Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch cosb drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad drwy’ch cyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein.

Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.