyr, cymdeithasau masnach ac undebau; a’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliad manwerthu yng Nghymru a Lloegr.

Adran Un: Cyffredinolrwydd a Data

Mae Arolwg Erledigaeth Fasnachol y Swyddfa Gartref (CVS) yn cynnig gwybodaeth ar y troseddau a gyflawnwyd yn erbyn eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifodd CVS 2017, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018, bod 8.1 miliwn o droseddau yn erbyn y sector cyfanwerthol a manwerthu yn y 12 mis cyn y cyfweliad. Er bod hyn yn cynrychioli cynnydd ar y flwyddyn flaenorol (amcangyfrifwyd bod 5.2 miliwn o droseddau yn CVS 2016), nid yw’n gynnydd sylweddol yn ystadegol mewn trosedd. Serch hynny, o’i gymharu â CVS 2016, dangosodd ganlyniadau arolwg 2017 gynnydd sylweddol yn ystadegol mewn ymosodiadau a bygythiadau tuag at staff manwerthu a cyfanwerthol (i fyny o 524 o ddigwyddiadau fesul 1,000 eiddo i 1,433 o ddigwyddiadau fesul 1,000 eiddo). Dyma’r amcangyfrif uchaf ers 2012.

Yn ychwanegol, amcangyfrifodd Adroddiad Trosedd 2018 gan Gymdeithas Siopau Cyfleus (ACS) fod 13,437 o ddigwyddiadau trais yn erbyn staff mewn siopau lleol. Arweiniodd tua dwy ran o bump (39%) o’r digwyddiadau hyn at anaf. Adroddodd arolwg ACS ‘Voice of Local Shops’ 2017 bod 12% o siopau wedi profi cynnydd mewn cam-drin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Tynna’r dystiolaeth sydd ar gael sylw bod cynnydd wedi bod mewn digwyddiadau o drais a cham-drin tuag at staff siop. Serch hynny, mae diffyg data cynhwysfawr, gan gynnwys ar natur digwyddiadau, mathau o weithiwr sydd wedi’u heffeithio, cyd-destun y digwyddiadau, a’r mathau o siop sydd wedi’u heffeithio. Yn ychwanegol, mae’n bosibl y bydd rhai digwyddiadau yn mynd heb eu hadrodd, ac er bod rhai heddluoedd yn defnyddio fflagiau trosedd busnes lle mae trosedd yn digwydd mewn lleoliad busnes, nid yw defnydd ar y fflagiau hyn a diffiniad ‘trosedd busnes’ o reidrwydd yn gyson.

Mae’r cwestiynau a ganlyn wedi’u bwriadu i helpu i fynd i’r afael â bylchau yn ein dealltwriaeth o’r broblem ac i greu darlun cywirach o natur trais a cham-drin tuag at staff. Fe’ch anogir i ganolbwyntio ar wybodaeth yn ymwneud â digwyddiadau yng Nghymru a Lloegr, gan fod trosedd a chyfiawnder troseddol wedi’u datganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Cwestiwn 1: Yn eich barn chi, a yw’r broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn ystod blynyddoedd diweddar?

Cwestiwn 1a: Os do, pa ffactorau sydd wedi arwain at hyn yn eich barn chi?

Cwestiwn 1b: Os do, nodwch unrhyw ddata sydd gennych chi i gefnogi hyn. Os yw’n bosibl, nodwch a yw’r data hwn yn cynnwys digwyddiadau nad ydynt wedi’u hadrodd wrth yr heddlu.

Cwestiwn 2: Nodwch unrhyw wybodaeth sydd gennych chi am natur y trais a’r camdrin sy’n digwydd a nodwch pa fath o siop yr ydych chi’n ei gweithredu/sydd wedi’i heffeithio, er enghraifft:

