Cwestiynau arolwg: ymatebion sefydliadau
Cyhoeddwyd 24 Gorffennaf 2026
Sylwch: Efallai na fyddwch yn gweld yr holl gwestiynau yn yr arolwg hwn wrth ei lenwi ar-lein, gan fod rhai yn cael eu harddangos yn seiliedig ar eich atebion i gwestiynau blaenorol yn unig.
Amdanoch chi
Mae gan y llywodraeth ddiddordeb mewn clywed gan amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau o bob cwr o’r DU i gasglu adborth ar sut mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn cael ei wario.
Mae’r cwestiynau cyntaf hyn amdanoch chi yn ein helpu ni i ddeall pwy sy’n ymateb a sut maen nhw’n rhyngweithio â’r Loteri Genedlaethol. Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gyfrinachol yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd.
PD1. Ydych chi’n ateb yr alwad hon am dystiolaeth fel aelod unigol o’r cyhoedd, neu ar ran sefydliad?
- 1. Aelod unigol o’r cyhoedd
- 2. Ar ran sefydliad
PD2. Beth yw enw eich sefydliad? (blwch testun rhydd)
PD3. Ble yn y DU mae pencadlys eich sefydliad?
-
1. Lloegr
- A. Gogledd-ddwyrain Lloegr
- B. Gogledd-orllewin Lloegr
- C. Swydd Efrog a Humber
- D. Gorllewin Canolbarth Lloegr
- E. Dwyrain Canolbarth Lloegr
- F. Dwyrain Lloegr
- G. Llundain
- H. De-ddwyrain Lloegr
- I. De-orllewin Lloegr
-
2. Yr Alban
- A. Dwyrain yr Alban
- B. De-orllewin yr Alban
- C. Gogledd-ddwyrain yr Alban
- D. De-ddwyrain yr Alban
- E. Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban
-
3. Cymru
- A. De-ddwyrain Cymru
- B. De-orllewin Cymru
- C. Canolbarth Cymru
- D. Gogledd Cymru
-
4. Gogledd Iwerddon
- A. Dwyrain Gogledd Iwerddon
- B. Gorllewin Gogledd Iwerddon
-
5. Arall (Nodwch)
-
6. Mae’n well gen i beidio â dweud
PD4. Mae gan y llywodraeth ddiddordeb mewn deall a oes perthynas rhwng lleoliad sefydliadau ac effaith Cyllid Achosion Da’r Loteri Genedlaethol a mynediad ato. Er mwyn helpu, rydym yn gofyn am god post pencadlys eich sefydliad, ond nid yw hwn yn orfodol.
Os ydych chi’n gyfforddus yn rhannu, beth yw cod post pencadlys eich sefydliad? (Cliciwch ‘Tudalen nesaf’ os nad ydych chi am ateb)
PD5. Faint o weithwyr sydd gan eich sefydliad ar hyn o bryd?
-
1. 1 i 9 o weithwyr
-
2. 10 i 49 o weithwyr
-
3. 50 i 249 o weithwyr
-
4. 250+ o weithwyr
-
5. Ddim yn gwybod
-
6. Mae’n well gen i beidio â dweud
PD6. Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio strwythur cyfreithiol neu weithredol eich sefydliad orau?
