Adroddiad corfforaethol

Adroddiad monitro iaith Cymraeg Tŷ'r Cwmnïau 2022 i 2023

Cyhoeddwyd 24 April 2024

1. Cyflwyniad

Paratowyd Cynllun Iaith Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg a chafodd gymeradwyaeth lawn Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 20 Ebrill 2010.

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn falch o gael ei Brif swyddfa yng Nghaerdydd ac o’r gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid. Ers i ni sefydlu ein Huned Iaith Gymraeg ym mis Medi 2020, teimlwn fod cyfathrebu wedi gwella ar draws pob rhan o Dŷ’r Cwmnïau a bod holl wasanaethau cwsmeriaid Cymru yn cael eu monitro gan Uned yr Iaith Gymraeg i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid Cymraeg. 

Rydym hefyd wedi cynnal Pwyllgor y Gymraeg sy’n cyfarfod yn rheolaidd i fonitro cynnydd a pherfformiad, ynghyd â thîm o siaradwyr Cymraeg gallwn ymgynghori ar faterion bob dydd. Daw aelodau’r pwyllgor o bob rhan o’r sefydliad, gan gynnwys ein Cyfarwyddwr Trawsnewid Cyflawni sy’n gweithredu fel Cadeirydd.

2. Dehongliad

Ystyr “TC” yw Tŷ’r Cwmnïau

Ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Cwmnïau 2006

Ystyr “y Cofrestrydd” yw Cofrestrydd y Cwmnïau

Ystyr “PAC” yw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig

Ystyr “PC” yw Partneriaeth Gyfyngedig

Ystyr “cwmni Cymreig/PAC” yw cwmni neu PAC, fel y’i diffinnir gan adran 88 o Ddeddf 2006 (fel y’i cymhwysir at bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig), sydd wedi rhoi hysbysiad i’r Cofrestrydd bod ei swyddfa gofrestredig wedi i’w lleoli yng Nghymru. O ran corffori, rhaid i gwmni nodi a yw ei swyddfa gofrestredig i’w lleoli yng Nghymru, Lloegr a Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Rhaid i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni fod yn y wlad lle maent wedi datgan y bydd eu swyddfa gofrestredig wedi’i lleoli.

Mae gan gwmni o Gymru’r opsiwn, o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, i gael enw cwmni Cymreig ac enw yn diweddu yn y Gymraeg (h.y. cyfyngedig, cwmni cyfyngedig cyhoeddus) a gall ffeilio dogfennau statudol yn Gymraeg. Gall cwmni yng Nghymru a Lloegr gael cyfeiriad swyddfa gofrestredig yng Nghymru neu Loegr ond ni all fod ag enw cwmni Cymreig nac enw yn diweddu yn y Gymraeg ac ni all ffeilio dogfennau statudol yn Gymraeg.

3. Cyflawniadau

Mae’r cyfnod adrodd presennol wedi gweld CH yn adeiladu ar amgylchedd trawsnewidiol a diwygio 2021-22. Yn ystod y cyfnod eithriadol o brysur hwn, aeth y sefydliad ymlaen â gwaith i gyflawni newidiadau sylfaenol i’r ffordd y mae’n gweithredu a’r ffordd mae’n cyfrannu at hybu hyder yn economi’r DU.

Yn Ebrill 2022 wnaethom gydweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi a’r Cyngor adrodd ariannol (FRC) i ddatblygu cyfres o Dacsonomeg Cymraeg. Dyma’r tro cyntaf mae’r dacsonomeg Cymraeg wedi bod ar gael er mwyn i gwmnïau ffeilio eu cyfrifon trwy feddalwedd yn y Gymraeg. Cyn hyn, dimond Tacsonomeg Saesneg oedd ar gael. Mae hyn yn gam pwysig ymlaen ar gyfer cwmnïau Cymraeg.

Cyflwynwyd gwasanaeth ar-lein newydd ac mi wnaeth ein Huned Gymraeg gweithio yn agos gyda’r tîm prosiect a’r dylunydd cynnwys er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg a Saesneg mynd yn fyw ar yr un pryd. Rydym yn falch iawn i ddweud bod hwn wedi bod yn llwyddiant mawr. 

