Treth Enillion Cyfalaf: ymholiadau

Ffoniwch neu ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EF i gael help gyda Threth Enillion Cyfalaf, gan gynnwys ymholiadau cyffredinol a sut i wneud taliadau.

Ffôn

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch Treth Enillion Cyfalaf, ffoniwch CThEF.

Bydd angen eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad arnoch.

Ffôn: 0300 200 1900

Ffôn testun: 0300 200 3319

Tu allan i’r DU: +44 300 200 1900

Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener, 08:30 – 17:00

Darganfyddwch am gostau galwadau

Post

Ysgrifennwch at CThEF am help gydag ymholiadau cyffredinol ynghylch Treth Enillion Cyfalaf.

Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn.

Dylai negeswyr ddefnyddio cyfeiriad gwahanol.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
United Kingdom

Fel arfer, caiff Treth Enillion Cyfalaf ei thalu drwy Hunanasesiad. Er mwyn talu’ch treth drwy siec, dilynwch y cyfarwyddiadau talu:

  • ar gyfer Hunanasesiad
  • os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth Treth Enillion Cyfalaf ar-lein (a elwir hefyd yn ‘Trafodion Amser Real’)
  • os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’r taliad gyrraedd CThEF.

Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn anfon siec i’r cyfeiriad hwn.

Dylai negeswyr ddefnyddio cyfeiriad gwahanol (yn agor tudalen Saesneg).

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
United Kingdom

Cynnwys cysylltiedig

Cynnwys yn yr iaith Gymraeg sydd ar gael ar GOV.UK

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Mai 2025