Skip to main content

Gwneud cais am, neu adnewyddu, Bathodyn Glas

Gwiriwch eich cymhwysedd a gwnewch gais am Fathodyn Glas. Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ailymgeisio am Fathodyn Glas.

Gallwch wneud cais ar eich rhan eich hun, ar ran rhywun arall neu ar ran sefydliad.

Mae Bathodyn Glas yn costio hyd at £10 yn Lloegr ac £20 yn yr Alban. Mae am ddim yng Nghymru.

Maent fel arfer yn ddilys am hyd at 3 blynedd.

Rhaid i chi wneud cais eto am Fathodyn Glas cyn i’ch un presennol ddod i ben.

Os ydych yn ymgeisio am fathodyn glas i gymryd lle un sydd wedi’i golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi, ac nad yw’n dod i ben yn y 3 mis nesaf, mae angen i chi ddefnyddio gwasanaeth gwahanol.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ymgeisio neu adnewyddu ar-lein

Bydd angen llun digidol diweddar arnoch sy’n dangos eich pen a’ch ysgwyddau.

Bydd angen llun neu sgan hefyd o’ch:

  • tystiolaeth hunaniaeth (fel tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru)
  • tystiolaeth o gyfeiriad (fel bil y Dreth Gyngor neu lythyr gan y llywodraeth)
  • prawf o fudd-daliadau (os ydych yn derbyn unrhyw rai)

Bydd angen i chi wybod hefyd:

  • eich Rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych chi un)
  • manylion eich Bathodyn Glas presennol (os ydych yn ailymgeisio)

Gallwch gadw eich cais a dychwelyd ato yn ddiweddarach os oes angen.

Dechrau nawr

Mae’r ffordd y talwch yn dibynnu ar eich cyngor lleol. Fel arfer, byddant yn gwneud penderfyniad o fewn 12 wythnos.

Os gwrthodir eich cais

Dylai eich cyngor ddweud wrthych pam nad ydych yn gymwys i gael Bathodyn Glas.

Gallwch ofyn iddynt ailystyried eich achos os nad ydych yn credu bod yr holl wybodaeth bwysig a ddarparwyd gennych wedi cael ei hystyried.

Gallwch hefyd ailymgeisio os bydd eich problemau symudedd yn gwaethygu.

Os oes angen cymorth arnoch

Ar gyfer cwestiynau am gynllun y Bathodyn Glas, cysylltwch â’ch cyngor lleol.