O ganlyniad i gyflwyno ein Huned Iaith Gymraeg ym mis Medi 2020, rydym yn parhau i dderbyn mwy o gyfathrebu Cymraeg gan gwsmeriaid ym mhob rhan o TC. Rydym wedi gwneud llawer o waith i hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu cynnig ac rydym wedi cynyddu’r nifer o gwsmeriaid sy’n cysylltu gyda ni yn y Gymraeg oherwydd hyn.       

Rydym yn rhan o brosiect ‘Addewid Caerdydd’ ac am y tro cyntaf wedi dewis Ysgol Cymraeg i weithio gyda sef Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae ein huned Gymraeg ac ein hadran adnoddau dynol wedi mynychu sawl cyfarfod i weld sut rydym yn gallu gweithio yn effeithiol gyda’n gilydd yn y dyfodol.

Nawr bod Safle Swyddi’r Gwasanaeth Sifil ar gael yn y Gymraeg rydym wedi dechrau hysbysebu swyddi yn yr adran weithredol yn ddwyieithog er mwyn ceisio denu siaradwyr Cymraeg i ymuno a TC. Rydym hefyd wedi marchnata’r rhain ar ein cyfryngau cymdeithasol trwy’r Gymraeg.

4. Cydymffurfio â’r Cynllun Iaith Gymraeg

Mae TC yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydymffurfio â’i Gynllun Iaith Gymraeg ac o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023, cyflawnodd y canlynol:

Cyfarfu Pwyllgor Cymraeg TC bob chwarter i sicrhau cydymffurfiaeth â Chynllun Iaith Gymraeg TC ac adolygu cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn. Cynhaliwyd cyfarfodydd gwasanaeth Cymraeg i ystyried y gwasanaethau a gynigir i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Parhaodd tîm o siaradwyr Cymraeg o wahanol ardaloedd o fewn TC i ymateb i ymholiadau cwsmeriaid. Yn ystod y cyfnod adrodd, gofynnodd 12 o gwsmeriaid am gael siarad yn Gymraeg a chawsom 20 o negeseuon e-bost yn Gymraeg trwy’r cyfeiriad e-bost cyffredinol. Eleni, gwelsom 20 cwsmer yn ychwanegol yn cysylltu â’n Huned Gymraeg yn uniongyrchol ac wedi bod yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth cyflym rydym wedi derbyn oherwydd hyn. 

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cysylltodd 52 o gwsmeriaid Cymraeg â TC yn uniongyrchol gydag ymholiadau cyffredinol, gan gynnwys:

  • cadarnhad bod dogfennau wedi’u derbyn, a chymorth gyda dogfennau ffeilio
  • cymorth gyda newid cwmni o gwmni gyda chyfranddaliadau i gwmni sy’n gyfyngedig drwy warant
  • cymorth i ganslo cais am gwmni gan fod camgymeriad yn yr enw
  • cymorth gyda diddymu cwmni
  • cymorth gyda Ffeilio cyfrifon ar-lein
  • cymorth i sefydlu cwmni buddiant Cymunedol
  • cymorth ar sut i wneud cais am god dilysu gan fod cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig wedi newid
  • ymholiad ar erthyglau Cymraeg ac ar benderfyniad

Parhawyd i sicrhau bod y ffurflenni a gaiff eu ffeilio amlaf – sy’n cynnwys 95% o’r ffeilio ar y gofrestr – ar gael yn ddwyieithog, ar bapur ac yn electronig. Gweithiodd Uned yr Iaith Gymraeg yn agos gyda’r timau digidol i ddatblygu sawl system newydd i fod ar gael yn ddwyieithog.

