Ffurflen

Ffurflen gofrestru etholiadol i ddinesydd o Brydain sy’n byw dramor

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor, gallwch wneud cais i fod yn bleidleisiwr tramor.

Dogfennau

Manylion

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol

Mae etholiad cyffredinol nesaf y DU wedi cael ei alw ar gyfer dydd Iau 4 Gorffennaf 2024.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol Cofrestrwch erbyn 11:59pm ar 18 Mehefin 2024 er mwyn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024.

Pleidleisio o dramor

Os ydych dramor, gallwch bleidleisio:

  • drwy’r post
  • drwy wneud cais i gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (pleidleisio drwy ddirprwy)

Rhaid eich bod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio yn y DU cyn i chi allu gwneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.

Pleidleisio drwy’r post

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais bost ar-lein, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais bost drwy’r post, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy’r post yn cyrraedd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.

Bydd yn cymryd amser i becyn pleidleisio drwy’r post tramor eich cyrraedd ac i chi ddychwelyd y pecyn i’r DU, yn enwedig os yw eich gwasanaethau post lleol yn afreolaidd neu os ydych yn byw ymhell o’r DU.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynghori pobl sy’n byw dramor i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy os yw’n bosibl.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais drwy ddirprwy ar-lein, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2024.

Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn cyrraedd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol Leol erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.

Gallwch gofrestru i bleidleisio o dramor ar-lein neu lenwi ffurflen gofrestru etholiadol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi’r datganiad ar y ffurflen gofrestru ac anfonwch hi i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol

Cyhoeddwyd ar 29 April 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2024 + show all updates
  1. Page updated to include a link to the Register to vote service and remove details about electors who were registered to vote as a resident in the UK in the last 15 years, or were too young to register. The law has changed to remove the 15-year rule. All eligibility information can now be found on the start page of the Register to vote service.

  2. Form 'Register to vote as an overseas voter (originally resident of Scotland)' updated.

  3. attachments updated

  4. Previous PDFs have been replaced with new PDFs containing updated wording relating to the new General Data Protection Regulation (GDPR) laws.

  5. First published.