Canllawiau

Y nodyn ffitrwydd: canllaw claf a gweithwyr

Diweddarwyd 6 October 2023

Beth yw nodyn ffitrwydd?

Cyflwynwyd y Datganiad Ffirtwydd i Weithio, a elwir yn gyffredin fel y ‘nodyn ffitrwydd’ neu Med 3 yn 2010. Gellir cyhoeddi’r nodyn ffitrwydd yn dilyn asesiad iechyd a gwaith gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, naill ai meddyg, nyrs, therapydd galwedigaethol, fferyllydd neu ffisiotherapydd, a allai fod yn gyfrifol am eich cynllun gofal. Bydd y nodyn ffitrwydd yn rhoi cyngor i chi a’ch cyflogwr am effaith eich cyflwr iechyd, lle gallai hynny effeithio ar eich addasrwydd i weithio.

Bwriad y nodyn ffitrwydd yw eich cefnogi i aros yn, neu ddychwelyd i’r gwaith. Gall hefyd eich galluogi i gael mynediad at fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag iechyd neu fod yn dystiolaeth o gymhwyster ar gyfer Tâl Salwch Statudol (SSP). Gallwch ddefnyddio eich nodyn ffitrwydd i gefnogi cais am fudd-daliadau. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar sut i wneud cais ar y nodyn ffitrwydd ei hun, neu ar y tudalennau budd-daliadau.

1. Newidiadau polisi nodyn ffitrwydd

1.1 Yn 2022, gweithredodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ddau newid sylweddol i’r nodyn ffitrwydd. Cyflwynwyd fersiwn newydd o’r nodyn ffitrwydd i ddisodli’r llofnod mewn inc gydag enw a phroffesiwn y cyhoeddwr, sy’n golygu y gallwch dderbyn eich nodyn ffitrwydd trwy sianeli digidol (lle mae’r system TG leol yn cefnogi hyn).

1.2 Mae DWP hefyd wedi galluogi nyrsys, therapyddion galwedigaethol, fferyllwyr a ffisiotherapyddion, yn ogystal â meddygon, i ardystio nodiadau ffitrwydd. Mae hyn yn golygu y gallwch dderbyn nodyn ffitrwydd gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n eich trin, er enghraifft ffisiotherapydd, os yw’n briodol iddynt wneud hynny.

1.3 Mae nodiadau ffitrwydd digidol wedi’u hymgorffori mewn lleoliadau gofal sylfaenol (systemau TG meddygon teulu) ac rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod nodiadau ffitrwydd ar gael mewn lleoliadau gofal eilaidd (ysbytai) o ddiweddarach eleni. Yn y cyfamser, efallai y byddwch yn derbyn ffurflen nodyn ffitrwydd wedi’i hargraffu ymlaen llaw pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o’r ysbyty.

2. Pryd i ystyried nodyn ffitrwydd

2.1 Os ydych yn ffit i weithio, nid oes angen nodyn ffitrwydd arnoch. Nid oes angen un arnoch chwaith os ydych i ffwrdd yn sâl am 7 diwrnod calendr neu lai (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc), oherwydd gallwch hunanardystio eich absenoldeb am y cyfnod hwn – gweler y canllawiau ar datganiad salwch y gweithiwr i wneud cais am Dâl  Salwch Statudol. Os ydych angen nodyn ffitrwydd, cysylltwch â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n eich trin. Byddant yn asesu a yw eich cyflwr iechyd yn effeithio ar eich gallu i weithio ac a oes angen nodyn ffitrwydd.

2.2 Ni fydd yn rhaid i chi dalu am nodyn ffitrwydd os ydych wedi bod yn sâl am fwy na 7 diwrnod calendr, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Os bydd eich cyflogwr angen tystiolaeth feddygol am y 7 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch, efallai y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn codi ffi, a dylai’r cyflogwr dalu’r gost hon.

