Cofrestru dyluniad

Printable version

1. Trosolwg

Mae cofrestriad dyluniad yn helpu i ddiogelu ymddangosiad cynnyrch, fel ei siâp neu batrwm.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae cofrestru’ch dyluniad yn ei gwneud hi’n haws profi:

  • eich bod yn berchen ar y dyluniad yn gyfreithiol
  • pryd y gwnaethoch ei greu

Bydd hyn yn helpu os bydd unrhyw un yn ceisio copïo neu ddefnyddio’ch dyluniad heb eich caniatâd.

Mae cofrestriad dyluniad yn parhau am bum mlynedd. Rhaid i chi adnewyddu’ch cofrestriad dyluniad bob pum mlynedd i’w gadw’n ddiogel - hyd at uchafswm o 25 mlynedd.

Beth y gallwch ei gofrestru

Rhaid i’ch dyluniad fod yn newydd.

Gall dyluniad rhywbeth gynnwys un neu fwy o’r canlynol:

  • siâp corfforol
  • ffurfweddiad (neu sut mae gwahanol rannau o ddyluniad yn cael eu trefnu gyda’i gilydd)
  • addurniad neu liw
  • patrwm

Beth na allwch ei gofrestru

Ni allwch gofrestru:

  • deunydd annymunol, er enghraifft geiriau rhegi neu ddelweddau pornograffig
  • dyluniadau sy’n defnyddio baneri cenedlaethol nad oes gennych ganiatâd i’w defnyddio
  • dyluniadau sy’n defnyddio arwyddluniau neu nodweddion swyddogol, er enghraifft y cylchoedd Olympaidd neu arfbeisiau
  • ymarferoldeb dyluniad, er enghraifft cadair sy’n plygu i lawr yn gyflymach nag eraill o’r un math

Beth mae’n ei gostio

Mae cofrestru dyluniad yn costio o £50 am un dyluniad i £150 am hyd at 50.

Y broses ymgeisio

Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post.

Rhaid i chi anfon darluniadau manwl o’ch dyluniadau i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), gan gynnwys unrhyw nodiadau i ddisgrifio’n union beth rydych yn ei gofrestru.

Byddwch yn cael penderfyniad ar eich cais o fewn tair wythnos.

Gweld llinell amser o’r broses.

2. Cyn i chi wneud cais

Chwiliwch y cofrestrau dylunio canlynol i wirio a oes unrhyw un arall wedi cofrestru eich dyluniad: 

Gallwch ofyn i’r Swyddfa Eiddo Deallusol chwilio dyluniadau cofrestredig y DU ar eich rhan. Mae hyn yn costio £24. 

Cael help a chyngor proffesiynol 

Gallwch gael cyngor am ddim ar gofrestru dyluniad gan: 

Gallwch gael cymorth proffesiynol gan atwrneiod patent a atwrneiod nod masnach. Bydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaethau. 

3. Paratoi eich cais

Rhaid i chi baratoi darluniadau manwl o’ch dyluniad. 

Gallwch gynnwys hyd at 12 darluniad os ydych yn gwneud cais ar-lein. Os oes angen i chi gynnwys mwy na 12 darluniad, rhaid i chi wneud cais drwy’r post yn lle hynny. 

Os oes angen i chi gynnwys mwy nag un olwg o’r dyluniad, er enghraifft golwg o’r brig i lawr ac o’r ochr, rhaid i chi ddangos hyn fel darluniadau ar wahân. 

Os ydych yn gwneud cais drwy’r post, rhaid i’ch darluniadau fod ar bapur A4 plaen.

Rheolau ar gyfer darluniadau 

Dylai eich darluniadau:

  • dangos y dyluniad fel y mae’n ymddangos i’r llygad, gan ddefnyddio ffotograffau, lluniadau llinell, dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) neu CAD wedi’i rendro 
  • bod yr un math o ddelwedd (er enghraifft, i gyd yn lluniadau llinell neu i gyd yn ffotograffau) 
  • dangos y dyluniad yn erbyn cefndir plaen 
  • cynnwys y patrwm cyflawn a dangos sut mae’n ailadrodd, os ydych chi am gofrestru patrwm arwyneb 
  • dylech gynnwys gwrthrychau sydd eu hangen i arddangos eich dyluniad yn unig (er enghraifft, peidiwch â chynnwys eich llaw, neu wrthrych nad yw’n gysylltiedig â’ch dyluniad) 
  • bod yn glir (er enghraifft, os ydych yn defnyddio ffotograffau mae’n rhaid iddynt fod yn eglur) 
  • heb unrhyw fanylion wedi’u cuddio gan gysgodion neu adlewyrchiadau 
  • heb gynnwys testun, mesuriadau na gwybodaeth dechnegol arall

Os yw eich darluniadau’n cynnwys cyferbyniadau lliw neu arlliw, bydd y rhain yn cael eu hystyried yn elfennau o’ch dyluniad oni bai eich bod yn dweud yn wahanol.

