Canllawiau

Sut gallwch chi fynychu neu gael mynediad i llysoedd neu dribiwnlysoedd

Diweddarwyd 29 May 2024

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall eich hawliau pan fyddwch yn mynychu gwrandawiadau llys neu dribiwnlys fel aelod o’r cyhoedd. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut y gallwch gael gafael ar wybodaeth am achos llys neu dribiwnlys.

Mae canllawiau penodol os ydych chi’n mynychu llys neu dribiwnlys i gymryd rhan mewn gwrandawiad, mynychu fel dioddefwr neu dyst, neu’n mynychu treial fel aelod rheithgor. Rydym hefyd yn cynnig cymorth i bobl anabl i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i’n llysoedd a’n tribiwnlysoedd i leihau a goresgyn unrhyw rwystrau.

Mae ein system gyfiawnder yn cael ei chydnabod yn eang fel system deg, annibynnol a thryloyw. Mae ganddi rai prosesau cymhleth, ac mae’n bosibl y byddai’r rhain yn ei gwneud hi’n anodd i chi ddeall beth sy’n digwydd a pham.

1. Mathau o lysoedd a thribiwnlysoedd

Yn fras mae pedwar math o wrandawiad yn y system gyfreithiol, sef awdurdodaethau:

1.1 Troseddol

Achosion lle honnir bod unigolyn wedi cyflawni trosedd. Mae pob achos yn dechrau mewn llys ynadon, gydag achosion mwy difrifol yn mynd ymlaen i Lys y Goron. Mae llysoedd ynadon arbenigol, sef llysoedd ieuenctid yn delio ag achosion troseddol sy’n ymwneud â phlant rhwng 10 a 17 oed.

1.2 Sifil

Fel arfer anghydfodau rhwng pobl neu sefydliadau, yn cynnwys pethau fel anghydfodau rhwng landlord a thenant, adennill dyledion, hawliadau rhwng cwmnïau. Mae’r achosion hyn yn cael eu gwrando yn bennaf yn y Llys Sirol. Mae gan lysoedd ynadon awdurdodaeth sifil hefyd sy’n cwmpasu gorfodi (e.e. treth y cyngor a chynhaliaeth plant), ceisiadau gan gyrff cyhoeddus am orchmynion megis gorchmynion atal niwed rhywiol neu orchmynion atal stelcio ac apeliadau yn erbyn rhai penderfyniadau awdurdodau lleol.

1.3 Teulu

Fel arfer anghydfodau rhwng aelodau’r teulu, er enghraifft ynghylch trefniadau ar gyfer plant a materion eraill megis cyfrifoldeb rhiant ac ysgariad. Hefyd ceisiadau gan awdurdodau lleol am orchmynion i amddiffyn plant rhag niwed.

1.4 Tribiwnlysoedd

Mae’r rhain yn baneli arbenigol sy’n delio ag ystod o anghydfodau o ddydd i ddydd fel hawliadau am loches a mewnfudo, diswyddo annheg, apeliadau nawdd cymdeithasol, a threth. Maen nhw’n derbyn tystiolaeth gan bartïon a chan arbenigwyr eraill.

Mae gan wefan y Swyddfa Farnwrol lawer o wybodaeth ddefnyddiol am hanes y system gyfiawnder a strwythur y llysoedd a thribiwnlysoedd.

2. Cyn gwrandawiad

Mae’r rhan fwyaf o wrandawiadau llysoedd a thribiwnlysoedd fel arfer yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Mae achosion yn y Llys Teulu a’r llys ieuenctid yn breifat felly nid yw’r rhan nesaf yn berthnasol iddyn nhw.

Mae’r barnwr neu’r ynad ym mhob achos yn penderfynu sut y bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal, gan gynnwys a all pobl ei wylio a sut y gall pobl ei wylio.