-
1. Cymdeithas anghorfforedig
-
2. Ymddiriedolaeth elusennol
-
3. Cwmni cyfyngedig corfforedig
-
4. Cwmni cyfyngedig drwy warant
-
5. Sefydliad elusennol corfforedig
-
6. Cwmni buddiant cymunedol
-
7. Cymdeithas gydweithredol neu gymdeithas budd cymunedol
-
8. Awdurdod Lleol
-
9. Sefydliad addysgol
-
10. Arall (Nodwch)- [blwch testun rhydd]
-
11. Mae’n well gen i beidio â dweud
-
12. Ddim yn gwybod
PD7. Pa un o’r sector(au) canlynol sy’n cynrychioli eich sefydliad orau? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
-
1. Corff Dosbarthu’r Loteri Genedlaethol
-
2. Celfyddydau a Diwylliant
-
3. Chwaraeon
-
4. Treftadaeth
-
5. Amgylchedd
-
6. Grŵp gwirfoddol lleol neu grŵp llawr gwlad
-
7. Awdurdod Lleol
-
8. Addysg
-
9. Iechyd, gofal cymdeithasol neu lesiant
-
10. Plant, pobl ifanc a theuluoedd
-
11. Cynhwysiant cymdeithasol
-
12. Mynd i’r afael â thlodi
-
13. Ymgynghoriaeth
-
14. Arall (nodwch)- [blwch testun rhydd]
-
15. Ddim yn gwybod
PD8. Beth oedd trosiant bras eich sefydliad yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? Ar gyfer elusennau neu sefydliadau nid-er-elw, defnyddiwch eich cyfanswm incwm blynyddol (e.e. cyfanswm yr arian a godwyd ynghyd ag unrhyw incwm o grantiau).
-
1. £49,999 neu lai
-
2. £50,000 i £249,999
-
3. £250,000 i £999,999
-
4. £1,000,000 i £4,999,999
-
5. £5,000,000 neu fwy
-
6. Mae’n well gen i beidio â dweud
-
7. Ddim yn gwybod
Grymuso eich cymunedau i deimlo’r buddion
Mae’r llywodraeth eisiau sicrhau bod pob cymuned yn gallu cael gafael ar gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol a chael budd ohono.
Rydyn ni nawr yn mynd i ofyn rhai cwestiynau am effaith cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol.
Cwestiwn 1. Pa mor ymwybodol, os o gwbl, ydych chi o’r effaith y mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol wedi’i chael ar bob un o’r canlynol?
-
A. Eich ardal leol
-
B. Yn genedlaethol ledled y DU
-
C. Eich sefydliad neu sector
-
1. Ymwybodol iawn
-
2. Gweddol ymwybodol
-
3. Ddim yn ymwybodol iawn
-
4. Ddim yn ymwybodol o gwbl
-
5. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 2. Rydych chi wedi dweud bod gennych chi rywfaint o ymwybyddiaeth o sut mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol wedi effeithio ar eich sefydliad neu sector. Beth yw’r effaith fwyaf cadarnhaol rydych chi wedi’i gweld ar eich sefydliad neu sector o ganlyniad i’r cyllid? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 3. Rydych chi wedi dweud bod gennych chi rywfaint o ymwybyddiaeth o sut mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol wedi effeithio ar eich ardal leol.
Beth yw’r effaith fwyaf cadarnhaol rydych chi wedi’i gweld yn eich ardal leol o ganlyniad i’r cyllid? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 4. Rydych chi wedi dweud bod gennych chi rywfaint o ymwybyddiaeth o sut mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol wedi effeithio ar eich ardal leol neu’r DU yn ehangach.
O ba rai o’r canlynol, os o gwbl, wnaethoch chi weld, clywed neu ddarllen am y cyllid achosion da hwn? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
-
1. Yn uniongyrchol gan dderbynnydd cyllid
-
2. Sianeli swyddogol y Loteri Genedlaethol (e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu neu arwyddion ffisegol mewn prosiectau a ariennir gan y loteri)
-
3. Papurau newydd (cenedlaethol, lleol neu ranbarthol)
-
4. Arwyddion ffisegol, posteri neu blaciau (e.e. mewn siopau, adeiladau, ffenestri)
-
5. Teledu (rhaglenni cenedlaethol neu ranbarthol)
-
6. Radio (cenedlaethol, lleol neu ranbarthol)
-
7. Cyfryngau cymdeithasol (e.e. Facebook, Instagram, X, TikTok, Snapchat ac ati)
-
8. Clywed gan rywun arall
-
9. Grwpiau cymunedol
-
10. Sefydliadau addysgol
-
11. Cyfathrebiad yr awdurdod lleol neu gyngor
-
12. Taflenni / cyfathrebiadau ysgrifenedig
-
13. Drwy ddigwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd
-
14. Arall (nodwch) [blwch testun rhydd]
-
15. Ddim yn gwybod/alla i ddim cofio
-
16. Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw gyllid achosion da gan y Loteri Genedlaethol
Cwestiwn 5. Sut ydych chi’n meddwl y gallai’r Loteri Genedlaethol gyfathrebu’n well â chi o ran sut mae’n buddsoddi arian achosion da yn eich ardal leol? [blwch testun rhydd]
Ariannu beth sy’n bwysig i chi
Mae’r llywodraeth eisiau deall barn y cyhoedd ar yr achosion da cyfredol ac a ydynt yn adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol heddiw.