3. Rheolau cyffredinol y nodyn ffitrwydd

3.1 Mae’r nodyn ffitrwydd yn seiliedig ar asesiad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ynghylch addasrwydd eu claf i weithio. Er mwyn cwblhau nodyn ffitrwydd, gall y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gynnal asesiad, naill ai drwy apwyntiad wyneb yn wyneb, galwad fideo, ymgynghoriad dros y ffôn neu drwy ystyried adroddiad ysgrifenedig gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

3.2 Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ond yn rhoi nodyn ffitrwydd i chi os yw’ch iechyd yn effeithio ar eich addasrwydd i weithio, ni allant roi nodyn ffitrwydd i chi sy’n nodi eich bod yn ‘ffit i weithio’. Mae’r nodyn ffitrwydd yn cael ei ystyried yn gyngor gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i’ch helpu chi a’ch cyflogwr i drafod ffyrdd i’ch cefnogi i aros yn, neu ddychwelyd i’r gwaith.

3.3 Bydd hyd nodyn ffitrwydd yn dibynnu ar farn glinigol gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, ond yn y chwe mis cyntaf o’ch cyflwr iechyd, dim ond am uchafswm o dri mis y gellir rhoi nodyn ffitrwydd ar y tro. Gellir pennu dyddiad adolygu, lle bo’n berthnasol, i ailasesu eich cyflwr.

Am fwy o wybodaeth am bob adran o’r nodyn ffitrwydd, gweler Nodyn ffitrwydd: Esbonio’r ffurflen i gleifion a gweithwyr.

3.4 Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn practis preifat neu ysbyty preifat nad ydynt yn trin cleifion GIG gynhyrchu mathau eraill o dystiolaeth feddygol, gan gynnwys tystysgrifau meddygol preifat neu ‘Allied Healthcare Professionals Work Report’. Efallai y bydd y rhain yn cael eu derbyn gan eich cyflogwr fel tystiolaeth feddygol yn yr un modd â nodyn ffitrwydd, ond byddai hyn yn amodol eu bod yn cytuno.

3.5 Mae’n bwysig nad ydych yn cael eich cyfeirio at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill pan fyddwch chi’n cael eich rhyddhau o leoliad ysbyty at ddibenion ardystio nodyn ffitrwydd yn unig. Dylai’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am eich rhyddhau fod yr un sy’n cyhoeddi’r nodyn ffitrwydd os yn bosibl, a dylech drafod hyn gyda nhw cyn i chi gael eich rhyddhau.

3.6 Ni all eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol roi nodyn ffitrwydd i chi ar gyfer problemau sydd ddim yn rhai meddygol (fel problemau yn y cartref neu drafferth mewn perthynas yn y gwaith). Fodd bynnag, efallai y byddant yn gallu awgrymu ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth – mae rhai wedi’u rhestru yn cymorth pellach.

3.7 Gellir ysgrifennu nodiadau ffitrwydd â llaw neu gynhyrchu gyda chyfrifiadur a gellir eu hargraffu neu eu rhannu gyda chi yn ddigidol. Rhaid iddo gynnwys enw’r cyhoeddwr, proffesiwn, a chyfeiriad lleoliad meddygol. Os nad yw eich nodyn ffitrwydd yn cynnwys enw’r cyhoeddwr na’u llofnod, nid yw’n ddilys a gallai gael ei wrthod gan eich cyflogwr neu’r DWP ac efallai y gofynnir i chi gael nodyn ffitrwydd newydd. Dim ond os yw’r gwreiddiol wedi’i golli y gellir cyhoeddi nodiadau ffitrwydd dyblyg. Mae’r nodyn ffitrwydd yn perthyn i chi. Gall eich cyflogwr gymryd copi, os ydynt am gael un, ar gyfer eu cofnodion.

3.8 Os yw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi penderfynu nad ydych yn ffit i weithio, mae hyn yn dystiolaeth y gall cyflogwr ei derbyn fel cymhwyster ar gyfer SSP. Os nad yw’ch cyflogwr yn talu SSP i chi, gallwch godi anghydfod gyda CThEF. Efallai yr hoffech ofyn am gymorth gan undeb llafur neu ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) mewn sefyllfaoedd o’r fath.

3.9 Dylech fynd yn ôl i’r gwaith cyn gynted ag y byddwch yn teimlo y gallwch a chyda chytundeb eich cyflogwr – gall hyn fod cyn i’ch nodyn ffitrwydd ddod i ben. Os ydych yn cael budd-dal sy’n gysylltiedig ag iechyd, gallwch siarad â’ch Canolfan Gwaith neu anogwr gwaith i drafod cyfleoedd gwaith posibl. Nid oes angen i chi fynd yn ôl i weld eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn mynd yn ôl i’r gwaith.