  • mathau o ddigwyddiad sy’n digwydd (e.e. ymosodiadau, bygythiadau ayyb), gan gynnwys a ydynt yn cynnwys trais corfforol ac a ydynt wedi arwain at anaf corfforol neu niwed arall
  • pryd y mae’r digwyddiadau yn digwydd (e.e. yn ystod y dydd)
  • a ddefnyddiwyd arf yn ystod y digwyddiadau (e.e. cyllell, sylwedd cyrydol ayyb)
  • amgylchiadau’r digwyddiad, gan gynnwys a oedd hyn o fewn cyd-destun gwerthiannau wedi’u cyfyngu gan oed (e.e. alcohol, cyllyll ayyb) ac/neu unrhyw ffactorau eraill sy’n cyfrannu
  • gwybodaeth am y sawl sy’n cyflawni’r weithred (e.e. sawl un, a ydynt yn droseddwyr drachefn, a ydynt yn gyfarwydd i’r heddlu, eu hoed, a ydynt yn rhan o gang ayyb)

Cwestiwn 3: Ar gyfer manwerthwyr sy’n gweithredu safleoedd mewn mwy nac un lleoliad, a yw’r holl safleoedd yn cael eu heffeithio’r un faint gan y broblem hon?

Cwestiwn 3a: Os na, a oes ffactorau cyffredin rhwng y safleoedd sydd wedi’u heffeithio (e.e. ardaloedd penodol, a yw ardaloedd trefol neu wledig wedi’u heffeithio’n fwy ayyb)? Nodwch unrhyw ddata sydd gennych i gefnogi hyn.

Cwestiwn 4: A yw’ch sefydliad/y sefydliadau yr ydych chi’n eu cynrychioli yn cofnodi digwyddiadau o drais a cham-drin sy’n digwydd yn eich/eu siopau?

Cwestiwn 4a: Os na, pam hynny?

Cwestiwn 4b: Os ydy, sut y mae digwyddiadau yn cael eu cofnodi? Nodwch unrhyw ddata nad yw eisoes wedi’i gyflwyno mewn ymateb i gwestiynau blaenorol.

Cwestiwn 5: Beth yw effeithiau ariannol, gweinyddol ac eraill y trais a’r cam-drin tuag at staff siop ar gyfer eich sefydliad/y sefydliadau yr ydych chi’n eu cynrychioli? Cofiwch gynnwys data os yw ar gael ac nad yw wedi’i ddarparu mewn ymateb i gwestiynau blaenorol (er enghraifft, amcangyfrifon o golli refeniw, effeithiau ar gadw staff ayyb).

Adran 2: Atal a Chefnogaeth

Yn ychwanegol at gynyddu’n dealltwriaeth o ddigwyddiadau trais a cham-drin tuag at staff siop, mae’r Llywodraeth yn ceisio deall hefyd sut y gellir atal y digwyddiadau hyn, gan gynnwys mewn perthynas â’r hyfforddiant a’r gefnogaeth a roddir i staff.

Gwyddom y gall cynlluniau megis ShopWatch, sy’n gweithio i wella cyfathrebu rhwng manwerthwyr a’r heddlu lleol, helpu i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn ychwanegol, gall trefniadau megis Partneriaethau Gostwng Trosedd Busnes (BCRP) amlasiantaeth, sy’n dwyn ynghyd busnesau, yr heddlu, a’r cyngor, helpu wrth sicrhau ymdriniaeth wedi’i chydlynu tuag at atal a mynd i’r afael â’r troseddau hyn.

Yn ychwanegol, gwyddom y gall hyfforddiant staff ac offer megis Fideo Camera Corff fod yn effeithiol, er enghraifft, mae’r camera wedi bod yn effeithiol o dan rai amgylchiadau o ran atal digwyddiadau ac wrth ddarparu ffilm a ddefnyddir fel tystiolaeth mewn erlyniadau.

Mae’r cwestiynau a ganlyn wedi’u bwriadu i’n helpu ni i gasglu tystiolaeth a gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio wrth atal y troseddau hyn, gan gynnwys sut y gall busnesau gefnogi eu staff.

Cwestiwn 6: Nodwch enghreifftiau o unrhyw fesurau ataliol yr ydych chi wedi’u defnyddio neu ystyried eu defnyddio, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth o ba mor effeithiol y mae’r rhain wedi bod.

Cwestiwn 7: A oes unrhyw fesurau ataliol anneddfwriaethol y gall y Llywodraeth/busnesau/yr heddlu neu eraill eu sefydlu, er enghraifft, i godi ymwybyddiaeth? Dylech ddarparu enghreifftiau.