Cwestiwn 6. Pa rai o’r meysydd canlynol, os o gwbl, ydych chi’n credu y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt ar gyfer derbyn cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol? I’ch atgoffa, dim ond ar brosiectau a gweithgareddau nad ydynt fel arfer yn derbyn cyllid craidd gan y llywodraeth y dylid gwario cyllid achosion da - gelwir hyn yn egwyddor ychwanegedd.
-
1. Celfyddydau a diwylliant (e.e. cyllid ar gyfer ffilmiau, theatr, dawns, cerddoriaeth, llenyddiaeth ac ati)
-
2. Chwaraeon (e.e. cyllid ar gyfer clybiau chwaraeon ar lawr gwlad, mentrau chwaraeon, timau Olympaidd ac ati.)
-
3. Treftadaeth (e.e. cyllid i amddiffyn a hyrwyddo adeiladau hanesyddol, parciau cyhoeddus, archaeoleg gymunedol).
-
4. Cyllid ar gyfer mentrau dan arweiniad y gymuned (e.e. prosiectau sy’n mynd i’r afael â thlodi, unigrwydd ac yn cefnogi elusennau lleol ac ati)
-
5. Iechyd a lles sy’n eithrio gwariant craidd y GIG (e.e. cyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl, mentrau lles lleol ac ati)
-
6. Addysg a sgiliau sy’n eithrio gwariant craidd addysg (e.e. gwaith ieuenctid, sgiliau bywyd, hyfforddiant cymunedol sy’n agor drysau i gyfleoedd newydd ac ati)
-
7. Yr amgylchedd (e.e. adfer natur leol, mannau gwyrdd trefol, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ati)
-
8. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 7. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cododd y Loteri Genedlaethol £1.7bn ar gyfer achosion da. Mae hyn wedi’i ddosbarthu fel a ganlyn ar hyn o bryd: Celfyddydau a Diwylliant (20%), Chwaraeon (20%), Treftadaeth (20%), Gweithgareddau elusennol gan gynnwys iechyd, addysg a’r amgylchedd (40%).
O ystyried hyn, pa ganran o gyllid, os o gwbl, ydych chi’n credu y dylai pob un o’r meysydd hyn ei derbyn? Rhaid i’ch atebion adio i fyny i 100%.
-
1. Celfyddydau a diwylliant
-
2. Chwaraeon
-
3. Treftadaeth
-
4. Gweithgareddau elusennol gan gynnwys iechyd, addysg a’r amgylchedd
Cwestiwn 8. I’ch atgoffa, mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd yn cefnogi’r meysydd canlynol: Celfyddydau a Diwylliant, Chwaraeon, Treftadaeth, Cymunedau lleol ac elusennau gan gynnwys Iechyd a lles, Addysg a sgiliau a’r Amgylchedd. Dim ond ar brosiectau a gweithgareddau nad ydynt fel arfer yn derbyn cyllid craidd gan y llywodraeth y dylid gwario cyllid achosion da - gelwir hyn yn egwyddor ychwanegedd.
