Stori newyddion

Dathlu ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Nhŷ'r Cwmnïau

Mae ein strategaeth yn dangos sut rydym wedi ymrwymo i ddarparu diwylliant cynhwysol ac amrywiol lle gall pob gweithiwr ffynnu, gyrru perfformiad uchel a darparu gwasanaeth gwych.

Nid dim ond yr hyn rydyn ni’n ei ddweud, ond hefyd beth rydyn ni’n ei wneud. Rydym yn croesawu amrywiaeth yn ein meddwl, sgiliau, profiad a syniadau, yn gwella ein gallu a’n dealltwriaeth sefydliadol o anghenion ein cwsmeriaid.

Ym mis Tachwedd 2021 dechreuwyd gweithredu ein Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Tŷ’r Cwmnïau (ED&I).

Roedd hyn mewn ymateb i gydnabod ein bod ar daith i wneud yn siŵr bod diwylliant y sefydliad yn cael ei harwain gan ei bobl ei hun, gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o’r cyfan a wnawn, a’r gwasanaethau rydym yn eu cyflawni.

Wrth ddatblygu ein strategaeth fe sicrhawyd ei bod yn canmol diwylliant y sefydliad ac yn canolbwyntio ar 3 thema graidd:

  • recriwtio a denu’r dalent amrywiol gorau
  • cefnogi, datblygu, gwobrwyo a chynnal
  • y gwaith rydyn ni’n ei wneud

Rydym yn cydnabod bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ymwneud â mynd i’r afael â thangynrychiolaeth, meithrin diwylliannau cynhwysol, a sicrhau atebolrwydd sefydliadol ar gyfer cynnydd, yn ogystal â chreu a gweithredu dulliau arloesol sy’n sbarduno newid. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio tuag at y nodau hyn.

Mae’n bwysig i ni nad dim ond yr hyn rydyn ni’n ei ddweud, ond yr hyn rydyn ni’n ei wneud a’i gyflawni sy’n cyfrif wrth gefnogi a chreu diwylliant cynhwysol, cadarnhaol lle gall pawb ddod â’u hunan cyflawn i’r gwaith. Mae ein strategaeth yn dangos ein bod wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle gall pawb gyrraedd eu llawn botensial a bod amrywiaeth yn rhan annatod o lunio polisïau cynhwysol a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.

Wrth siarad am y strategaeth, dywedodd Michelle Wall, Cyfarwyddwr Cyllid a Masnachol Tŷ’r Cwmnïau a’n hyrwyddwr gweithredol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant:

O fewn ein strategaeth gorfforaethol ar gyfer 2020 i 2025 rydym yn nodi, ‘Cynhwysiant yw’r llinyn euraidd sy’n rhedeg trwy holl weithgaredd Tŷ’r Cwmnïau’.

Fel hyrwyddwr amrywiaeth rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod fel sefydliad yn cyflawni’r weledigaeth hon ar y cyd, gan sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd o gydraddoldeb, ein bod yn gynrychioliadol o’r dinasyddion yr ydym yn eu gwasanaethu a bod gennym ddiwylliant cynhwysol sy’n sicrhau bod pawb yn gallu dod â’u hunan cyflawn i’r gwaith.

Darllenwch strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant Tŷ’r Cwmnïau.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2022