Mae Uned yr Iaith Gymraeg yn parhau i fynychu sesiynau gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (Llywodraeth Cymru) i rannu arfer da a thrafod sut y gallwn wella gwasanaethau dwyieithog ac annog pobl i ddewis Cymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Gwnaethom barhau i adolygu canllawiau TC i sicrhau bod yr holl ganllawiau a grëwyd gan TC ar gael yn ddwyieithog, ac eithrio’r hyn nad yw’n benodol berthnasol i gwmnïau o Gymru (e.e. canllawiau ar faterion sy’n effeithio ar gwmnïau yn yr Alban yn unig).

Cafodd cwsmeriaid a oedd yn gohebu â TC yn Gymraeg ymateb yn Gymraeg. Mae pob adran yn TC yn cyfathrebu â’n Huned Iaith Gymraeg i sicrhau bod y cwsmer yn derbyn eu gohebiaeth yn eu hiaith ddewisol. Darparodd yr Uned wasanaeth cyfieithu ar gyfer pob adran.

Ers mis Medi 2020, rydym wedi gosod marciwr Cymraeg ar bob cwmni yng Nghymru i sicrhau eu bod yn derbyn gohebiaeth ddwyieithog ar draws y sefydliad. Nid ydym bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’n cwsmeriaid gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn. Roeddem yn llawn werthfawrogi pwysigrwydd bod hwn yn gynnig gweithredol ac nad oedd angen iddynt ofyn am ohebiaeth Gymraeg. Gosodwyd 222 o farcwyr ar Gwmnïau yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Cafodd pob set o gyfrifon Cymraeg a dderbyniwyd gan gwmnïau o Gymru eu cyfieithu i’r Saesneg ar gyfer y cofnod cyhoeddus, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Cyfieithwyd 55 o gyfrifon Cymraeg i’r Saesneg yn y cyfnod adrodd hwn gan Uned y Gymraeg.

Yn ogystal, parhawyd i gyfieithu gohebiaeth i’r Gymraeg i fodloni gofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys llythyrau, canllawiau a gwaith prosiect, ar gyfer y wefan a gwasanaethau ar-lein.

Roedd yr holl gontractau a gyhoeddwyd yn cynnwys cymal yn sicrhau bod ein partneriaid gwasanaeth yn cydymffurfio ag ymrwymiadau TC y Gymraeg.

Parhaodd TC i gymryd rhan ym Mhwyllgor CALL rhyngadrannol Llywodraeth y DU. Mae’r pwyllgor yn dod â chynrychiolwyr o Unedau Iaith Gymraeg amrywiol adrannau Llywodraeth y DU at ei gilydd yn rheolaidd. Mae’n darparu fforwm delfrydol i rannu arfer gorau a dod o hyd i atebion i wella ein gwasanaethau Cymraeg, gyda golwg ar sicrhau dull mwy safonol ar draws y llywodraeth. Rhoddodd cydweithwyr o’r Pwyllgor CALL gefnogaeth i sefydlu’r Uned yn TC.

Cafwyd arwyddion newydd ar draws yr holl adeilad ac roedd pob un arwydd wedi ei wneud yn ddwyieithog.

5. Prif ffrydio’r Gymraeg

Parhawyd i ystyried ein gwasanaethau Cymraeg ar gam cynharaf pob prosiect drwy gynnwys y Gymraeg ym mhob rhestr wirio rheolwyr prosiect a chynlluniau datblygu eraill. Mae rheolwr Uned yr Iaith Gymraeg bellach yn eistedd ar baneli amrywiol i fwrw ymlaen â hyn a sicrhau bod llais i sefyll dros y Gymraeg.

Gwnaethom barhau i rannu negeseuon Cymraeg ar ein cyfrif Twitter corfforaethol, sydd bellach â dros 23,000 o ddilynwyr yn ystod 2022/2023.

Gwelwyd y postion hyn 21,103 o weithiau ac yn ymdrin â phynciau fel ymwybyddiaeth sgâm a ffeilio ar-lein ac ar amser, ein huned Gymraeg, a newid i’r busnes.

Gwnaethom barhau i ystyried ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod pob prosiect drwy gynnwys cyfieithiadau Cymraeg o’n cynnwys GOV.UK. Rydym hefyd wedi parhau i ddiweddaru tudalennau Cymraeg yn ôl yr angen.