A oes unrhyw feysydd eraill yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cefnogi gan gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 9. Mae cyfran y cyllid a roddir i bob ardal wedi’i sefydlu yn ôl y gyfraith, ond nid yw’n destun unrhyw adolygiad cyfnodol. Pa mor aml, os o gwbl, ydych chi’n credu y dylid adolygu cyfran cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol y mae pob ardal yn ei derbyn?
-
1. Yn aml (e.e. bob 1 i 2 flynedd)
-
2. Yn rheolaidd (e.e. bob 5 mlynedd)
-
3. O bryd i’w gilydd (e.e. bob deng mlynedd)
-
4. Llai aml na bob 10 mlynedd
-
5. Ni ddylid byth ei adolygu
-
6. Ddim yn gwybod
Grymuso cymunedau i wneud penderfyniadau
Mae’r llywodraeth eisiau sicrhau bod gan gymunedau ledled y wlad y cyfle i gael mynediad at gyllid achosion da ac elwa ohono.
Cwestiwn 10. Fel y gwyddoch efallai, mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn cael ei wario ar brosiectau cenedlaethol ar raddfa fawr a phrosiectau cymunedol ar raddfa fach ar hyn o bryd.
Wrth wneud penderfyniadau ynghylch sut i wario’r cyllid, i ba raddau ydych chi’n credu y dylid blaenoriaethu prosiectau cenedlaethol ar raddfa fawr neu brosiectau cymunedol ar raddfa fach?
-
1. Dylai prosiectau lleol dderbyn llawer mwy
-
2. Dylai prosiectau lleol dderbyn ychydig yn fwy
-
3. Dylai’r ddau dderbyn tua’r un swm
-
4. Dylai prosiectau cenedlaethol dderbyn ychydig yn fwy
-
5. Dylai prosiectau cenedlaethol dderbyn llawer mwy
-
6. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 11. O’r opsiynau canlynol, sut ydych chi’n meddwl y byddai cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn cael ei wario orau ledled y DU?
-
1. Dylai cyllid ganolbwyntio’n bennaf ar gymunedau sydd â’r angen mwyaf (e.e. ardaloedd â thlodi uwch, llai o wasanaethau neu gyfleusterau cyhoeddus)
-
2. Dylai cyllid ganolbwyntio’n bennaf ar bob cymuned waeth beth fo’u hangen
-
3. Dylai cyllid ganolbwyntio’n bennaf ar brosiectau proffil uwch neu genedlaethol (e.e. amgueddfeydd cenedlaethol, chwaraeon Olympaidd, ffilmiau’r DU)
-
4. Dim un o’r uchod
-
5. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 12. I ba raddau, os o gwbl, a fyddech chi’n cefnogi neu’n gwrthwynebu faint o gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol y mae ardal yn ei dderbyn sy’n gysylltiedig â faint o docynnau loteri sy’n cael eu gwerthu yno?
-
1. Cefnogaeth gref
-
2. Tueddu i gefnogi
-
3. Ddim yn cefnogi nac yn gwrthwynebu
-
4. Tueddu i wrthwynebu
-
5. Gwrthwynebu’n gryf
-
6. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 13. Faint o ddylanwad, os o gwbl, y credwch sydd gan y gymuned y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddi dros benderfyniadau ynghylch ble mae cyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn cael ei wario?
-
1. Llawer iawn o ddylanwad
-
2. Dipyn o ddylanwad
-
3. Dim llawer o ddylanwad
-
4. Dim dylanwad o gwbl
-
5. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 14. Dywedoch fod gan eich cymuned leol rywfaint o ddylanwad dros ble mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario.
Pa ddull a gymerodd eich cymuned er mwyn cyflawni hyn? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 15. Ein nod yw gwneud cyllid achosion da yn fwy cyfranogol, cynhwysol a chynrychioliadol ar gyfer cymunedau ledled y DU.
