Rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu, trosglwyddo neu brynu cerbyd

Wedi gwerthu eich cerbyd i’r fasnach modur

Mae arnoch angen y rhif cyfeirnod 11 digid o’r llyfr log diweddaraf (V5CW).

  1. Rhowch y llyfr log i’r prynwr, yn cynnwys y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd.

  2. Rhowch wybod i DVLA eich bod wedi gwerthu’r cerbyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

  3. Dinistriwch yr adran ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid eich cerbyd i fasnachwr modur’ felen o’r llyfr log.

Rhoi gwybod i DVLA

Gallwch gymryd rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych eisiau ei gadw. Mae’n rhaid ichi wneud hyn cyn rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu eich cerbyd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd eich treth cerbyd yn cael ei chanslo gan DVLA unwaith y byddwch yn rhoi gwybod iddynt nad ydych yn berchen ar eich cerbyd bellach.

Byddwch yn derbyn:

  • cadarnhad e-bost (os wnaethoch roi eich cyfeiriad e-bost)
  • llythyr yn cadarnhau nad ydych bellach yn geidwad y cerbyd
  • siec ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sy’n weddill ar eich treth cerbyd, wedi eu cyfrifo o’r diwrnod mae DVLA yn derbyn y wybodaeth - os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd hyn yn cael ei ganslo’n awtomatig

Ffyrdd eraill o wneud cais

Os oes gennych lyfr log rhaid ichi gael y masnachwr i lenwi’r adran ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid’ felen. Anfonwch yr adran dyllog i DVLA.  

DVLA
Abertawe
SA99 1BD

Os nad oes gennych lyfr log

Rhaid ichi ysgrifennu i DVLA gyda’r canlynol:

  • eich enw a chyfeiriad
  • y rhif cofrestru cerbyd
  • y gwneuthuriad a model
  • union ddyddiad y gwerthiant
  • enw a chyfeiriad y ceidwad newydd  

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Gall eich hysbysiad gael ei wrthod os nad ydych yn darparu’r holl wybodaeth yma. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar unrhyw ad-daliad treth cerbyd sy’n ddyledus ichi.

Eich atebion

Dechrau eto

1. Ydych chi’n fasnachwr modur?
Nac ydw
Newid 1. Ydych chi’n fasnachwr modur?
2. Beth ydych wedi gwneud gyda’ch cerbyd?
Wedi ei werthu
Newid 2. Beth ydych wedi gwneud gyda’ch cerbyd?
3. A wnaethoch chi werthu’r cerbyd yn breifat, neu i fasnachwr modur?
Wedi ei werthu i fasnachwr modur
Newid 3. A wnaethoch chi werthu’r cerbyd yn breifat, neu i fasnachwr modur?