Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Os ydych chi'n byw yn yr Alban
Efallai y byddwch chi’n gymwys os oedd y canlynol i gyd yn gymwys ar 23 Awst 2026:
- bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
- eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau penodol sydd â phrawf moddion
- bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
Yn achos rhai budd-daliadau cymwys, fe gewch chi’r gostyngiad yn awtomatig. Ar gyfer eraill, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i’ch cyflenwr ynni.
Pryd cewch chi’r gostyngiad yn awtomatig
Fe gewch chi’r gostyngiad yn awtomatig os ydych chi neu’ch partner:
- yn cael Credyd Pensiwn
- yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol am fod gennych chi neu’ch plentyn anabledd neu gyflwr iechyd
- yn cael premiwm anabledd neu bremiwm pensiynwr Lwfans Cymorth Cyflogaeth sy’n gysylltiedig ag incwm
- yn cael premiwm anabledd neu bremiwm pensiynwr a bod gennych chi fenthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais
Byddwch chi hefyd yn cael y gostyngiad yn awtomatig os ydych chi neu’ch partner yn gyfrifol am blentyn dan 5 oed sydd fel arfer yn byw gyda chi a’ch bod chi:
- yn ddi-waith ac yn cael Credyd Cynhwysol
- yn cael Lwfans Cymorth Cyflogaeth sy’n gysylltiedig ag Incwm
- wedi cael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais
Yr enw ar hyn yw’r ‘grŵp craidd’.
Sut i gael y gostyngiad
Fe gewch chi lythyr rhwng Hydref 2026 a dechrau Ionawr 2027:
- os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun
- os gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, ond bod angen ichi roi rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes na fyddwch chi’n cael llythyr erbyn dechrau mis Ionawr 2027.
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, bydd eich llythyr yn cadarnhau nad oes angen ichi wneud dim. Bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2027.
Os oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth, bydd eich llythyr yn dweud wrthoch chi am ffonio’r llinell gymorth erbyn 26 Chwefror 2027 i gadarnhau’ch manylion.
Pryd bydd angen ichi wneud cais i gael y gostyngiad
Os nad ydych chi’n cael y gostyngiad yn awtomatig, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i’ch cyflenwr ynni.
Efallai y bydd gan eich cyflenwr trydan feini prawf cymhwysedd ychwanegol. Byddan nhw hefyd yn dweud wrthoch chi pa fudd-daliadau sy’n golygu eich bod chi’n gymwys.
Yr enw ar hyn yw’r ‘grŵp ehangach’.
Sut i gael y gostyngiad
Cysylltwch â’ch cyflenwr trydan i wirio a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais.
Dylech gysylltu â nhw cyn gynted â phosibl. Cysylltwch â nhw hyd yn oed os oeddech chi’n gymwys i gael gostyngiad y llynedd. Nhw sy’n penderfynu pwy sy’n cael y gostyngiad yn yr Alban. Mae nifer y gostyngiadau y gall cyflenwyr eu rhoi yn gyfyngedig.
Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2027. Bydd angen ichi aros gyda’ch cyflenwr nes ei fod wedi’i dalu.