Gwnaethom barhau i flaenoriaethu darparu cynnwys Cymraeg ar GOV.UK dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi gweithio gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) i sicrhau fersiwn Gymraeg o’n safle ymgyrchu newydd ar newidiadau i gyfraith cwmnïau’r DU a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Cynhaliwyd 4 ymgyrch ym mlwyddyn ariannol 2022/23, ac roedd pob un ohonynt yn cynnwys adnoddau a chynnwys Cymraeg. Ar gyfer pob ymgyrch fe wnaethom greu safle rhanddeiliaid a oedd yn cynnwys copi awgrymedig, cynnwys, gwybodaeth ac asedau creadigol yn Gymraeg:

Fe wnaethon ni ddiweddaru’r tudalennau Gweithio i Tŷ’r Cwmnïau a Bod yn gyfarwyddwr cwmni gyda chynnwys yr ymgyrch a chyhoeddi’r Gymraeg yn greadigol a negeseuon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi 3 stori newyddion ymgyrch yn Gymraeg:

6. Dangosyddion perfformiad

Yn ystod y cyfnod adrodd, corfforwyd 6,474 (6,435 llynedd) o gwmnïau Cymreig a 17 PAC ag awdurdodaeth Gymreig (18 llynedd) Roedd cyfanswm o 801,006 o gwmnïau a 5,472 o PAC wedi eu corffori yn ystod y cyfnod hwn.

Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd yna 31,096 o gwmnïau Cymreig a 158 o PAC Cymreig ar y gofrestr (156 llynedd), o’u cymharu â chyfanswm o 5, 116,743 o gwmnïau.

Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd yna 1,775 o gwmnïau Cymraeg (1,711 llynedd) ac 7 PAC Cymraeg ar y gofrestr oedd wedi eu corffori â therfyniad enw Cymraeg.

7. Canolfan gyswllt

Mae dau aelod llawn amser o staff sy’n siarad Cymraeg yn y ganolfan gyswllt. Mae gofyniad cytundebol i ddarparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os yw cwsmer yn gofyn yn benodol am gael siarad â siaradwr Cymraeg ac nad oes un ar gael, rydym yn cynnig y dewis i’r cwsmer gwblhau’r alwad yn Saesneg neu ofyn am rif ffôn cyswllt y cwsmer fel y gall siaradwr Cymraeg gysylltu â nhw’n uniongyrchol, yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg.

Mae gan TC hefyd grŵp dynodedig sy’n gallu ymateb i ymholiadau Cymraeg. Caiff hyn ei gyfleu i bob aelod o staff drwy ein cyfathrebiadau mewnol.

Mae Uned yr Iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r ganolfan gyswllt i sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd cael darpariaeth Gymraeg, waeth pa mor fach yw’r nifer sy’n cysylltu â ni ar hyn o bryd.

8. Derbynfa gyhoeddus

Er mwyn diogelwch, gwnaethpwyd y penderfyniad i gau ein derbynfa ar gyfer y cyhoedd. Mae staff y dderbynfa nawr yn gweithio mewn adrannau eraill o fewn y sefydliad.

9. Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth iaith

Mae TC wedi parhau i hyrwyddo cyfleoedd datblygu’r Gymraeg i’n staff ac yn cynnig cyfleoedd i’r staff ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle. Rydym yn falch i ddweud ein bod nawr yn gallu cynnal digwyddiadau yn yr adeilad ond yn parhau i gynnal digwyddiadau ar-lein hefyd gan fod ein sefydliad yn gweithio mewn modd ‘Hybrid’ felly mae’n bwysig i gynnig cyfleoedd gwahanol i’r gweithle.

Ym mis Medi cychwynnodd Uned y Gymraeg ‘Caffi Cymraeg’ yn yr adeilad er mwyn rhoi cyfle i siaradwyr rhugl a siaradwyr newydd y sefydliad i ymarfer eu Cymraeg. Mae’r fenter wedi bod yn llwyddiant mawr gydag amrywiaeth o bobl o adrannau gwahanol yn y sefydliad yn mynychu. Mae’r bobl yma hefyd yn chwarae rhan bwysig gan eu bod hefyd yn bencampwyr am y Gymraeg yn ei hardaloedd o fewn y sefydliad.

