Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd hwn i’w weld ar eich slip talu.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Gall eich taliad gael ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os ydych am wirio bod eich taliad wedi cyrraedd, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth CThEF.