Os yw eich darluniadau’n cynnwys pethau nad ydych am eu cofrestru

Rhaid i chi ddangos neu esbonio:

  • pa rannau o ddarluniad rydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn ‘gyfyngiad’ 

  • y rhannau o ddarluniad nad ydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn ‘ymwadiad’ 

Gallwch wneud hyn drwy ‘lwydo allan’ neu gylchu rhannau o’r darluniad, neu drwy ychwanegu llinell o destun.

Enghraifft 1

Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer rhai coesau bwrdd. Mae eich darluniadau’n dangos y bwrdd cyfan. Amlygwch y coesau (er enghraifft, trwy eu hamlinellu) i’w gwneud yn glir mai dyma’r unig ran o’r bwrdd rydych chi am ei chofrestru.

Enghraifft 2

Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer beic. Mae’r beic yn eich darluniadau’n binc. Ychwanegwch nodyn eich bod yn cofrestru siâp y beic, nid y lliw, i amddiffyn eich hawl i ddefnyddio unrhyw liw.

Enghraifft 3

Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer tebot. Mae’r darluniadau’n dangos patrwm ond mae eich dyluniad yn ymwneud â siâp y tebot. Ychwanegwch nodyn yn egluro nad yw’r patrwm yn rhan o’r dyluniad.

4. Anfon eich cais

Rhaid bod gennych ddarluniau o’ch dyluniad cyn y gallwch wneud cais i gofrestru dyluniad.

Os nad ydych am i’ch dyluniad gael ei gofrestru cyn gynted â phosibl, gallwch ddewis ‘gohirio’ eich cais am hyd at 12 mis. Ni fydd eich dyluniad yn cael ei ddiogelu fel dyluniad cofrestredig tra bydd eich cais yn cael ei ohirio.

Mae faint rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar nifer y dyluniadau rydych chi’n eu cofrestru, nid nifer y darluniau rydych chi’n eu cynnwys.

Nifer y dyluniadau Ffi ffeilio ar-lein
Un £50
Hyd at 10 £70
Hyd at 20 £90
Hyd at 30 £110
Hyd at 40 £130
Hyd at 50 £150

Gwneud cais ar-lein

Os na allwch wneud cais ar-lein

Llenwch ffurflen gais a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Cynhwyswch eich darluniau a’r ffi. Mae’n costio mwy na gwneud cais ar-lein.

Nifer y dyluniadau Ffi ffeilio papur
Un £60
Pob dyluniad ychwanegol £40

5. Ar ôl i chi wneud cais

Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn archwilio eich cais. 

Os nad oes unrhyw broblemau, bydd eich dyluniad yn cael ei gofrestru - fel arfer o fewn tair wythnos. 

Bydd yr IPO yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw broblemau. Bydd gennych o leiaf ddau fis i’w datrys. Efallai y byddwch yn cael mwy o amser yn dibynnu ar y math o broblem. 

Os gwnaethoch ohirio eich cofrestriad

Os gwnaethoch ohirio eich cofrestriad pan wnaethoch gais, mae gennych hyd at 12 mis i’w gofrestru cyn y bydd yr IPO yn canslo’ch cais. 

Er mwyn ei gofrestru, anfonwch ffurflen gofrestru dyluniad gohiriedig a’r ffi o £40 ar gyfer pob dyluniad. 

6. Pan fydd eich dyluniad wedi'i gofrestru

Unwaith y bydd eich dyluniad wedi’i gofrestru caiff ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn o ddyluniadau cofrestredig. Bydd unrhyw un yn gallu gweld eich dyluniad.

Gallwch arddangos eich rhif cofrestru ar eich dyluniad.

Mae’n rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad dyluniad bob 5 mlynedd i’w ddiogelu, am hyd at 25 mlynedd i gyd.

Gallwch drwyddedu, gwerthu neu forgeisio eich cynllun.

Os caiff eich cais ei wrthod

Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol yn rhoi gwybod i chi os caiff eich cais ei wrthod ac yn rhoi gwybod i chi pam.

Gallwch gofyn am wrandawiad os ydych yn:

  • credu bod eich cais wedi cael ei drin yn annheg
  • anghytuno â’r penderfyniad am eich dyluniad