Cwestiwn 8: A ydych chi’n ymwybodol o hyfforddiant/arweiniad/cefnogaeth sy’n cael eu darparu i staff ar sut i drin digwyddiadau posibl neu wirioneddol o drais neu gam-drin? Nodwch enghreifftiau, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth o ba mor effeithiol oedd hyn.

Adran 3: Gorfodaeth a’r System Cyfiawnder Troseddol

Gwyddom y gallai gweithwyr siop ddioddef ystod eang o droseddau yn ystod ymgymryd â’u dyletswyddau, yn amrywio o ymddygiad annerbyniol megis defnyddio iaith ymosodol i’r troseddau mwyaf difrifol neu dreisgar. Ymhlith y troseddau allweddol a allai fod yn berthnasol y mae aflonyddu, ymosodiad cyffredin, ofn neu bryfocio trais, rhoi pobl mewn ofn trais, ffrwgwd, ymosodiad yn achosi niwed corfforol gwirioneddol, bygythiadau i ladd, a lladrad (sylwer: nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr). Mae’r penderfyniad am ba drosedd i gyhuddo rhywun ohoni yn fater i naill ai’r heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron.

Yn ychwanegol at droseddau troseddol, gellir defnyddio ystod o offer a phwerau sifil i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, er enghraifft: Gwaharddebau Sifil (sy’n caniatáu i’r heddlu, cyngor lleol ac asiantaethau eraill i wneud cais i’r llys am waharddeb yn erbyn unigolyn os yw ei ymddygiad yn achosi, neu’n debyg o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod), Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned (y gellir eu cyhoeddi gan yr heddlu neu gan yr awdurdod lleol i ddelio gyda materion parhaus sy’n cael effaith gyson a niweidiol ar ansawdd bywyd y rheini sy’n byw yn lleol), a Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (y gellir eu defnyddio gan gynghorau i ddelio gyda niwsans penodol mewn ardal benodol trwy orfodi amodau ar ddefnydd ar yr ardal honno).

Ym mis Medi 2018, fe wnaethom gyhoeddi Strategaeth Dioddefwyr Traws-lywodraethol. Dyma’r tro cyntaf yr ydym wedi edrych mor fanwl ac mewn ffordd mor unedig ar sut yr ydym yn trin dioddefwyr yn sgil trosedd. Ein gweledigaeth ni yw ar gyfer system cyfiawnder sy’n cefnogi hyd yn oed mwy o ddioddefwyr i ddweud eu dweud trwy roi sicrwydd iddynt y byddant yn cael eu deall, y byddant yn cael eu diogelu, ac y byddant yn cael eu cefnogi p’un a ydynt yn adrodd trosedd ai peidio, beth bynnag eu hamgylchiadau neu gefndir. Mae ein hymrwymiadau yn y strategaeth yn cynnwys ymgynghori ar y Cod Dioddefwyr diwygiedig a manylion y ddeddfwriaeth yn canolbwyntio ar y dioddefwr - rydym yn bwriadu cyhoeddi’r ymgynghoriadau hyn yn ystod hynt y flwyddyn hon. Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn gyfle pellach i ni ddeall pryderon dioddefwyr.

Gwyddom na fydd rhai staff siop sy’n profi trais neu ymddygiad camdriniol yn adrodd am ddigwyddiadau, naill ai wrth eu rheolwr/goruchwylydd neu wrth yr heddlu. Er enghraifft, canfu CVS 2017 bod 40% o’r ymatebwyr a oedd wedi profi trais neu gam-drin yn y flwyddyn ddiwethaf wedi adrodd y digwyddiad diweddaraf wrth yr heddlu. Mae’r Llywodraeth yn awyddus i ystyried unrhyw rwystrau tuag at adrodd ac opsiynau ar gyfer helpu i oresgyn y rhain. Os yw digwyddiadau yn cael eu hadrodd wrth yr heddlu, hoffem ddeall profiadau’r dioddefwyr yn well o’r broses cyfiawnder troseddol.