Ar achlysuron prin, os ydyn nhw’n credu ei bod yn angenrheidiol ar gyfer gweinyddu cyfiawnder yn briodol, gallan nhw benderfynu cynnal gwrandawiad yn breifat, heb ganiatâd i unrhyw un ei wylio. Yn dibynnu ar y penderfyniad, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu gwylio gwrandawiad:

  • yn bersonol, mewn seddi cyhoeddus penodol (e.e. mewn oriel gyhoeddus neu ran benodol o ystafell y llys)
  • o bell, gan ddefnyddio dolen fideo neu sain

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth Dod o hyd i Lys neu Dribiwnlys i weld:

  • cyfeiriad a manylion cyswllt
  • amseroedd agor
  • pa faes/meysydd cyfreithiol y mae’n delio â nhw
  • hygyrchedd adeiladau

Gallwch ofyn i gael gwylio gwrandawiad yn y llys neu dribiwnlys o bell. I wirio a yw hynny’n opsiwn ar gyfer gwrandawiad penodol, bydd angen i chi gysylltu â’r llys neu’r tribiwnlys ymlaen llaw gyda’ch enw llawn, cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi’ch hun y mae’r barnwr yn gofyn amdani.

Os nad oes gan lys neu dribiwnlys y dechnoleg neu’r adnoddau priodol, neu os yw barnwr wedi gwneud penderfyniad i beidio â chynnal y gwrandawiad o bell, mae’n bosibl y byddan nhw’n awgrymu gwylio’r gwrandawiad yn bersonol yn lle hynny.

Mae rhai awdurdodaethau llys yn ffrydio rhai o’u gwrandawiadau neu bob un ohonyn nhw ar-lein fel:

  • Ffrydio byw y Goruchaf Lys
  • Ffrydio byw y Llys Apêl (Is-adran Sifil)
  • Ffrydio byw y Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth

Rhestrau llysoedd: Llysoedd sy’n gyfrifol am gyhoeddi rhestrau o wrandawiadau sydd ar ddigwydd. Mae’r rhestrau hyn ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim, a dylen nhw fod ar gael fel arfer — arlein neu mewn copi caled mewn adeiladau’r llys a’r tribiwnlys — erbyn y bore y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal arno. Gall rhestrau llysoedd newid weithiau, os nad ydych chi’n sicr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau gofynnwch i aelod o staff y llys.

Gallwch weld ein rhestrau llysoedd cyhoeddus ar wefan GOV.UK neu drwy ein Gwasanaeth Gwrandawiadau Llysoedd a Thribiwnlysoedd Prosesau diogelwch: Er mwyn helpu i gadw ein hadeiladau yn ddiogel mae’n rhaid i chi fynd drwy broses ddiogelwch bob tro y byddwch yn mynd i mewn. Darllenwch ein canllaw prosesau diogelwch mewn adeilad llys neu dribiwnlys wrth i chi gynllunio’ch ymweliad.

Pan fyddwch y tu mewn i adeilad llys, gall staff yn y dderbynfa ddweud wrthych ble mae’r ystafell berthnasol a’r man eistedd cyhoeddus. Os ydych yn barti neu’n dyst mewn gwrandawiad, rhowch wybod i aelod o staff y llys pan fyddwch yn cyrraedd.

3. Gwylio gwrandawiad

3.1 Ardal eistedd/oriel gyhoeddus

Lle bynnag y bo’n bosibl bydd seddi mewn ‘oriel gyhoeddus’ benodol neu ardal eistedd benodol arall. Dyma adran o seddi sy’n cael eu cadw ar gyfer y cyhoedd i ffwrdd oddi wrth y partïon sy’n gysylltiedig â’r achos. Gall aelod o staff ddweud wrthoch sut i fynd i’r ardal hon. Oni bai bod y barnwr wedi cyfyngu’n benodol ar fynediad cyhoeddus am reswm da, gallwch fynd i mewn a gadael ystafell y llys, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny heb amharu ar yr achos.

3.2 Gwrandawiadau o bell

Bydd y barnwr sy’n gwrando ar yr achos yn penderfynu a allwch wylio’r gwrandawiad o bell. Dyma rai o’r ffactorau y bydd y barnwr yn eu hystyried wrth wneud y penderfyniad:

  • buddiannau cyfiawnder
  • gallu technegol y llys i ddarparu dull gwylio o bell
  • yr hyn sy’n angenrheidiol i sicrhau gweinyddu cyfiawnder yn briodol.

Ar ddiwrnod y gwrandawiad, bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau a anfonwyd gan y llys neu’r tribiwnlys. Mae hyn fel arfer yn golygu bod y llys neu’r tribiwnlys yn rhannu dolen gyda chi drwy e-bost sy’n eich galluogi i wylio’r gwrandawiad ar-lein.

3.3 Cyfyngiadau ar fynediad

Mae gan bob llys neu dribiwnlys y pŵer i gyfyngu ar fynediad y cyhoedd i ystafell y llys lle mae angen gwneud hynny er budd cyfiawnder, er enghraifft i atal anhrefn neu i helpu tyst bregus i roi ei dystiolaeth orau.

