Bywyd yn y carchar
Gofal iechyd yn y carchar
Mae gan garcharorion yr un hawl i safon o ofal iechyd a thriniaeth ag unrhyw un y tu allan i’r carchar.
Mae’r driniaeth am ddim ond rhaid iddi gael ei chymeradwyo gan feddyg carchar neu aelod o’r tîm gofal iechyd.
Nid oes ysbyty mewn carchardai, ond mae gan lawer ohonynt welyau i gleifion mewnol.
Y tîm gofal iechyd sy’n delio â’r rhan fwyaf o broblemau. Os na allant wneud hynny, gall y carchar wneud y canlynol:
- gofyn i arbenigwr ymweld â’r carchar
- trefnu triniaeth mewn ysbyty allanol
Gall y tîm gofal iechyd ofyn i feddyg teulu’r carcharor am ei gofnodion, ond dim ond os yw’r carcharor yn cytuno i hynny.
Cymorth a chefnogaeth arbenigol
Gall carcharorion gael cymorth arbenigol, er enghraifft:
- os oes ganddo broblemau cyffuriau neu alcohol
- os oes ganddo HIV neu AIDS
- os yw’n anabl neu fod ganddo anhawster dysgu
Gwrthod triniaeth feddygol
Gall carcharor wrthod triniaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd y tîm gofal iechyd yn dewis rhoi triniaeth os nad yw’r carcharor yn gallu gwneud penderfyniadau ei hun (er enghraifft os oes ganddo gyflwr iechyd meddwl).
Lle bynnag y bo modd, bydd y tîm gofal iechyd yn trafod hyn gyda theulu’r carcharor yn gyntaf.