Skip to main content

Beth i'w wneud os yw eich plât rhif yn cael ei ddwyn

Mae dau gam i adrodd am blatiau rhif wedi’u dwyn.

  1. Rhoi gwybod am y platiau rhif wedi’u dwyn i’r heddlu i gael cyfeirnod trosedd.

  2. Dweud wrth DVLA a chynnwys y cyfeirnod trosedd.

Adrodd am y platiau rhif sydd wedi’u clonio i’r heddlu

Cysylltwch â’r heddlu, a fydd yn rhoi cyfeirnod trosedd ichi. Bydd angen ichi gynnwys y rhif hwn pan fyddwch yn dweud wrth DVLA.

Dweud wrth DVLA am y platiau rhif wedi’u dwyn

Anfonwch lythyr i DVLA sy’n cynnwys y canlynol:

  • eich rhif cofrestru cerbyd (o’r platiau rhif wedi’u dwyn)
  • y cyfeirnod trosedd gan yr heddlu

Rhaid ichi fod ceidwad cofrestredig y cerbyd neu gael caniatâd ganddynt.

Anfonwch eich llythyr i:

DVLA
Abertawe
SA99 1AR

Ar ôl ichi ddweud wrth DVLA

Bydd DVLA yn anfon llythyr cadarnhau i’r cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW).

Cael platiau rhif newydd

Bydd angen ichi gael platiau rhif newydd ar gyfer eich cerbyd cyn y gallwch ei yrru. Mae’r ffordd o gael platiau rhif newydd yn dibynnu ar y math a gafodd ei ddwyn.

Platiau rhif safonol

Os oes gennych blatiau rhif safonol, gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.

Platiau rhif masnach

Cael gwybod sut i amnewid platiau masnach sydd ar goll, wedi’u dwyn neu eu difetha.