Tâl ac absenoldeb tadolaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Mabwysiadu a threfniadau mam fenthyg

Cymhwystra

Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos erbyn yr ‘wythnos baru’. Ar gyfer mabwysiadu mae hyn yn golygu naill ai:

  • diwedd yr wythnos y cewch eich paru â’r plentyn (mabwysiadau’r DU)
  • y dyddiad y mae’r plentyn yn dod i mewn i’r DU, neu pryd rydych am i’ch tâl ddechrau (mabwysiadau tramor)

Mae’n rhaid i chi hefyd fodloni’r amodau cymhwystra eraill ar gyfer Tâl neu Absenoldeb Tadolaeth.

Dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben – Absenoldeb Tadolaeth

Gall eich cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth ddechrau:

  • ar y dyddiad lleoli
  • ar y dyddiad y mae’r plentyn yn dod i mewn i’r DU, os ydych yn mabwysiadu o dramor
  • y dyddiad y mae’r baban yn cael ei eni (neu’r diwrnod wedyn os ydych yn gweithio’r diwrnod hwnnw) os ydych yn rhiant benthyg
  • ar ddyddiad o’ch dewis chi ar ôl y dyddiad geni neu’r dyddiad lleoli

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dechrau.

Ar gyfer mabwysiadau’r DU a mabwysiadau tramor

Os oes disgwyl i’r plentyn gael ei leoli, neu os oes disgwyl iddo gyrraedd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban:

  • cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad cyrraedd
  • ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad cyrraedd

Mae rheolau gwahanol ar waith ar gyfer mabwysiadu os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).

Ar gyfer rhieni benthyg

Os oes disgwyl i’r baban gael ei eni:

  • ar neu cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad geni
  • ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i’r dyddiad geni

Sut i hawlio – Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth

Gallwch ddefnyddio ffurflen SC4 (neu fersiwn eich cyflogwr) ar gyfer:

  • absenoldeb – cyn pen 7 diwrnod i’r dyddiad y mae’ch cyd-fabwysiadwr neu’ch partner yn cael ei baru â phlentyn
  • tâl – 28 diwrnod, neu cyn gynted ag y gallwch, cyn i chi eisiau i’ch tâl ddechrau

Mae’r ffurflen a’r cyfnod rhybudd yn wahanol ar gyfer mabwysiadau tramor. Mae’r broses yn cael ei hesbonio ar ffurflen SC5.

Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o fabwysiadu i’ch cyflogwr er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tâl Tadolaeth. Does dim angen tystiolaeth ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth oni bai bod eich cyflogwr yn gofyn am hyn.

Gall tystiolaeth fod yn llythyr gan eich asiantaeth fabwysiadu neu’n dystysgrif baru.

Bydd angen i chi roi’r wybodaeth hon cyn pen 28 diwrnod.

Trefniadau mam fenthyg

I fod yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth os defnyddiwch fam fenthyg i gael baban, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

Gallwch hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth drwy’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 15 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr er mwyn hawlio Tâl Tadolaeth. Mae’n rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd er mwyn hawlio Absenoldeb Tadolaeth.

Mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig sy’n cadarnhau eich bod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhiant (yn agor tudalen Saesneg) yn y 6 mis ar ôl genedigaeth y baban. Mae’n rhaid i chi lofnodi hyn ym mhresenoldeb gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.

Mae rheolau gwahanol ar gyfer trefniadau mam fenthyg os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).