Mae’r Uned Iaith Gymraeg hefyd yn rhoi erthyglau rheolaidd a geirfa Gymraeg ar dudalen Rhyngweithio’r mudiad. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi sicrhau bod gan y Gymraeg amlygrwydd ar draws TC i gyd. Mae gan Uned yr Iaith Gymraeg hefyd dudalen ryngweithio sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer pob ardal ar gyfathrebu Cymraeg, ein Cynllun Iaith Gymraeg a rhestr o siaradwyr Cymraeg ym mhob ardal.

Mae tudalen gymdeithasol yr Uned y Gymraeg i’w gweld yn y sefydliad ac rydym yn parhau i ddarparu cynnwys Cymraeg a dwyieithog a hysbysebu ein digwyddiadau yma. Rydym hefyd yn hysbysebu digwyddiadau cymunedol i greu gwelededd ehangach o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg i’n staff.

Rydym hefyd wedi creu tudalen SharePoint Uned y Gymraeg ar gyfer yr holl sefydliad fel bod lle canolog i’r staff ddod o hyd i wybodaeth am bob cyfle posib yn y Gymraeg a hefyd canllawiau Cymraeg ar gyfer pob adran o fewn y sefydliad. Mae’r dudalen hefyd yn cynnwys ein cynllun iaith Gymraeg fel bod pob adran yn deall y pwysigrwydd a’u cyfrifoldebau. Rydym hefyd yn cadw bob blog rydym wedi gwneud a hefyd recordiad o’r dathliadau wedi cynnig hyd yn hyn.

Cynigiodd TC gyfleoedd dysgu Cymraeg i’r holl staff yn unol â’i Gynllun Addysg Oedolion. Mae’r sefydliad wedi cefnogi’n llawn y rhai sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn drwy dalu am gost y cwrs ac unrhyw arholiadau, yn ogystal â darparu amser hwyluso i astudio.

Ym mis Medi fe ddechreuon ni garfan newydd o ddysgu, felly erbyn hyn mae gennym 23 o bobl yn mynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau. Darperir y gwersi hyn gan Dysgu Cymraeg Morgannwg ac mae’r staff yn cael eu gwersi yn wythnosol ac mae’r rhain yn dal i ddigwydd ar Microsoft Teams. Mae hyn yn gweithio’n dda gan fod y dysgwyr i gyd yn mynd i mewn i’r swyddfa ar ddiwrnodau gwahanol ac ati oherwydd y ffordd newydd o weithio.

Adeiladwyd ar lwyddiant digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi oedd ar lein yn unig llynedd a chynhaliodd Uned yr Iaith Gymraeg ddigwyddiad dydd Gŵyl Dewi yn yr adeilad a hefyd roedd modd i bobl i ymuno ar Microsoft Teams. Mynychodd dros 300 o staff o bob rhan o TC ac mi oedd yn llwyddiant mawr. 

Cymerodd amrywiaeth o bobl rhan yn y digwyddiad trwy ganu, darllen ayb. Wnaeth Uned y Gymraeg gwahodd yr Ysgol Gymraeg lleol ‘Ysgol Gymraeg Mynydd Bychan’ i gymryd rhan yn y digwyddiad ac roedd teimlad o angerdd tra roedd y plant yn canu amrywiaeth o ganeuon Cymreig. Roedd hwn bendant wedi creu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar draws y sefydliad. 

Crëwyd fideo o’r gweithwyr sydd yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd a dangoswyd y fideo yn ystod y digwyddiad. O ganlyniad i hyn, mae mwy o bobl wedi dangos diddordeb mewn dysgu.