Mae’n bosibl cyfyngu ar fynediad hefyd er mwyn atal aelodau’r cyhoedd, yn ogystal â chyfranogwyr yn yr achos, rhag mynd i mewn a gadael ystafell y llys pan fydd y pethau canlynol yn digwydd:

  • mae’r cyhuddiadau yn cael eu darllen ar goedd
  • mae’r rheithgor yn cael ei chofrestru ac yn tyngu’r llw
  • mae pobl fel y rheithgor neu’r tystion yn tyngu llw neu gadarnhad
  • mae’r rheithgor yn rhoi ei reithfarn
  • mae’r barnwr yn pasio dedfryd

Mae’n anghyfreithlon cyhoeddi polisi cyffredinol i lys neu dribiwnlys gyfyngu ar fynediad yn ystod rhannau eraill o’r achos.

3.4 Prosesau’r llys a’r tribiwnlys

Pan fydd aelod o staff yn dweud “Sefwch yn y Llys” mae’n rhaid i chi sefyll. Mae hyn yn golygu bod y barnwr neu’r ynad ar fin dod i mewn i’r ystafell. Bydd y barnwr yn dweud wrthych pryd i eistedd i lawr eto. Mae’n rhaid i chi aros yn dawel wrth wylio gwrandawiad. Os na allwch sefyll oherwydd anabledd neu gyflwr rhowch wybod i un o’n gweithwyr cyn i’r gwrandawiad ddechrau.

3.5 Tynnu lluniau, ffilmio a recordio sain

Mae’n anghyfreithlon, a gall hefyd fod yn ddirmyg llys, i rywun sy’n gwylio dynnu ffotograffau, ffilmio, neu wneud recordiadau sain yn ystafell y llys, ystafell wrandawiadau, adeilad y llys neu mewn unrhyw ran o adeilad y llys. Mae hyn hefyd yn berthnasol wrth ddod i wrandawiadau o bell. Mae hefyd yn anghyfreithlon, a gall fod yn ddirmyg i’r llys, gyhoeddi neu ddarlledu delweddau neu recordiadau a gafodd eu gwneud yn groes i’r gwaharddiad hwn. Mewn rhai achosion gall y llys garcharu person sy’n gwneud unrhyw un o’r pethau hyn.

3.6 Defnyddio ffonau a gliniaduron

Caniateir dod â ffonau symudol a dyfeisiau eraill fel gliniaduron i mewn i’r ystafell llys neu dribiwnlys, ond gellir eu defnyddio i deipio nodiadau yn unig. Ni ellir aelod o’r cyhoedd eu defnyddio i rannu gwybodaeth, e.e. trwy anfon negeseuon testun, rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol, anfon neges e-bost, ac ati. Dylech holi gydag aelod o staff y llys oherwydd gall rhai cyfyngiadau lleol fod ar waith. Os byddwch yn dod â dyfais i mewn gyda chi, sicrhewch ei bod ar ‘distaw’ neu trowch y ddyfais i ffwrdd os nad yw’n cael ei defnyddio fel na fydd yn tarfu ar yr achos. Os bydd staff y llys yn meddwl eich bod yn rhannu gwybodaeth, gall y llys eich gorchymyn i droi’r ddyfais i ffwrdd.

3.7 Cymryd nodiadau

Nid oes angen caniatâd arnoch i gymryd nodiadau. Pan fo seiliau rhesymol i amau y gallai gwneud nodiadau fod at ddiben anghyfreithlon, neu y gallai amharu ar achos, mae’n bosibl y gofynnir i chi ymatal rhag eu gwneud. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i aelod o staff y llys. Mae enghreifftiau yn cynnwys lle mae rheswm dros gredu bod nodiadau yn cael eu defnyddio i:

  • drosglwyddo cyfathrebiadau byw sy’n seiliedigar destun heb y caniatâd gofynnol
  • hwyluso torri cyfyngiad ar adrodd

3.8 Cyfathrebu byw yn seiliedig ar destun (e.e. ‘X’ sef Twitter gynt)

Oni bai eich bod yn newyddiadurwr achrededig, neu mewn rhai achosion yn flogiwr cyfreithiol, ni allwch bostio ar gyfryngau cymdeithasol heb ganiatâd nes bod y gwrandawiad wedi dod i ben ac yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau ar adrodd. Mewn rhai achosion mae’r llys yn cyhoeddi ‘cyfyngiadau ar adrodd’ gan atal unrhyw beth rhag cael ei gyhoeddi a fyddai’n arwain at adnabod unigolion yn yr achos. Gallai hyn olygu na allwch ddweud mewn unrhyw ffordd pwy yw’r person a gyhuddir neu a gafwyd yn euog o drosedd.

