Cyflyrau llygaid a gyrru
Os oes gennych drwydded car neu feic modur
Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich gyrru. Gallwch gael eich erlyn os ydych yn rhan o ddamwain o ganlyniad.
Mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA os oes gennych gyflyrau llygaid penodol.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Y cyflyrau llygaid y mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA amdanynt yw:
- blepharospasm
- retinopathi diabetig (gyda thriniaeth laser)
- diplopia (golwg dwbl)
- glawcoma
- nyctalopia (nosddallineb)
- retinitis pigmentosa
Mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae eich cyflwr llygaid yn effeithio ar y ddau lygad
- mae eich cyflwr llygaid yn effeithio ar un llygad - ond dim ond yn y llygad hwnnw y mae gennych olwg
- mae gennych retinitis pigmentosa sy’n effeithio ar un llygad neu’r ddau
- mae meddyg teulu, optegydd neu arbenigwr llygaid wedi dweud na ddylech yrru
- nad ydych yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru
Y safonau golwg ar gyfer gyrru
Dylech fodloni’r safonau os:
-
ydych yn gallu darllen plât rhif o 20 metr i ffwrdd
-
nad oes gennych olwg dwbl
-
oes gennych faes golwg arferol mewn un llygad o leiaf (gall eich optegydd brofi hyn)
Os nad ydych yn siŵr os ydych yn bodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru dylech gael cyngor gan eich meddyg teulu, optegydd neu arbenigwr llygaid.
Sut i ddweud wrth DVLA
Dylech roi gwybod am eich cyflwr llygaid ar-lein.
Os oes gennych gyflwr mewn un llygad a chyflwr arall yn effeithio ar eich llygad arall, mae angen ichi lenwi ac anfon ffurflen V1W i DVLA. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Rhoi gwybod am eich cyflwr ar-lein
Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen V1W os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Mae rhagor o gyflyrau y mae angen ichi roi gwybod amdanynt os oes gennych drwydded bws, coets neu lori.
Os oes angen prawf llygaid arnoch
Os byddwch yn rhoi gwybod am gyflwr meddygol sy’n effeithio ar eich golwg, gall DVLA eich cyfeirio am brawf golwg gyda’i hoptegydd dan gontract. Nid oes rhaid ichi dalu am y prawf.
Yna mae DVLA yn ystyried yr holl dystiolaeth feddygol a ddarperir fel rhan o gais am drwydded yrru, gan gynnwys canlyniad y prawf golwg.
Os dewiswch gael eich prawf golwg o rywle arall
Gallwch gyflwyno canlyniadau prawf golwg a wnaed gan optegydd arall cyn belled â’i fod yn cynnwys ‘prawf gweledol Esterman’. Nid yw DVLA yn gwarantu y byddant yn derbyn prawf golwg a wneir gan optegwyr eraill.
Bydd angen ichi dalu am y prawf eich hun.