Mae’r cwestiynau a ganlyn wedi’u bwriadu i helpu i ddatblygu dealltwriaeth y Llywodraeth o adrodd ar ddigwyddiadau, cymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol cyfredol, ac ymateb gan yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. Bydd y wybodaeth hon yn galluogi inni ddeall a oes unrhyw fylchau mewn deddfwriaeth gyfredol ac i ystyried yr achos dros ddiwygio. Ar gyfer gweithredwyr ar sawl safle neu sefydliadau cenedlaethol, fe’ch anogir i ganolbwyntio ar ddigwyddiadau yng Nghymru a Lloegr, gan fod trosedd a chyfiawnder troseddol wedi’u datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r cwestiynau hyn wedi’u hanelu at unigolion sydd wedi dioddef digwyddiad(au) o drais neu gam-drin wrth wasanaethu’r cyhoedd mewn lleoliad manwerthu ac yn gofyn am wybodaeth i helpu’r Llywodraeth i ddeall yn well profiadau’r dioddefwyr a sut y gellir eu cefnogi.

Cwestiwn 9: A ydych chi wedi dioddef trais neu gam-drin o fewn lleoliad manwerthu?

Cwestiwn 9a: A wnaethoch chi adrodd y digwyddiad wrth eich rheolwr/goruchwylydd?

Cwestiwn 9b: Os na, pam ddim?

Cwestiwn 9c: Os do, a oeddech chi’n fodlon â’r ymateb?

Cwestiwn 9d: Os na, pam ddim?

Cwestiwn 10: A adroddoch chi’r digwyddiad wrth yr heddlu?

Cwestiwn 10a: Os na, pam ddim?

Cwestiwn 10b: Os do, a oeddech chi’n fodlon â’r ymateb? Os na, pam ddim?

Cwestiwn 10c: A roddwyd gwybod i chi am yr opsiwn i wneud Datganiad Personol y Dioddefwr?

Cwestiwn 10d: A wnaethoch chi Ddatganiad Personol y Dioddefwr?

Cwestiwn 10e: Os na, pam ddim?

Cwestiwn 10f: A wnaeth yr heddlu eich cyfeirio chi at wasanaethau cymorth i ddioddefwyr?

Cwestiwn 10g: Os do, a oedd hyn yn ddefnyddiol i chi?

Cwestiwn 11: Rhannwch unrhyw wybodaeth bellach ar eich profiad o’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r cwestiynau hyn wedi’u hanelu at fanwerthwyr a chynrychiolwyr sefydliadau manwerthu (gan gynnwys cyrff masnachu ac undebau) i helpu Llywodraeth i ddeall yn well eu safbwynt a’u profiad o ddigwyddiadau trais a cham-drin tuag at staff siop.

Cwestiwn 12: A ydych chi’n fanwerthwr neu’n gynrychiolydd sefydliad manwerthu?

Cwestiwn 12a: A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rwystrau i staff adrodd ar ddigwyddiadau wrth eu rheolwr/goruchwylydd?

Cwestiwn 12b: Os ydych, beth yw’r rhain a sut y gellir eu goresgyn? Nodwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi hyn.

Cwestiwn 13: A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rwystrau sy’n atal staff rhag adrodd digwyddiadau wrth yr heddlu?

Cwestiwn 13a: Os ydych chi, beth yw’r rhain a sut y gellir eu goresgyn? Nodwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi hyn.

Cwestiwn 14: A oes gennych chi unrhyw adborth ar yr ymateb gan yr heddlu? Nodwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi hyn.

Cwestiwn 15: A oeddech chi/yw’ch aelodau yn cael eu hysbysu yn rheolaidd o’r opsiwn i wneud Datganiad Effaith i Fusnesau?

Cwestiwn 16: A wnaethoch chi Ddatganiad Effaith i Fusnesau?

Cwestiwn 16a: Os na, pam ddim?

Cwestiwn 16b: Os do, a weloch chi hyn yn ddefnyddiol?

Cwestiwn 16c: Os wnaethoch chi ddatganiad, a ydych chi’n gwybod a gafodd ei ddefnyddio wrth ddedfrydu?

