Debyd Uniongyrchol

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein i wneud y taliad.

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.

Bydd hwn naill ai:

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.