Parhaodd TC i annog a chefnogi diwrnodau gwirfoddoli sydd, yn ein barn ni, yn fodd cadarnhaol o gyfrannu at y gymuned leol wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ar yr un pryd. Gwnaeth Uned yr Iaith Gymraeg a siaradwyr Cymraeg eraill yn TC gwirfoddoli ar ddigwyddiadau’r Urdd a hefyd mewn digwyddiad STEM yn stadiwm Principality gydag Ysgolion Cymraeg lleol o ardal Caerdydd yn mynychu. Mae hon yn ffordd wych o hyrwyddo’r Gymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau i’r gymuned ehangach.

10. Cwynion

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, roedd 1 achos lle cysylltodd cwsmeriaid â yn ymwneud â’i Wasanaeth Cymraeg.

Cyflwynodd cwmni 2 set o gyfrifon ar bapur yn Saesneg a Chymraeg ond roedd camgymeriad ar y copi Saesneg felly ni dderbyniwyd y cyfrifon; o ganlyniad i hyn rhoddwyd cosb ffeilio hwyr i’r cwmni. Apeliodd y cwmni yn erbyn y gosb a’i sail i’r apêl oedd bod ganddynt hawl cyfreithlon i anfon copi Cymraeg yn unig i mewn ac roedd y copi Saesneg trwy gwrteisi yn unig.

Cafodd yr Uned cosbau hwyr sawl cyfarfod gydag Uned y Gymraeg am hyn a phenderfynwyd nad oedd y broses iawn wedi ei ddilyn. Dylwn wedi derbyn y copi Saesneg ac mae nawr polisi newydd mewn lle i sicrhau bod pawb yn dilyn y broses hon. Hysbyswyd y cwmni am hyn ac mi oeddent yn hapus gyda’r canlyniad nad oedd cosb bellach yn ddyledus.

Mae Uned y Gymraeg yn cyfieithu bob set o gyfrifon rydym yn derbyn mewn Cymraeg yn unig i Saesneg ar gyfer y gofrestr gyhoeddus.

11. Casgliad

Bydd ein Huned Iaith Gymraeg a Phwyllgor y Gymraeg yn parhau i sicrhau bod Tŷ’r Cwmnïau yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan y Cynllun Iaith Gymraeg a bod pawb yn gweld pwysigrwydd cynnig gwasanaeth Cymraeg rhagweithiol i’n cwsmeriaid.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth Cymraeg rhagorol i’n cwsmeriaid a byddwn yn parhau i gydweithio gyda phob adran yn CH i hyrwyddo dwyieithrwydd ar draws y sefydliad. Rydym yn gyffrous iawn am ddyfodol y Gymraeg yma yn Nhŷ’r Cwmnïau ac rydym eisoes yn gweld newidiadau cadarnhaol ers datblygu ein Huned Iaith Gymraeg ym mis Medi 2020.

12. Cynllun gweithredu

12.1 Deddfwriaeth a mentrau

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Adolygu’r cynllun gweithredu pob chwarter Bob chwarter Strategaeth a Pholisi Adolygwyd cynnwys y cynllun gweithredu fel rhan o waith Pwyllgor y Gymraeg a gyfarfu yn chwarterol yn 2022/23.
Adolygu’r cynllun strategol pob chwarter i gyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu ar yr iaith Gymraeg Bob chwarter Strategaeth a Pholisi Mae ein hymrwymiad i wasanaethau Cymraeg yn sail i 2 o’n nodau strategol allweddol: Gwasanaethau gwych sy’n rhoi profiad gwych i ddefnyddwyr a Chofrestri data sy’n ysbrydoli ymddiriedaeth a hyder.
Ystyried sut y bydd polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd yn cydymffurfio â’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg Yn parhau Strategaeth a Pholisi Rydyn ni wedi parhau a byddwn yn parhau, i ystyried ein Cynllun Iaith wrth gychwyn polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd.
Galluogi cwmnïau Cymreig i fwynhau “Profiad Cymraeg” wrth gorffori Hydref 2012 Cyflawni Atebion Busnes Cwblhawyd hyn yn Hydref 2012.
Galluogi corffori ar-lein llawn i gwmnïau Cymreig yn Nhŷ’r Cwmnïau Mawrth 2013 Cyflawni Atebion Busnes Cwblhawyd hyn ar 6 Ebrill 2013.
Gwella’r gwasanaeth Newid enw ar WebFiling er mwyn cynhyrchu cyfieithiad o’r dystysgrif (sy’n cael ei hadolygu ar hyn obryd) Mawrth 2013 Y Gyfarwyddiaeth Cyflawni ar gyfer Cwsmeriaid Wrth inni ddatblygu gwasanaeth beta TC ymhellach ar gyfer cwsmeriaid, bydd TC yn datblygu rhagor o wasanaethau sy’n defnyddio’r Gymraeg o ddechrau’r broses i’w diwedd. Fodd bynnag, nid yw’r amserlen ar gyfer gwneud hyn yn glir ar hyn o bryd.