Beth yw’r ffordd orau yn eich barn chi y gallai’r Loteri Genedlaethol a’r 12 Corff Dosbarthu Loteri Genedlaethol, sy’n dosbarthu cyllid y loteri i dderbynwyr grantiau, roi mwy o lais i’ch cymuned ynghylch ble mae arian achosion da yn mynd? [blwch testun rhydd]
Symleiddio mynediad at gyllid
Mae’r llywodraeth eisiau gwella effeithlonrwydd a sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at y cyllid y maent yn ei haeddu.
Cwestiwn 16. Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio profiad eich sefydliad orau gyda phroses ymgeisio am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol? Meddyliwch am y sefydliad rydych chi’n gweithio iddo ar hyn o bryd yn unig.
-
1. Mae fy sefydliad wedi gwneud cais/wrthi’n gwneud cais am grant ar hyn o bryd
-
2. Nid yw fy sefydliad erioed wedi derbyn grant ond mae wedi ystyried gwneud cais
-
3. Nid yw fy sefydliad erioed wedi derbyn grant ac nid yw wedi ystyried gwneud cais
-
4. Doeddwn i ddim yn ymwybodol bod cyllid achosion da’r loteri ar gael
-
5. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 17. Pa mor hawdd neu anodd, os o gwbl, oeddech chi’n teimlo oedd y broses ymgeisio am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn eich barn chi?
-
1. Hawdd iawn
-
2. Eithaf hawdd
-
3. Ddim yn hawdd nac yn anodd
-
4. Eithaf anodd
-
5. Anodd iawn
-
6. Ddim yn berthnasol (Wnes i ddim gwneud cais yn bersonol)
-
7. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 18. Dywedoch eich bod wedi cael y broses o ymgeisio am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn eithaf anodd.
A allech chi ddweud wrthym beth oedd yn anodd am y broses? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 19. Dywedoch eich bod wedi cael y broses o ymgeisio am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn eithaf hawdd.
A allech chi ddweud wrthym beth oedd yn hawdd am y broses? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 20. Ac a oedd eich cais am grant o gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus?
-
1. Llwyddiannus – cawsom gyllid achosion da
-
2. Aflwyddiannus – ni chawsom gyllid achosion da
-
3. Cymysgedd – rydw i wedi cael ceisiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus yn y gorffennol
-
4. Ddim yn gwybod/Alla i ddim cofio
Cwestiwn 21. Pa rai o’r cyrff canlynol ydych chi wedi gwneud cais am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol gyda nhw? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
-
1. Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
-
2. Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
-
3. Cyngor Celfyddydau Lloegr
-
4. Creative Scotland
-
5. Cyngor Celfyddydau Cymru
-
6. Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon
-
7. UK Sport
-
8. Sport England
-
9. Sport Scotland
-
10. Chwaraeon Cymru
-
11. Sport Council for Northern Ireland
-
12. Sefydliad Ffilm Prydain
-
13. Ddim yn gwybod/alla i ddim cofio
Cwestiwn 22. Gan feddwl am yr holl weithiau rydych chi wedi gwneud cais am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol yn y gorffennol, beth yw cyfanswm yr arian rydych chi wedi gwneud cais amdano yn fras?
