Atgyfeirio cymhorthdal arfaethedig Morglawdd Caergybi i Stena Line Ports Ltd gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau (SAU) wedi derbyn cais gan Lywodraeth Cymru am adroddiad ynghylch cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd i’w cefnogi i dalu costau adnewyddu’r morglawdd ym Mhorthladd Caergybi, Ynys Môn.

Amserlen weinyddol

Dyddiad Cam Gweithredu
9 Awst 2023 Cyhoeddi adroddiad SAU
12 Gorffennaf 2023 Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau trydydd parti (ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 5pm ar y dyddiad hwn yn cael eu hystyried)
28 Mehefin 2023 Dechrau’r cyfnod adrodd

Adroddiad Terfynol

9 Awst 2023: Mae’r SAU wedi cyhoeddi ei adroddiad sy’n darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd i adnewyddu morglawdd Porthladd Caergybi. Mae’r adroddiad yn nodi ein gwerthusiad o Asesiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru i’r cymhorthdal arfaethedig gyda’r gofynion wedi eu nodi yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.

Cais gan Lywodraeth Cymru

27 Mehefin 2023: Mae’r SAU wedi derbyn cais gan Lywodraeth Cymru am adroddiad ynghylch cymhorthdal arfaethedig i Stena Line Ports Ltd. ar gyfer adnewyddu’r morglawdd ym Mhorthladd Caergybi. Mae’r cais hwn yn ymwneud â Chymhorthdal o Ddiddordeb Arbennig.

Bydd yr SAU yn paratoi adroddiad, a fydd yn darparu gwerthusiad o asesiad Llywodraeth Cymru i weld a yw’r cymhorthdal yn cydymffurfio â’r gofynion rheoli cymorthdaliadau (Asesiad o Gydymffurfiaeth). Bydd yr SAU yn cwblhau ei hadroddiad o fewn 30 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth am y cynllun a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfrannu arian cyhoeddus i Stena Line Ports Ltd (Stena) i’w cefnogi i dalu costau adnewyddu’r morglawdd Fictoraidd presennol 2.4km ym Mhorthladd Caergybi (y Porthladd). Adeiladwyd y morglawdd rhwng 1845 a 1873 ac mae wedi bod o dan berchnogaeth Stena ers 1991.

Disgwylir i’r gwaith adnewyddu gostio mwy na £100 miliwn a bydd cymorth cyhoeddus yn cynnwys cyfanswm cymhorthdal o tua £28 miliwn.

Deallir, os na wneir gwaith adnewyddu, byddai hyn yn y pen draw yn arwain at golli’r morglawdd, gan leihau gallu’r porthladd i ddarparu gwasanaethau fferi dibynadwy a chynyddunifer y gwasanaethau lle ceir oedi ac sy’n cael eu canslo oherwydd tywydd gwael. Gallai hyn arwain at gau’r Porthladd a fyddai’n cael effeithiau cymdeithasol ac economaidd negyddol sylweddol.

Y cynnig yw darparu’r cymhorthdal dros oes y prosiect adnewyddu ei hun, y disgwylir iddo beidio â bod yn fwy na 2 flynedd. Bydd y grant yn cael ei dalu i Stena mewn rhandaliadau sy’n adlewyrchu’r cynnydd a wneir.

Gwybodaeth i drydydd partïon

Os hoffech wneud sylw ar faterion sy’n berthnasol i werthusiad yr SAU o’r Asesiad o Gydymffurfiaeth ynghylch y cymhorthdal arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i Stena Line Ports Ltd., anfonwch eich sylwadau cyn 5pm ar y dyddiad a nodir yn yr amserlen uchod. I gael arweiniad ar sylwadau sy’n berthnasol i’r Asesiad o Gydymffurfiaeth, gweler yr adran ar y cyfnod adrodd a thryloywder yng Ngweithrediad swyddogaethau rheoli cymorthdaliadau’r Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau.

Anfonwch eich cyflwyniadau atom yn sau-holyheadbreakwater@cma.gov.uk, gan anfon copi at yr awdurdod cyhoeddus: SubsidyControlUnit@gov.wales Darparwch hefyd gyfeiriad cyswllt ac eglurwch ym mha rinwedd rydych yn gwneud y cyflwyniad (er enghraifft, fel unigolyn neu gynrychiolydd busnes neu sefydliad).

Nodiadau i drydydd partïon sy’n dymuno gwneud cyflwyniad

Dim ond os gellir ei rannu â Llywodraeth Cymru y bydd yr SAU yn ystyried eich cyflwyniad. Bydd yr SAU yn anfon copi o’ch cyflwyniad i Lywodraeth Cymru ynghyd â’i hadroddiad. Mae hyn er mwyn galluogi’r awdurdod cyhoeddus i ystyried y cyflwyniad yn ei benderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu neu addasu’r cynllun neu ei asesiad. Gofynnwn felly i chi roi caniatâd penodol i’ch cyflwyniad llawn, heb ei olygu, gael ei rannu. Rydym hefyd yn eich annog i rannu’ch cyflwyniad yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarperir uchod.

Gallai’r SAU ddefnyddio’r wybodaeth a roddwch yn ei hadroddiad cyhoeddedig. Felly, dylech nodi yn eich cyflwyniad a yw unrhyw rannau penodol ohono yn fasnachol gyfrinachol. Os yw’r SAU yn dymuno cyfeirio yn ei adroddiad cyhoeddedig at ddeunydd a nodir yn gyfrinachol, bydd yn cysylltu â chi ymlaen llaw.

Am fanylion pellach ar gyfrinachedd cyflwyniadau trydydd parti, gweler nodi gwybodaeth gyfrinachol yng Ngweithrediad swyddogaethau rheoli cymorthdaliadau’r Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau.

Cysylltiadau Tîm prosiect SAU: sau-holyheadbreakwater@cma.gov.uk Tîm y wasg CMA: 020 3738 6460 neu press@cma.gov.uk

Published 14 September 2023