Os nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych o’r farn nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach.

Os yw CThEF yn cytuno, bydd yn anfon llythyr atoch i gadarnhau nad oes angen i chi cyflwyno Ffurflen Dreth.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na fydd CThEF yn cytuno cyn y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad, sef 31 Ionawr.

Mae’n bosibl na fydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach oherwydd, er enghraifft:

Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.

Os nad ydych yn hunangyflogedig mwyach

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod i CThEF bod eich hunangyflogaeth wedi dod i ben, mae’n bosibl y bydd CThEF yn dal i ofyn i chi anfon Ffurflenni Treth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Os ydych wedi gwirio ac nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi rhoi gwybod i CThEF.

Rhoi gwybod i CThEF nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach

Gallwch roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach drwy un o’r dulliau canlynol:

Bydd angen i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch rhif UTR.