Cwestiwn 17: Rhannwch unrhyw wybodaeth bellach ar brofiad eich sefydliad/profiad y sefydliadau yr ydych chi’n eu cynrychioli o’r system cyfiawnder troseddol? Mae’r cwestiynau hyn wedi’u hanelu at yr holl ymatebwyr

Cwestiwn 18: A ydych chi’n gyfarwydd ag ystod yr offer a phwerau sifil i fynd i’r afael â’r drosedd hon (er enghraifft, y pwerau sydd ar gael o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014)?

Cwestiwn 18a: Os oeddech chi, a ydych chi wedi cael profiad ohonynt yn cael eu defnyddio i atal/mynd i’r afael â throsedd a cham-drin tuag at staff siop?

Cwestiwn 18b: Os ydych chi, nodwch wybodaeth bellach am eich profiad o hyn?

Cwestiwn 19: A ydych chi’n gyfarwydd â’r troseddau troseddol a allai fod yn gymwys mewn perthynas â thrais a cham-drin tuag at staff siop?

Cwestiwn 19a: Os oeddech chi, a ydych chi wedi cael profiad o’u cymhwyso yn y cyd-destun hwn?

Cwestiwn 19b: Os do, nodwch wybodaeth bellach am eich profiad o hyn.

Adran 4: Arfer Gorau

Mae mynd i’r afael â phroblem trais a cham-drin tuag at staff siop yn gofyn am ymateb wedi’i gydlynu gan gynnwys gan Lywodraeth, asiantaethau rheng flaen, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a busnesau eu hunain.

Gwyddom fod ystod o arweiniad ac arfer gorau eisoes ar gael, er enghraifft, mae arweiniad ar sut i reoli a delio â throsedd busnes ar gael trwy Ganolfan Trosedd Busnes Cenedlaethol (NBCC) wedi’i arwain gan yr heddlu, sy’n cynnig ystorfa genedlaethol ar gyfer coladu a dosbarthu arfer da.

Mae’r alwad am dystiolaeth hon yn cynnig cyfle i’r Llywodraeth adnabod arfer gorau pellach wrth fynd i’r afael â’r digwyddiadau hyn i helpu i sefydlu’r hyn sy’n gweithio, ac i ystyried datrysiadau anneddfwriaethol posibl.

Cwestiwn 20: Rhannwch unrhyw enghreifftiau sydd gennych chi o arfer gorau, er enghraifft, gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu a busnesau, mesurau ataliol sydd wedi gostwng digwyddiadau o drais a cham-drin tuag at staff sy’n gweithio yn eich sefydliad. Gall hyn gynnwys enghreifftiau o’r tu allan i Gymru a Lloegr (nodwch ble).

Cwestiwn 21: Beth, os o gwbl, y credwch chi sy’n atal busnesau, yr heddlu a/neu awdurdodau lleol rhag gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r mater hwn? Cwestiwn: 22: A oes unrhyw gamau anneddfwriaethol pellach y gallai’r Llywodraeth eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn?

Holiadur

Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau a ganlyn a amlinellir yn y papur ymgynghori hwn.

C1. Yn eich barn chi a yw’r broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Do/Naddo/Ddim yn gwybod

C1a. Os ydych chi’n cytuno bod y broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddar, rhowch resymau.

C1b. Os ydych chi’n cytuno bod y broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddar, nodwch unrhyw ddata sydd gennych chi i gefnogi hyn (gan gynnwys a yw’r data yn cynnwys digwyddiadau nas adroddwyd amdanynt wrth yr heddlu).

C2. Nodwch unrhyw wybodaeth sydd gennych chi ar natur trais a cham-drin sy’n digwydd a nodwch pa fath o siop yr ydych chi’n ei weithredu/sydd wedi’i heffeithio, er enghraifft:

  • mathau o ddigwyddiadau sy’n digwydd (e.e. ymosodiadau, bygythiadau ayyb), gan gynnwys a ydynt yn cynnwys trais corfforol ac a arweiniodd hynny at anaf corfforol neu niwed arall
  • pryd ddigwyddodd y digwyddiadau (e.e. yn ystod y dydd)
  • a oedd y digwyddiadau yn cynnwys arf (e.e. cyllell, sylwedd cyrydol ayyb)
  • amgylchiadau’r digwyddiadau, gan gynnwys a oedd hyn yng nghyd-destun gwerthiannau wedi’u cyfyngu gan oed (e.e. alcohol, cyllyll ayyb) a/neu unrhyw ffactorau eraill a allai gyfrannu
  • gwybodaeth am y sawl sy’n cyflawni’r weithred (e.e. sawl un, a ydynt yn droseddwyr drachefn, a ydynt yn gyfarwydd i’r heddlu, eu hoed, a ydynt yn rhan o gang ayyb).

