Carcharorion agored i niwed

Mae staff wedi cael eu hyfforddi i nodi carcharorion sydd mewn perygl o gael eu bwlio, o ladd eu hunain neu o niweidio eu hunain. Efallai y bydd y carcharor yn cael ei reolwr achos ei hun a fydd yn gwneud yn siŵr:

  • ei fod yn cael ei holi am ei iechyd meddwl, er enghraifft os yw’n teimlo’n isel
  • yn cael cymorth rheolaidd gan arbenigwr iechyd

Mae gan y rhan fwyaf o garchardai hefyd ‘gynlluniau gwrando’ sy’n cynnig cymorth emosiynol yn gyfrinachol – fel arfer gan gyd-garcharorion.

Ysbytai seiciatrig

Gellir symud carcharor i ysbyty seiciatrig diogel er ei ddiogelwch ei hun. Fydd hyn ddim yn digwydd oni bai ei fod yn bodloni amodau penodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Pan fydd y carcharor wedi gwella, bydd yn dychwelyd i’r carchar.

Os ydych chi’n poeni am garcharor

Os ydych chi’n poeni am garcharor:

  • rhowch wybod i aelod o staff y carchar pan fyddwch yn ymweld
  • cysylltwch â ‘Thîm Dalfa Fwy Diogel’ y carchar

Mae rhai carchardai’n rhedeg llinellau cymorth Dalfa Fwy Diogel cyfrinachol lle gallwch adael neges yn egluro eich pryderon. Dewch o hyd i garchar ac edrych ar yr adran cysylltu i gael manylion.