Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu yn eich cangen gan ddefnyddio’r slip talu ar yr hysbysiad o asesiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip talu.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (cyn belled â’ch bod yn talu o ddydd Llun i ddydd Gwener).