Os oes salwch angheuol ar eich plentyn neu os bydd yn marw

Os oes salwch angheuol ar eich plentyn, gallwch dynnu arian o’i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Os bydd yn marw, mae’r arian yn cael ei drosglwyddo i’r person sy’n etifeddu ei ystâd (eiddo).

Os oes salwch angheuol ar eich plentyn

Mae ‘salwch angheuol’ yn golygu bod ganddo glefyd neu salwch sy’n mynd i waethygu ac nad yw’n debygol o fyw am fwy na 6 mis. Dim ond y cyswllt cofrestredig sy’n cael tynnu arian o’r cyfrif.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, mae gennych hyd at 6 mis ar ôl y dyddiad y cafodd eich plentyn ei ddiagnosis i dynnu arian o’r cyfrif.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae gennych hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad y cafodd eich plentyn ei ddiagnosis i dynnu arian o’r cyfrif.

Os ydych yn byw yn yr Alban, does dim terfyn amser o ran tynnu arian o’r cyfrif.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Llenwch y ffurflen mynediad cynnar oherwydd salwch angheuol i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am y canlynol:

  • mae salwch angheuol ar eich plentyn
  • eich bod am dynnu’r arian o’r cyfrif

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth er mwyn dangos bod salwch angheuol ar eich plentyn.

Os yw’ch plentyn yn marw

Bydd yr arian yn y cyfrif yn cael ei dalu i’r person sy’n etifeddu ystâd y plentyn. Fel arfer, un o rieni’r plentyn yw hwn. Ond os oedd eich plentyn yn briod, gallai fod yn ŵr neu’n wraig i’r plentyn.

Os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sydd wedi marw, gall hyn barhau am gyfnod byr wedi’r farwolaeth.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Rhoi gwybod i ddarparwr cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Fel rheol bydd angen i chi roi tystiolaeth, er enghraifft y dystysgrif marwolaeth.