12.2 Staffio

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Cynnal yr hyfforddiant iaith gyfredol, gan dargedu sgiliau Cymraeg llafar Yn parhau Uned yr Iaith Gymraeg/ Tîm Dysgu a datblygu Trefnodd Uned yr Iaith Gymraeg wersi Cymraeg ar-lein i 23 o bobl ar draws CH drwy Brifysgol Morgannwg. Mae’r uned Iaith Gymraeg hefyd yn darparu cyfleoedd i staff ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn y gweithle. Mae’n bwysig yn niwylliant CH bod y staff yn teimlo eu bod yn gallu dod â’u hunain cyfan i’r gwaith i mae rhan o hyn yn gallu defnyddio eu hiaith ddewisol yn y gwaith.
Sicrhau bod staff sy’n medru’r Gymraeg yn yr holl brif feysydd gweithredol er mwyn darparu gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg Yn parhau Cyfarwyddwyr Mae TC yn sicrhau bod staff sy’n medru’r Gymraeg ar gael ym mhob maes er mwyn archwilio gwybodaeth sy’n cael ei ffeilio yn Gymraeg ac ymateb i gwsmeriaid yn y Gymraeg.
Hyrwyddo’r hyn sy’n ofynnol o TC o dan y Cynllun Iaith yn fewnol, gan sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gwybod ble i droi am gymorth Yn parhau Uned y Gymraeg/ Strategaeth a Pholisi Defnyddiwyd y safle mewnrwyd yn rheolaidd i dynnu sylw ein staff at ein hymrwymiad i’n Cynllun Iaith. Mae Uned y Gymraeg hefyd wedi bod yn neud sesiynau gyda’r holl adrannau ac mae pob adran yn gwybod i ddod at yr Uned am gymorth ayb. Mae Uned yr Iaith Gymraeg bellach hefyd wedi creu tudalen barhaol ar safle’r Fewnrwyd sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer pob adran, copi o’n Cynllun Iaith Gymraeg a rhestr o siaradwyr Cymraeg ym mhob ardal.
Cynnal tîm Cymraeg yn TC i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a chynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod problemau a chynnydd Yn parhau Uned y Gymraeg/Cyflawni ar gyfer Cwsmeriaid Mae tîm y Gymraeg wedi parhau i fod ar gael ac wedi cyfarfod yn rheolaidd.

12.3 Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd, hysbysebion a datganiadau i’r wasg

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn mynychu pob digwyddiad yng Nghymru lle mae presenoldeb gan TC Yn parhau Y Tîm Digwyddiadau Byddwn yn sicrhau hyn os ydym yn mynychu digwyddiadau yn y dyfodol. Mae llawer o rwydweithio nawr yn digwydd yn rhithiol.
Sicrhau bod deunydd darllen Cymraeg ar gael mewn digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru Yn parhau Y Tîm Digwyddiadau Byddwn yn sicrhau hyn os ydym yn mynychu digwyddiadau yn y dyfodol. Mae llawer o rwydweithio nawr yn digwydd yn rhithiol.
Sicrhau bod hysbysebion a datganiadau i’r wasg sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru ar gael yn Gymraeg Yn parhau Adnoddau Dynol/Uned y Gymraeg Lle cyhoeddir hysbysebion swyddi yn y wasg Gymraeg maent yn ddwyieithog. Nawr bod modd hysbysebu yn Gymraeg ar wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil rydym nawr wedi dechrau hysbysebu rhai swyddi trwy’r Gymraeg.

