Cyflogi staff am y tro cyntaf

Mae yna 7 peth y mae’n rhaid i chi’u gwneud wrth gyflogi staff am y tro cyntaf.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

  1. Penderfynu faint i dalu rhywun - mae’n rhaid i chi dalu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’ch cyflogai.

  2. Gwirio a oes gan yr unigolyn yr hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi wneud gwiriadau cyflogaeth eraill hefyd.

  3. Gwirio a oes angen i chi wneud cais am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a alwyd gynt yn wiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) os ydych yn gweithio mewn maes lle bo angen un ar y staff, e.e. gyda phobl sy’n agored i niwed, neu yn y maes diogelwch.

  4. Cael yswiriant cyflogaeth - mae angen yswiriant rhwymedigaeth cyflogwr arnoch cyn gynted ag y dewch yn gyflogwr.

  5. Anfon manylion y swydd (gan gynnwys telerau ac amodau) yn ysgrifenedig at eich cyflogai. Bydd angen i chi roi datganiad ysgrifenedig o gyflogaeth i’ch cyflogai os ydych yn cyflogi rhywun am fwy nag 1 mis.

  6. Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) drwy gofrestru fel cyflogwr - gallwch wneud hyn hyd at 4 wythnos cyn i chi dalu’ch staff newydd.

  7. Gwirio a oes angen i chi gofrestru’ch staff yn awtomatig ar gynllun pensiwn y gweithle.