Skip to main content

Beth i’w wneud os yw eich plât rhif wedi'i glonio

Os yw rhywun yn gwneud copi o’ch plât rhif ac yn ei ddefnyddio ar gerbyd gwahanol, gelwir hynny’n ‘glonio’.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Efallai bod eich plât rhif wedi cael ei glonio os:

  • ydych wedi derbyn dirwyon neu ffioedd, ond nid eich cerbyd chi oedd yn ymwneud â’r mater

  • ydych wedi gweld neu glywed am gerbyd yn defnyddio eich plât rhif

Sut i adrodd am blatiau rhif sydd wedi’u clonio

  1. Adrodd am y platiau rhif sydd wedi’u clonio i’r heddlu.

  2. Dweud wrth DVLA drwy’r post (os nad ydych yn defnyddio’r ffurflen heddlu sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr).

  3. Apelio yn erbyn dirwyon anghywir neu ffioedd rydych wedi’u derbyn.

Adrodd am y platiau rhif sydd wedi’u clonio i’r heddlu

I adrodd am blatiau rhif wedi’u clonio, rhaid ichi fod y ceidwad cofrestredig neu gael caniatâd ganddynt.

Mae sut i’w adrodd amdano yn dibynnu ar ba wlad rydych yn byw ynddi.

Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr

Defnyddiwch y ffurflen platiau rhif wedi’u clonio ar wefan yr heddlu neu ffoniwch yr heddlu ar 101.

Os ydych yn adrodd am blatiau rhif wedi’u clonio gan ddefnyddio’r ffurflen, bydd yr heddlu hefyd yn dweud wrth DVLA ichi.

Os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Ffoniwch yr heddlu ar 101.

Ar ôl adrodd amdano i’r heddlu

Rhoddir cyfeirnod adroddiad ichi. Defnyddiwch hwn os oes angen ichi ofyn i’r heddlu am ddiweddariad.

Gallwch wneud rhagor o adroddiadau os cewch fwy o ddirwyon neu ffioedd. Mae’n ddefnyddiol i’r heddlu wybod a oes digwyddiadau mewn lleoliadau newydd.

Os bydd rhagor o ddigwyddiadau yn ymwneud â’ch plât rhif, efallai y bydd yr heddlu yn cysylltu â chi. Os cysylltir â chi eto, dylech esbonio’r sefyllfa.

Dweud wrth DVLA am y platiau rhif wedi’u clonio

Anfonwch lythyr i DVLA sy’n cynnwys y canlynol:

  • eich rhif cofrestru cerbyd (o’r platiau rhif wedi’u clonio)

  • copïau o unrhyw ddirwyon neu ffioedd rydych wedi’u derbyn yn anghywir

Rhaid ichi fod ceidwad cofrestredig y cerbyd neu gael caniatâd ganddynt.

Anfonwch eich llythyr i:

DVLA
Abertawe
SA99 1AR

Ar ôl iddynt dderbyn eich adroddiad, bydd DVLA yn anfon llythyr cadarnhau i’r cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW).

Apelio yn erbyn dirwyon neu ffioedd anghywir rydych wedi’u derbyn

Cysylltwch â’r sefydliad a ofynnodd ichi dalu dirwy neu ffi nad yw ar gyfer eich cerbyd. Dywedwch wrthynt eich bod wedi adrodd am y platiau rhif wedi’u clonio i’r heddlu a DVLA.

Cynhwyswch gopi o’r llythyr cadarnhau a anfonwyd atoch gan DVLA ar ôl ichi ddweud wrthynt.

Bydd y cwmni yn adolygu eich tystiolaeth ac yn penderfynu a ddylid canslo’r ddirwy neu’r ffi.

Gyrru’ch cerbyd ar ôl i’ch platiau rhif gael eu clonio

Gallwch barhau i yrru eich cerbyd. Os yw’r heddlu’n gweld cerbyd gyda’ch plât rhif (gan gynnwys eich cerbyd chi), efallai y byddant yn ei stopio. Efallai y byddant yn gofyn am weld:

  • y cyfeirnod ar gyfer yr adroddiad platiau rhif wedi’u clonio
  • llyfr log eich cerbyd (V5CW)
  • eich trwydded yrru