Gwneud trosglwyddiad banc

Gallwch dalu’ch cosb drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Bydd yr hysbysiad o asesiad o gosb a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn nodi pa gyfrif banc i dalu i mewn iddo.

Os nad oes gennych hysbysiad o asesiad o gosb, neu os nad ydych yn siŵr, gallwch dalu i mewn i’r naill gyfrif neu’r llall.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio

Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001039
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os yw’ch cyfrif dramor

Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:

  • Cod Adnabod y Banc (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB62BARC20114770297690
  • enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld


  • Cod Adnabod y Banc (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03BARC20114783977692
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.

Dyma gyfeiriad banc CThEF:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.

Bydd hwn naill ai:

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu cyn pen amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gall taliadau o dramor gymryd mwy o amser – holwch eich banc.