Aros yn eiddo eich partner pan fyddwch yn ysgaru neu’n gwahanu

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwneud cais os yw’r eiddo yn ddigofrestredig

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru ‘Pridiant Tir Dosbarth F’.

Codir ffi o £1 – mae’r cyfarwyddiadau talu ar y ffurflen.

Anfonwch y ffurflen a’r taliad i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os ydych am symud i eiddo gwahanol

Gallwch ddiogelu eich hawl i fyw mewn un eiddo ar y tro yn unig.

Gallwch ofyn i Gofrestrfa Tir EF drosglwyddo eich hawliau cartref i eiddo arall y mae’ch priod neu’ch partner sifil yn berchen arno os ydych eisoes wedi cofrestru eich hawl i fyw mewn un eiddo.

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru ‘Pridiant Tir Dosbarth F’.

Codir ffi o £1 – mae’r cyfarwyddiadau talu ar y ffurflen.

Anfonwch y ffurflen a’r taliad i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dilynwch y broses gwneud cais ar gyfer eiddo cofrestredig os yw’r eiddo rydych yn symud iddo wedi’i gofrestru – gallwch chwilio’r gofrestr i weld a yw wedi’i gofrestru.

Aros yn yr eiddo ar ôl ysgaru neu wahanu

Efallai y gallwch barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod hwy, er enghraifft, os yw llys wedi gwneud ‘gorchymyn parhau’ sy’n caniatáu ichi wneud hynny yn ystod anghydfod parhaus ynghylch pwy sy’n berchen ar beth.

Mae’r modd rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar a ydych eisoes wedi cofrestru eich hawliau cartref.

Llwythwch i lawr a llenwch naill ai:

Codir ffi o £1 – mae’r cyfarwyddiadau talu ar y ffurflen.

Anfonwch y ffurflen a’r taliad i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Cewch lythyr gan Gofrestrfa Tir EF pan fydd eich hawliau parhau wedi eu cofrestru.

Bydd eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn cael llythyr hefyd yn dweud eich bod wedi cyflwyno’r cais.