Breintiau a hawliau’r carcharor

Gall carcharorion sy’n dilyn rheolau ennill breintiau. Gelwir hyn yn ‘Gynllun Cymhellion a Breintiau Haeddiannol’. Efallai y bydd carcharor yn gallu:

  • cael mwy o ymweliadau gan deulu neu ffrindiau
  • cael gwario mwy o arian bob wythnos

Mae’r breintiau’n wahanol ym mhob carchar – gall staff egluro i’r carcharor sut mae’r cynllun yn gweithio.

Hawliau

Mae gan garcharorion hawliau, gan gynnwys:

  • gwarchodaeth rhag bwlio ac aflonyddu hiliol
  • gallu cysylltu â chyfreithiwr
  • gofal iechyd – gan gynnwys cymorth ar gyfer cyflwr iechyd meddwl

Dylai pob carcharor allu treulio rhwng 30 munud ac awr y tu allan yn yr awyr agored bob dydd.

Cosbau

Fel arfer, mae carcharor sy’n torri rheolau carchar yn cael ei gosbi. Gellir:

  • ei gadw yn ei gell am hyd at 21 diwrnod
  • rhoi hyd at 42 diwrnod ychwanegol yn y carchar iddo ar ben ei ddedfryd wreiddiol

Gall y carchar ddileu breintiau, er enghraifft tynnu teledu o gell.