4. Y manteision o weithio

4.1 Nid oes angen i chi fod bob amser yn 100% yn ‘ffit’ i allu gwneud rhywfaint o waith. Gall gwaith helpu eich adferiad ar ôl problemau iechyd neu gefnogi eich lles os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor. Mae ymchwil yn dangos y gall gwaith fod yn dda i’ch iechyd corfforol a meddyliol, yn lleihau’r risg o brofi anawsterau ariannol, ac yn gwella ansawdd eich bywyd yn gyffredinol.

4.2 Mae eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yno i’ch helpu gyda’ch iechyd. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall y gall gwaith fod yn dda i’ch iechyd a byddant yn siarad â chi am yr hyn y gallwch ei wneud ac a allech ddychwelyd i’r gwaith heb wneud eich iechyd yn waeth.

5. Sut y bydd eich ffitrwydd i weithio yn cael ei asesu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol

5.1 Ni fydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn asesu’n awtomatig nad ydych yn ffit i weithio os oes gennych gyflwr iechyd. Byddant yn meddwl am eich ffitrwydd i weithio yn gyffredinol yn hytrach na dim ond ar gyfer eich swydd bresennol. Byddant yn trafod gyda chi sut mae eich iechyd yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn y gwaith. Os nad yw’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi sut mae eich iechyd yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn y gwaith, dylech godi’r mater eich hun.

5.2 Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn asesu eich addasrwydd i weithio drwy ystyried sut mae eich cyflwr iechyd yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn y gwaith (er enghraifft eich stamina a’ch canolbwyntio). Byddant yn penderfynu a ydych yn ffit i weithio, ‘efallai eich bod yn ffit i weithio’ neu ‘ddim yn ffit i weithio’.

5.3 Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn rhoi cyngor i chi ar y nodyn ffitrwydd ynghylch sut mae eich iechyd yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn y gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod hyn gyda nhw ac yn deall eu cyngor, yn enwedig gan na fyddant yn asesu’n awtomatig nad ydych yn ffit i weithio. Byddant yn ystyried eich addasrwydd i weithio yn gyffredinol yn hytrach na meddwl am eich swydd bresennol yn unig.

5.4 Os ydych wedi cael eich asesu fel ‘efallai eich bod yn ffit i weithio’ byddwch chi a’ch cyflogwr yn cael cyngor a allai eich helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Gall y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio’r blychau ticio ar y ffurflen i nodi mathau o addasiadau y gallech elwa ohonynt. Bydd y blychau tic yn ymwneud ag effeithiau swyddogaethol eich cyflwr iechyd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi drafod y cyngor gyda’ch cyflogwr i’ch helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Yr opsiynau ar y ffurflen nodyn ffitrwydd, ynghyd â rhai enghreifftiau, yw:

  • dychwelyd i’r gwaith yn raddol: cynnydd graddol mewn dyletswyddau neu oriau gwaith

  • newid oriau: newidiadau i amseroedd neu gyfnod yn y gwaith

  • dyletswyddau diwygiedig: newid dyletswyddau i ystyried cyflwr iechyd, fel dim codi pethau trwm

  • addasiadau yn y gweithle: newid agweddau o’r gweithle, fel gweithio o gartref

5.5 Nid yw’r opsiynau hyn yn rhwymol arnoch chi, a dylech deimlo’n rhydd i drafod opsiynau eraill. Dylech drafod y cyngor gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gyda’ch cyflogwr, i weld a allant wneud unrhyw newidiadau i’ch helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith.

5.6 Dylai eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio’r blwch sylwadau i roi cyngor manylach i chi am effaith eich cyflwr ar yr hyn y gallwch ei wneud yn y gwaith. Mae’n ddefnyddiol i’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol roi gwybodaeth ymarferol, e.e., ‘ni ddylech yrru, cymryd seibiannau rheolaidd os ydych yn defnyddio sgrin arddangos’ yn hytrach na dweud yn syml ‘llygaid sych’. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd mwyaf i chi a’ch cyflogwr drafod ffyrdd i’ch helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Mae’r wybodaeth yn y blwch sylwadau yn aml yn ddefnyddiol iawn i gyflogwyr, felly dylech ofyn i’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol roi cyngor yma, os yw’n bosibl, dylent gynnwys manylion am sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn y gwaith, yn hytrach na diagnosis neu ddisgrifiad o’ch symptomau yn unig.