C3. Ar gyfer manwerthwyr sy’n gweithredu safleoedd mewn mwy nac un lleoliad, i ba raddau yr ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y mater hwn wedi effeithio ar eich holl safleoedd yn gyfartal? Cytuno/Anghytuno/Ddim yn gwybod

C3a: Os na, a oes unrhyw ffactorau cyffredin rhwng y safleoedd sydd wedi’u heffeithio (e.e. ardaloedd penodol, a yw ardaloedd trefol neu wledig wedi’u heffeithio’n fwy ayyb)? Nodwch unrhyw ddata sydd gennych chi i gefnogi hyn.

C4: A yw’ch sefydliad/y sefydliad(au) yr ydych chi’n eu cynrychioli yn cofnodi digwyddiadau o drais a cham-drin sy’n digwydd yn eich/eu siopau?

C4a: Os na, pam?

C4b: Os ydy, sut y mae digwyddiadau yn cael eu cofnodi? Nodwch unrhyw ddata nad yw eisoes wedi’i gyflwyno mewn ymateb i gwestiynau blaenorol.

C5: Beth yw effeithiau ariannol, gweinyddol ac eraill y trais a’r cam-drin tuag at staff siop ar gyfer eich sefydliad/y sefydliad(au) yr ydych chi’n ei gynrychioli? Cofiwch gynnwys data os yw ar gael ac nad yw wedi’i nodi mewn ymateb i gwestiynau blaenorol (er enghraifft, amcangyfrifon o golli refeniw, effeithiau ar gadw staff ayyb).

C6: Nodwch enghreifftiau o unrhyw fesurau ataliol yr ydych chi wedi’u defnyddio neu ystyried eu defnyddio, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth o ba mor effeithiol y mae’r rhain wedi bod.

C7: A oes unrhyw fesurau ataliol anneddfwriaethol y gallai’r Llywodraeth/busnesau/yr heddlu neu eraill eu sefydlu, er enghraifft, i godi ymwybyddiaeth? Nodwch enghreifftiau.

C8: A ydych chi’n ymwybodol o hyfforddiant/arweiniad/cefnogaeth sy’n cael ei ddarparu i staff ar sut i drin digwyddiadau posibl neu wirioneddol o drais neu gamdrin? Nodwch enghreifftiau, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth o ba mor effeithiol oedd hyn.

Ar gyfer dioddefwyr trais a cham-drin

C9: A ydych chi wedi dioddef trais neu gam-drin o fewn lleoliad manwerthu?

C9a: A wnaethoch chi adrodd y digwyddiad wrth eich rheolwr/goruchwylydd?

C9b: Os na, pam ddim?

C9c: Os do, a oeddech chi’n fodlon â’r ymateb?

C9d: Os na, pam ddim?

C10: A wnaethoch chi adrodd y digwyddiad wrth yr heddlu?

C10a: Os na, pam ddim?

C10b: Os do, a oeddech chi’n fodlon â’r ymateb? Os na, pam ddim?

C10c: A oeddech chi’n ymwybodol o’r opsiwn i wneud Datganiad Personol i Ddioddefwr?

C10d: A wnaethoch chi ddatganiad?

C10e: Os na, pam ddim?

C10f: A wnaeth yr heddlu eich cyfeirio chi at wasanaethau cymorth i ddioddefwyr?

C10g: Os do, a oedd yn ddefnyddiol?

C11: Rhannwch unrhyw wybodaeth bellach ar eich profiad o’r system cyfiawnder troseddol.

Ar gyfer manwerthwyr/cynrychiolwyr sefydliadau manwerthu

C12: A ydych chi’n fanwerthwr neu’n gynrychiolydd sefydliad manwerthu?

