Aros yn eiddo eich partner pan fyddwch yn ysgaru neu’n gwahanu

Neidio i gynnwys y canllaw

Trosolwg

Gallwch gofrestru eich ‘hawliau cartref’ gyda Chofrestrfa Tir EF – gall hyn helpu i atal eich partner rhag gwerthu eich cartref.

Ni allwch wneud cais am hawliau cartref os yw’ch priod neu’ch partner sifil yn berchen ar yr eiddo gyda rhywun arall – oni bai y byddai’ch priod neu’ch partner sifil yn cael yr holl arian pe bai’r eiddo yn cael ei werthu (hefyd yn cael ei alw’n ‘unig berchennog buddiol’).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn ichi wneud cais am hawliau cartref

Bydd yn rhaid ichi wybod a yw’r eiddo wedi’i gofrestru yn enw eich partner, ac os ydyw, ei rif teitl.

Gallwch chwilio’r gofrestr i gael y wybodaeth hon.

Sut i wneud cais

Rhaid ichi gwblhau proses gwneud cais wahanol ar gyfer hawliau cartref yn dibynnu a yw’r:

Pa mor hir allwch chi aros yn yr eiddo

Fel arfer gallwch fyw yn yr eiddo dim ond hyd nes bod yr ysgariad, y dirymiad neu’r diddymiad wedi’i gwblhau ac mae setliad llys wedi’i gytuno.

Efallai y gallwch barhau i fyw yn yr eiddo am gyfnod hwy, er enghraifft, yn ystod anghydfod parhaus ynghylch pwy sy’n berchen ar beth, os yw llys wedi gwneud ‘gorchymyn parhau’ sy’n caniatáu ichi wneud hynny.

Beth arall allwch chi ei wneud

Efallai y gallwch ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn eich partner os yw’n ceisio:

  • eich gorfodi i symud allan
  • eich atal rhag symud yn ôl i gartref nad ydych yn byw ynddo ar hyn o bryd, er enghraifft, os oeddech wedi symud allan dros dro

Gall cyfreithiwr eich cynghori ynglŷn â hyn.