5.7 Yna dylech edrych ar y blychau ticio a’r blwch sylwadau i gael cyngor ar yr hyn y gallwch ei wneud yn y gwaith, a sut y gallai eich cyflogwr eich cefnogi. Dylech wirio’r cyfnod ar eich nodyn ffitrwydd ac a ddisgwylir i chi fod yn ffit i weithio pan fydd yn dod i ben. Dylech feddwl am newidiadau posibl neu addasiadau yn y gweithle i’ch helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith.

5.8 Os oes gennych HIV, canser, neu sglerosis ymledol, rydych yn cael eich ystyried yn anabl yn awtomatig o dan delerau’r Ddeddf Cydraddoldeb o ddiwrnod cyntaf y diagnosis. Bydd angen i chi drafod eich cyflwr gyda’ch cyflogwr i chwilio am ffyrdd i’ch cefnogi i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Gweler y ddolen am ragor o wybodaeth, Diffiniad o anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb2010

5.9 Dylech drafod unrhyw beth y credwch a fyddai’n eich helpu i aros yn, neu ddychwelyd i, weithio gyda’ch cyflogwr, er enghraifft; trefnu asesiad iechyd galwedigaethol, newid dyletswyddau neu leoliad, dychwelyd i’r gwaith yn raddol, gweithio o gartref neu hyfforddiant ychwanegol. Mae’r trafodaethau hyn yn bwysig iawn i gefnogi eich iechyd a’ch lles.

5.10 Efallai y bydd eich cynrychiolydd undeb llafur lleol yn gallu eich helpu gyda’r trafodaethau hyn efallai eich cefnogi i baratoi. Rydym yn gwybod bod cyflogwyr eisiau cefnogi eu gweithwyr i ddychwelyd i’r gwaith ac yn aml gallant wneud newidiadau i’r gweithle neu ddyletswyddau swydd i helpu hyn. Dylech chi a’ch cyflogwr gytuno ar gyfarfodydd cadw mewn cysylltiad rheolaidd yn ystod y cyfnod addasu gweithle neu addasiadau rhesymol.

5.11 Efallai y bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cynghori na allwch wneud unrhyw fath o waith. Os felly, gallwch ddangos nodyn ffitrwydd i’ch cyflogwr i drafod unrhyw dâl salwch y gallai fod gennych hawl iddo. Gallant gymryd copi, ond dylech gadw’r gwreiddiol. Dylech gadw mewn cysylltiad â’ch cyflogwr tra nad ydych yn gallu gweithio, fel eich bod yn barod pan ddaw’n amser i ddychwelyd i’r gwaith. Gallwch gael cyngor am dâl salwch, gweler gwybodaeth am dâl salwch.

Pwysig: Gallwch fynd yn ôl i’r gwaith ar unrhyw adeg rydych yn teimlo y gallwch chi (gan gynnwys cyn diwedd y nodyn ffitrwydd) heb fynd yn ôl i weld eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, hyd yn oed os yw’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi nodi bod angen iddynt eich asesu eto.

6. Astudiaethau achos

  • Astudiaeth achos 1: Newidiadau yn y gweithle yn seiliedig ar gyngor gweithiwr gofal iechyd proffesiynol – Gweithio o gartref

  • Astudiaeth achos 2: Cyflogwr yn gwneud newidiadau – gyrrwr cyflenwi sydd ddim yn gallu gyrru

  • Astudiaeth achos 3: Salwch tymor byr oherwydd COVID hir

  • Astudiaeth achos 4: Hanes poen yng ngwaelod y cefn a dychwelyd i gyflogaeth

  • Astudiaeth Achos 5: Dychwelyd fesul cam yn dilyn salwch tymor byr acíwt

  • Astudiaeth Achos 6: Adolygiad iechyd meddwl i gleifion sydd mewn hwyliau isel

Darllenwch yr astudiaethau achos.