12.4 Cyhoeddiadau a ffurflenni

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod holl gyhoeddiadau Cymraeg TC yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r fersiynau Saesneg Yn parhau Strategaeth a Pholisi Mae TC yn parhau i sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r cyhoeddiadau Saesneg.
Sicrhau bod yr holl ffurflenni statudol Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r fersiynau Saesneg Yn parhau Strategaeth a Pholisi Mae TC yn dal i sicrhau bod ffurflenni Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â ffurflenni Saesneg.
Monitro defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau bod fersiynau Cymraeg yn cael eu defnyddio pan fo hynny’n briodol Yn parhau Datblygiad Newid Busnes Mae TC yn dal i fonitro’r defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau y darperir ateb yn Gymraeg lle bo angen. Drwy gydol y cyfnod mae ein tîm Cymorth Cyflawni i Gwsmeriaid wedi adolygu’r ddarpariaeth o lythyrau Cymraeg sydd gennym ni.

12.5 Gwefannau

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod y wefan Gymraeg yn cael ei diweddaru’r un pryd â’r fersiwn Saesneg, pan fo hynny’n briodol, a bod y wybodaeth ar y wefan Gymraeg yn gyfoes Yn parhau Cyfathrebu allanol/Uned y Gymraeg Parhawyd i gynyddu’r cynnwys Cymraeg ar GOV.UK. Mae Uned y Gymraeg yn monitro hyn ac yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda’r tîm cyfathrebu allanol er mwyn gweithredu hwn hefyd.
Cyfryngau cymdeithasol Yn parhau Cyfathrebu allanol/Uned y Gymraeg Rydym yn sicrhau bod negeseuon Twitter a Facebook Cymraeg yn cael eu postio’n aml. Mae hyn yn bwysig er mwyn annog mwy o gwsmeriaid o Gymru i gyfathrebu â ni yn Gymraeg.

12.6 Cyfarfodydd wyneb yn wyneb

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod modd i gwsmeriaid ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg os ydynt am gynnal eu busnes yn Gymraeg Yn parhau Gwasanaethau i Gwsmeriaid/ Uned y Gymraeg Ni does cyfarfodydd wyneb i wyneb yn digwydd rhagor ond gallwn cynnig y gwansaeth yma dros Microsoft Teams.

12.7 Cyfathrebu dros y ffôn

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod modd i gwsmeriaid sydd am gynnal eu busnes yn Gymraeg ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg Yn parhau Gwasanaethau i Gwsmeriaid / Uned y Gymraeg Mae system mewn lle i wneud yn siŵr fod y cwsmer yn gallu cyfathrebu gyda ni yn ei iaith ddewisol.

12.8 Arwyddion

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod yr holl arwyddion cyhoeddus yn swyddfa Caerdydd yn ddwyieithog Yn parhau Gwasanaethau’r Adeiladau/Uned y Gymraeg Cynhyrchir yr holl arwyddion cyhoeddus yn ddwyieithog
Mae Uned yr Iaith Gymraeg wedi darparu cyfieithiadau yn ddiweddar ac erbyn hyn mae gennym arwyddion dwyieithog newydd ar draws TC.

12.9 Cwynion

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod cwynion am wasanaethau Cymraeg TC yn cael eu harchwilio’n fanwl ac yn cael eu datrys yn brydlon, a hynny’n unol â threfn gwynion arferol TC Yn parhau Uned y Gymraeg Paragraff 10 o’r adroddiad
Monitro’r cwynion am wasanaethau dwyieithog Yn parhau Uned y Gymraeg Mae Uned yr Iaith Gymraeg yn monitro pob cwyn ynglŷn â’r gwasanaeth dwyieithog yn unol â pharagraff 10 yr adroddiad.