3.9 Wi-Fi mewn adeiladau llys a thribiwnlys

Mae GovWifi am ddim ar gael i’r cyhoedd ym mhob adeilad llys a thribiwnlys.

3.10 Darlledu mewn llysoedd

Mae gan gyfryngau awdurdodedig ganiatâd i ffilmio sylwadau dedfrydu gan rai barnwyr yn Llys y Goron. Mae’n bosibl y byddan nhw’n dewis darlledu’r rhain yn eu bwletinau newyddion ar y teledu neu ar-lein neu eu cyhoeddi ar-lein. Dim ond barnwyr sy’n cael eu ffilmio, nid yw cyfranogwyr eraill, partïon i’r achos neu’r oriel gyhoeddus yn cael eu ffilmio ar hyn o bryd.

4. Cael gwybodaeth am achosion llys a thribiwnlysoedd

Yn ogystal â gwylio gwrandawiadau, mae gennych hawl i dderbyn gwybodaeth am yr hyn sy’ndigwydd mewn llysoedd a thribiwnlysoedd os oeddech chi’n cymryd rhan yn y gwrandawiad neu beidio.

Mewn rhai amgylchiadau gallwch wneud cais am drawsgrifiad o wrandawiad llys neu dribiwnlys (neu rannau penodol o wrandawiad) os cafodd ei recordio. Gall y llys wrthod darparu rhan neu’r cyfan o drawsgrifiad (er enghraifft, os yw manylion y gwrandawiad yn gyfrinachol). Nid yw llysoedd ynadon yn recordio eu hachosion.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu am recordiad llys, am nodiadau gwrandawiad neu am drawsgrifiad, gofynnwch i’r llys neu i’r tribiwnlys os yw’n rhad ac am ddim neu os bydd tâl.

4.1 Cyfyngiadau ar adrodd

Mae rhai gwrandawiadau llys neu dribiwnlys yn destun cyfyngiadau sy’n atal unrhyw un rhag adrodd ar achosion neu gyhoeddi gwybodaeth amdano. Os nad ydych yn siŵr a yw cyfyngiadau ar adrodd mewn grym yn achos gwrandawiad, dylech siarad â’r llys neu’r tribiwnlys yn uniongyrchol. Mae’n rhaid i chi gadw at y cyfyngiadau hyn ac ni ddylech gyhoeddi gwybodaeth gyfyngedig. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn ddirmyg llys a gallech gael dirwy neu ddedfryd o garchar.

4.2 Cais am wybodaeth am achosion

Os ydych chi eisiau gwybodaeth am wrandawiad gallwch gysylltu â’r llys neu â’r tribiwnlys perthnasol. Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i’r wybodaeth, yn dibynnu ar reolau’r llys neu’r tribiwnlys. Yn achos gwybodaeth arall, a gwybodaeth am achosion troseddol a ddaeth i ben fwy na 6 mis yn ôl, mae’n rhaid i chi wneud cais i farnwr neu i ynad drwy’r llys neu’r tribiwnlys lleol ac esbonio’r rhesymau dros y cais.

4.3 Dirmyg llys

Mae ‘Dirmyg llys’ yn digwydd pan fo risg bod rhywun yn dylanwadu’n annheg ar achos llys. Mae’n bosibl y bydd yn atal rhywun rhag cael treial teg a gall effeithio ar ganlyniad treial. Mae’r cosbau am ddirmyg yn cynnwys dirwyon a charchar. Gall dirmyg llys gynnwys:

  • anufuddhau neu anwybyddu gorchymyn llys
  • tynnu lluniau neu weiddi allan yn y llys
  • gwrthod ateb cwestiynau’r llys os cewch eich galw i fod yno fel tyst
  • gwneud sylwadau cyhoeddus ar achos llys byw, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol neu mewn erthyglau newyddion ar-lein

5. Pwyntiau cyswllt a rhagor o wybodaeth

Mae’n bosibl dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar y gwefannau canlynol: