Paratowch eich cais

Rhaid i chi baratoi darluniau manwl o’ch dyluniad.

Gallwch uwchlwytho hyd at 12 darlun o’r un dyluniad os ydych chi’n gwneud cais ar-lein. Os oes angen i chi gynnwys mwy na 12 darlun, rhaid i chi wneud cais drwy’r post.

Os ydych chi’n gwneud cais drwy’r post, rhaid i’ch darluniau fod ar bapur A4 plaen.

Os ydych am gofrestru mwy nag un dyluniad

Gallwch gofrestru hyd at 50 o ddyluniadau ar y tro ar-lein.

Rhaid i chi gofrestru pob dyluniad ar wahân.

Os yw’ch dyluniadau’n wahanol, er enghraifft siâp, patrwm neu addurn gwahanol, rhaid i chi gofrestru pob fersiwn fel dyluniad ar wahân

Rheolau ar gyfer darluniau

Dangoswch un dyluniad yn unig

Rhaid i’ch darluniau:

  • ddangos un fersiwn yn unig o’ch dyluniad
  • ddangos pob golwg (er enghraifft blaen, ochr a chefn) fel darlun ar wahân
  • ddangos lliw neu gyferbyniadau tonyddol sy’n elfennau o’ch dyluniad yn unig - oni bai eich bod chi’n dweud fel arall

Dangoswch y dyluniad ar ei ben ei hun

Rhaid i’ch darluniau:

  • ddangos y dyluniad ar gefndir plaen
  • beidio â chynnwys eich llaw, neu wrthrych nad yw’n gysylltiedig â’ch dyluniad
  • beidio â chynnwys testun, mesuriadau na gwybodaeth dechnegol

Os oes rhannau o’r dyluniad sy’n dangos nad ydych am gofrestru, gallwch ‘lwydo’, amlygu neu gylchu rhannau o’r darlun.

Enghraifft

Rydych chi eisiau cofrestru dyluniad ar gyfer rhai coesau bwrdd. Mae eich darluniau yn dangos y bwrdd cyfan. Tynnwch sylw at y coesau (er enghraifft, trwy eu hamlinellu) i’w gwneud yn glir mai nhw yw’r unig ran o’r bwrdd rydych chi am ei gofrestru

Os ydych chi’n cofrestru patrwm arwyneb

Rhaid i’ch darluniau ddangos y patrwm cyflawn a dangos yn glir sut mae’r patrwm yn ailadrodd.

Defnyddiwch ddelweddau clir

Rhaid i’ch darluniau:

  • ddangos y dyluniad fel y mae’n ymddangos i’r llygad, gan ddefnyddio ffotograffau, lluniadau llinell, dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) neu CAD wedi’i rendro
  • i gyd fod yr un math o ddelwedd, er enghraifft pob ffotograff neu bob llun llinell
  • fod yn glir, er enghraifft os ydych chi’n defnyddio ffotograffau mae’n rhaid iddynt fod mewn ffocws
  • fod heb unrhyw fanylion wedi’u cuddio gan gysgodion neu adlewyrchiadau

Os yw’ch darluniau yn cynnwys pethau nad ydych am eu cofrestru

Rhaid i chi esbonio’n ysgrifenedig y rhannau o ddarlun nad ydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn ‘ymwadiad.’’

Enghraifft 1

Rydych chi eisiau cofrestru dyluniad ar gyfer beic. Mae’r beic yn eich darluniau yn binc. Ychwanegwch nodyn (‘ymwadiad’) eich bod chi’n cofrestru siâp y beic, nid y lliw, er mwyn diogelu eich hawl i ddefnyddio unrhyw liw.

Enghraifft 2

Rydych chi eisiau cofrestru dyluniad ar gyfer tebot. Mae’r darluniau’n dangos patrwm ond mae eich dyluniad yn ymwneud â siâp y tebot. Ychwanegwch nodyn (‘ymwadiad’) sy’n esbonio nad yw’r patrwm yn rhan o’r dyluniad.