-
1. Llai na £1,000
-
2. £1,000 i £9,999
-
3. £10,000 i £24,999
-
4. £25,000 i £49,999
-
5. £50,000 i £99,999
-
6. £100,000 i £249,999
-
7. £250,000 i £999,999
-
8. £1,000,000 i £4,999,999
-
9. Mwy na £5,000,000
-
10. Ddim yn gwybod/Alla i ddim cofio
Cwestiwn 23. O ba un o’r canlynol, os o gwbl, y clywsoch chi y gallech chi/eich sefydliad wneud cais am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
-
1. Yn uniongyrchol gan dderbynnydd cyllid
-
2. Sianeli swyddogol y Loteri Genedlaethol (e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu)
-
3. Papurau newydd (cenedlaethol, lleol neu ranbarthol)
-
4. Teledu (rhaglenni cenedlaethol neu ranbarthol)
-
5. Radio (cenedlaethol, lleol neu ranbarthol)
-
6. Cyfryngau cymdeithasol (e.e. Facebook, Instagram, X, TikTok, Snapchat ac ati)
-
7. Clywed gan rywun arall
-
8. Grwpiau cymunedol
-
9. Sefydliadau addysgol
-
10. Cyfathrebiad yr awdurdod lleol neu’r cyngor
-
11. Taflenni/cyfathrebiadau ysgrifenedig
-
12. Cynadleddau gwaith/digwyddiadau rhwydweithio
-
13. Arall (Nodwch) [blwch testun rhydd]
-
14. Ddim yn gwybod/alla i ddim cofio
-
15. Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw gyllid achosion da gan y Loteri Genedlaethol
Cwestiwn 24. Yn seiliedig ar eich profiadau chi neu brofiadau eich sefydliad, pa newidiadau, os o gwbl, hoffech chi eu gweld yn cael eu gwneud i’r broses o wneud cais am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 25. Pa un o’r canlynol, os o gwbl, fyddai’n eich annog chi neu’ch sefydliad i wneud cais am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
-
1. Hyder y byddai fy nghais yn llwyddiannus
-
2. Meini prawf cymhwysedd clir
-
3. Proses ymgeisio syml a hawdd
-
4. Cyfle i weithio gyda’r Loteri Genedlaethol
-
5. Geirdaon cadarnhaol gan ymgeiswyr llwyddiannus
-
6. Cyfraddau llwyddiant uchel o geisiadau
-
7. Mynediad at adnoddau / templedi cefnogol wrth wneud cais
-
8. Proses ymgeisio hygyrch (e.e. gwahanol ieithoedd, dulliau ymgeisio)
-
9. Y cyfle i gael mynediad at gyllid / arian ychwanegol
-
10. Arall (Nodwch) [blwch testun rhydd]
-
11. Ni fyddai dim byd yn fy annog i wneud cais am gyllid.
-
12. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 26. Pa rai o’r canlynol, os o gwbl, fyddech chi’n dweud yw’r rhwystrau mwyaf y byddech chi neu’ch sefydliad yn eu hwynebu wrth ystyried gwneud cais am gyllid achosion da’r Loteri Genedlaethol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
-
1. Diffyg hyder y byddai cais yn llwyddiannus
-
2. Ddim yn ymwybodol o gyfleoedd ariannu achosion da
-
3. Byddai’r broses ymgeisio yn gymhleth
-
4. Ddim yn siŵr a fyddem yn gymwys ar gyfer y cyllid
-
5. Diffyg amser i wneud cais
-
6. Byddai cystadleuaeth am gyllid yn rhy uchel
-
7. Byddai angen gormod o ddogfennaeth/gweinyddiaeth
-
8. Mynediad cyfyngedig i’r dechnoleg angenrheidiol sydd ei hangen i wneud cais
-
9. Rhwystrau iaith wrth wneud cais
-
10. Profiadau blaenorol o gael eich gwrthod am gyllid
-
11. Rhwymedigaethau adrodd dilynol yn rhy heriol
-
12. Dim angen gwneud cais/dim angen y cyllid
-
13. Arall (Nodwch) [blwch testun rhydd]
-
14. Nid oes unrhyw rwystrau i wneud cais
-
15. Ddim yn gwybod
Cwestiwn 27. Sut ydych chi’n meddwl y gallai’r Loteri Genedlaethol a’r 12 Corff Dosbarthu Loteri Genedlaethol, sy’n dosbarthu cyllid loteri i dderbynwyr grantiau, annog mwy o bobl sy’n gymwys i ymgeisio am gyllid achosion da? Beth arall allent fod yn ei wneud? [blwch testun rhydd]
Cwestiwn 28. Rydym bron â gorffen. Oes gennych chi unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud wrthym ni fel rhan o’r alwad hon am dystiolaeth?
-
1. Oes - [blwch testun rhydd]
-
2. Nac oes – dim byd arall i’w ychwanegu