7. Cymorth pellach

Mynediad at Waith

Mae Mynediad at Waith yn grant dewisol a all ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd i’w helpu i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Mae’r grant yn cyfrannu at gostau ychwanegol o weithio sy’n gysylltiedig ag anabledd a wynebir gan bobl anabl a’r rhai sydd â chyflwr iechyd sydd y tu hwnt i addasiadau rhesymol, ond nid yw’n disodli dyletswydd cyflogwr o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i wneud addasiadau rhesymol.

Y Pasbort Addasiadau Iechyd

Mae’r Pasbort Addasiadau Iechyd (HAP) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion â chyflwr iechyd newydd neu gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes i nodi pa help a newidiadau sydd ar gael i’w cefnogi i aros yn y gwaith, neu ddychwelyd i’r gwaith. Gall cleifion ddefnyddio’r ffurflen hon i siarad â’u sefydliad am addasiadau a chymorth rhesymol y gallent fod eu hangen a chefnogi unrhyw geisiadau Mynediad at Waith.

Help gyda phroblemau personol neu gymdeithasol

Dim ond ar gyfer problemau meddygol y gellir rhoi nodiadau ffitrwydd. Efallai y bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu eich cyfeirio at gymorth ar gyfer problemau personol neu gymdeithasol eraill. Er enghraifft:

Problemau yn y gwaith

  • Efallai y bydd eich undeb llafur lleol neu gynrychiolydd diogelwch hefyd yn gallu helpu gyda materion yn y gwaith.

  • Am help gyda delio â bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu ac atal neu reoli anghydfodau a gwrthdaro yn y gwaith, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Delio â phroblemau yn y gwaith, Acas.

Rheoli absenoldeb salwch, anghydfodau, a thâl salwch

Cyngor Gofal Iechyd Ychwanegol

Gwasanaeth Cyngor Iechyd Galwedigaethol

Gall cymorth iechyd galwedigaethol fod yn ddefnyddiol iawn mewn achosion cymhleth a phryd y gall gwaith effeithio ar eich iechyd. Efallai y cynigir gwasanaethau iechyd galwedigaethol mewnol i chi, sy’n aml yn cael eu darparu gan gyflogwyr mawr ac weithiau gan y GIG neu awdurdodau lleol. Efallai y bydd gan gymdeithasau masnach neu fusnes rhanbarthol fanylion darparwyr iechyd galwedigaethol neu ffynonellau cymorth eraill. Am gymorth iechyd galwedigaethol cyffredinol a phroffesiynol gweler y dolenni isod:

Manylion darparwyr iechyd galwedigaethol

Mae gwasanaethau iechyd galwedigaethol weithiau’n cael eu darparu gan wasanaethau’r GIG neu awdurdodau lleol. I ddod o hyd i fanylion darparwyr yn eich ardal chi, cysylltwch â:

Commercial Occupational Health Provider Association.

NHS Health at Work Network – Support for Business

Using occupational health at work: Occupational health - Acas 

Supporting organisational health and wellbeing professionals

Safe Effective Quality Occupational Health Service

Home (salus.co.uk) (Scotland)

Canllawiau a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau penodol

Yn darparu cyngor ac awgrymiadau ymarferol. 

Royal College of Surgeons of England – Recovering from surgery

Royal College of Psychiatrists – Work and Mental Health

Macmillan – Work and cancer

Royal College of Physicians – Upper limb disorders: Occupational aspects of management

Chartered Society of Physiotherapy – reasonable-adjustments advice

Workplace guidance - Healthy Working Lives (Scotland)

Mwy o wybodaeth am y nodyn ffitrwydd

Am fwy o wybodaeth am y nodyn ffitrwydd gweler canllaw nodyn ffitrwydd.

Gwybodaeth bwysig

Canllaw yn unig yw hwn ac nid yw’n cwmpasu pob amgylchiadau. Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir fel ag ym mis Awst 2023. Mae’n bosibl bod rhywfaint o’r wybodaeth wedi’i gorsymleiddio, neu efallai y bydd yn anghywir dros amser, er enghraifft oherwydd newidiadau yn y gyfraith.