C12a: A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rwystrau sy’n atal staff rhag adrodd digwyddiadau wrth eu rheolwr/goruchwylydd?

C12b: Os ydych, beth yw’r rhain a sut y gellid eu goresgyn? Darparwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi hyn.

C13: A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rwystrau sy’n atal staff rhag adrodd digwyddiadau wrth yr heddlu?

C14: A oes gennych chi unrhyw adborth ar yr ymateb gan yr heddlu? Nodwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi hyn.

C16: A wnaethoch chi ddatganiad?

C16a: Os na, pam ddim?

C17: Rhannwch unrhyw wybodaeth bellach ar brofiad eich sefydliad/y sefydliadau yr ydych chi’n eu cynrychioli o’r system cyfiawnder troseddol.

Holl ymatebwyr

C18: A ydych chi’n gyfarwydd â’r ystod o offer a phwerau sifil sydd ar gael i fynd i’r afael â throsedd (er enghraifft, pwerau sydd ar gael o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014)?

C18a: Os ydych chi, a ydych chi wedi cael profiad ohonynt yn cael eu defnyddio i atal/mynd i’r afael â thrais a cham-drin tuag at staff siop?

C18b: Os ydych, nodwch wybodaeth bellach am eich profiad o hyn?

C19: A ydych chi’n gyfarwydd â’r troseddau troseddol a allai fod yn gymwys mewn perthynas â thrais a cham-drin tuag at staff siop?

C19a: Os ydych, a oes gennych chi brofiad ohonynt yn cael eu cymhwyso yn y cyd-destun hwn?

C19b: Os ydych, nodwch wybodaeth bellach am eich profiad o hyn.

C20: Rhannwch unrhyw enghreifftiau sydd gennych o arfer gorau, er enghraifft, gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu a busnesau, neu fesurau ataliol sydd wedi gostwng digwyddiadau o drais a cham-drin tuag at staff yn gweithio yn eich sefydliad. Gallai hyn gynnwys enghreifftiau o’r tu allan i Gymru a Lloegr (nodwch ymhle).

C21: Beth, os o gwbl, y credwch chi sy’n atal busnesau, yr heddlu a/neu awdurdodau lleol rhag gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r broblem hon?

C22: A oes unrhyw gamau anneddfwriaethol pellach y gallai’r Llywodraeth eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon?

Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun.

Enw llawn  
Teitl swydd neu yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)  
Dyddiad  
Enw cwmni/sefydliad (os yn berthnasol)  
Cyfeiriad  
Cod post  
Os hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn  
Y cyfeiriad y dylid anfon cydnabyddiaeth iddo, os yn wahanol i’r uchod  

Os ydych yn cynrychioli grŵp, dywedwch enw’r grŵp a rhoi crynodeb o’r bobl neu sefydliadau yr ydych yn eu cynrychioli.





Manylion cyswllt a sut i ymateb

Er mwyn ein helpu ni i ddadansoddi’r ymatebion, cyflwynwch eich ymatebion gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Anfonwch eich ymateb erbyn 23:00 ar 28 Mehefin 2019.

Os, am resymau eithriadol, nad ydych chi’n gallu defnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy’r post neu ar e-bost at:

Call for Evidence
Violence and Abuse Toward Shop Staff
Crime Strategy Unit
5th Floor Fry Building
Home Office
2 Marsham Street
SW1P 4DF

E-bost: retailcrimeconsultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Gellir gofyn am fersiynau ar ffurfiau gwahanol o’r cyhoeddiad hwn gan retailcrimeconsultation@homeoffice.gov.uk.

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi erbyn Hydref 2019. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yn GOV.UK.

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a sefydliadau y maent yn eu cynrychioli wrth ymateb.

Cyfrinachedd

Gallai gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu’i datgelu yn unol â’r trefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf y rhain yw Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2018).

Os ydych chi eisiau i’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus cydymffurfio â hwy ac sy’n delio, ymhlith pethau eraill, gyda rhwymedigaethau hyder. O ganlyniad, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam yr ydych yn ystyried fod y wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo ei hun, yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’ch data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 2018 a gan amlaf bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.

Egwyddorion yr ymgynghoriad

Nodir yr egwyddorion y dylai adrannau’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori.