Gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol

Neidio i gynnwys y canllaw

Atwrneiaeth arhosol

Gallwch wrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA).

Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ddweud wrth y Llys Gwarchod.

Mae sut rydych yn gwrthwynebu yn dibynnu ar bwy ydych chi a pham eich bod yn gwrthwynebu.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwrthwynebu os mai chi yw’r rhoddwr

Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA006) a’i hanfon at OPG. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Gwrthwynebu os ydych yn atwrnai neu’n ‘unigolyn i’w hysbysu’

Byddwch yn cael llythyr gan y rhoddwr neu un o’u hatwrneiod yn dweud wrthych eu bod eisiau cofrestru’r LPA. Gallwch wneud ‘gwrthwynebiad ffeithiol’ neu wrthwynebiad ar ‘seiliau rhagnodedig’.

Gwrthwynebiadau ffeithiol

Gallwch wrthwynebu os:

  • yw’r rhoddwr neu’r atwrnai wedi marw
  • roedd y rhoddwr a’r atwrnai yn briod neu mewn partneriaeth sifil ond maent wedi ysgaru neu wedi dod â’r bartneriaeth sifil i ben
  • nid oes gan atwrnai y gallu meddyliol i fod yn atwrnai
  • mae’r atwrnai wedi dewis rhoi’r gorau i weithredu (a elwir weithiau yn ‘ymwrthod â’u penodiad ‘)
  • mae’r rhoddwr neu’r atwrnai yn fethdalwr, yn fethdalwr dros dro neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyled (atwrneiod eiddo a materion ariannol yn unig)

Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA007) a’i hanfon at OPG. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Mae’n rhaid i chi wrthwynebu cyn pen 3 wythnos ar ôl cael gwybod am y cofrestriad.

Gwrthwynebiadau rhagnodedig

Gallwch wrthwynebu’r cofrestriad os ydych yn meddwl:

  • nad yw’r LPA yn gywir yn gyfreithiol
  • nad ydych yn credu bod gan y rhoddwr alluedd meddyliol i wneud LPA
  • bod y rhoddwr wedi diddymu eu LPA pan oeddent wedi adennill eu galluedd
  • bod twyll wedi digwydd, e.e. rhywun wedi ffugio llofnod y rhoddwr
  • roedd pwysau ar y rhoddwr i wneud LPA
  • bod atwrnai yn gweithredu yn erbyn buddiannau pennaf y rhoddwr

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi unrhyw rai o’r gwrthwynebiadau hyn.

Llenwch y canlynol:

Nid yw’n costio dim i wrthwynebu os ydych yn atwrnai neu’n unigolyn i’w hysbysu.

Gwrthwynebu os nad ydych yn atwrnai neu’n ‘unigolyn i’w hysbysu’

Llenwch y ffurflen wrthwynebu (COP1), gwnewch gopi ohoni ac anfonwch y gwreiddiol a’r copi i’r Llys Gwarchod.

Anfonwch siec o £371 yn daladwy i ‘Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’ gyda’ch ffurflenni.

Llys Gwarchod
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Gostyngiad neu esemptiad o’r ffi

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Lawrlwythwch y ffurflen i gadarnhau eich bod yn gymwys ac i wneud cais.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar ôl i chi anfon y ffurflenni ac unrhyw ffioedd, bydd OPG neu’r Llys Gwarchod yn cysylltu â chi. Byddant yn dweud wrthych os:

  • byddant yn atal y cofrestriad
  • bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal i drafod eich gwrthwynebiad