Cyfrifo sut i ddosrannu Rhyddhad Amaethyddol a Rhyddhad Busnes at ddibenion Treth Etifeddiant
Defnyddiwch yr offeryn hwn i gyfrifo sut i ddosrannu’r lwfans o £2.5 miliwn ar draws eiddo sy’n gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol o 100% neu Ryddhad Busnes o 100%.
Ar gyfer marwolaethau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026, gall eiddo amaethyddol neu eiddo busnes cymhwysol gael rhyddhad o 100% hyd at uchafswm o £2.5 miliwn.
Mae’r lwfans hwn o £2.5 miliwn yn cynnwys y canlynol:
- eiddo cymhwysol yn yr ystâd
- rhoddion a wnaed ar neu ar ôl 30 Hydref 2024 (os bu farw’r person o fewn 7 mlynedd)
Gall unrhyw lwfans heb ei ddefnyddio a drosglwyddir oddi wrth briod neu bartner sifil a fu farw’n gyntaf, gynyddu’r lwfans hwn hyd at £5 miliwn.
Unwaith i’r lwfans o £2.5 miliwn gael ei ddefnyddio, cyfradd y rhyddhad yw 50%.
Nid yw pob eiddo yn defnyddio’r lwfans o £2.5 miliwn — yn yr achosion hyn, dim ond rhyddhad o 50% sydd ar gael i’r eiddo hynny Mae hyn yn cynnwys cyfranddaliadau sy’n cael eu masnachu ar farchnadoedd nad ydynt yn bodloni diffiniad CThEF o ‘rhestredig’ (yn agor tudalen Saesneg), megis y Farchnad Fuddsoddi Amgen.
Yr hyn sy’n gymhwysol i gael rhyddhad o 100%
Mae eiddo sy’n gymwys i gael rhyddhad o 100% yn cynnwys:
- eiddo amaethyddol, megis tir fferm, adeiladau fferm a thai fferm (yn agor tudalen Saesneg)
- eiddo busnes, megis busnesau masnachu (yn agor tudalen Saesneg)
Pryd i ddefnyddio’r offeryn hwn
Defnyddiwch yr offeryn hwn os oes gan yr ystâd roddion ac asedion sy’n gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol o 100% neu Ryddhad Busnes o 100%.
Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn ar gyfer ystadau sydd â hyd at 8 ased eiddo amaethyddol ac 8 ased eiddo busnes.
Efallai y bydd angen cyngor proffesiynol ar ystadau sy’n fwy o faint neu’n fwy cymhleth.
Nid oes angen i chi ddefnyddio’r offeryn hwn os yw gwerth y rhoddion a’r asedion yn is na chyfanswm y lwfans, sef £2.5 miliwn, yn ogystal ag unrhyw lwfans heb ei ddefnyddio a drosglwyddir oddi wrth briod neu bartner sifil a fu farw’n gyntaf.
Beth fydd yr offeryn yn ei wneud
Bydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:
- cyfrifo faint o’r lwfans o £2.5 miliwn sydd wedi’i ddefnyddio ar roddion oes
- rhannu’r lwfans sy’n weddill ar draws yr asedion yn yr ystâd
- darparu dadansoddiad o’r rhyddhad o 100% a 50% ar gyfer pob ased
- eich cyfeirio at y ffurflenni Treth Etifeddiant y mae angen i chi eu hanfon at CThEF
Beth na fydd yr offeryn yn ei wneud
Ni fydd yr offeryn yn:
- cyfrifo Treth Etifeddiant
- rhoi gwybod i CThEF am werth yr ystâd neu hawliad i drosglwyddo lwfans
- rhoi eithriadau Treth Etifeddiant eraill ar waith
- rhoi gwybod a yw ased yn gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol neu Ryddhad Busnes
- rhoi gwybod a yw ystâd yn ystâd wedi’i heithrio
Gallwch amcangyfrif gwerth yr ystâd.
Cyn i chi ddechrau
Cyn i chi gyfrifo’r lwfans, tynnwch yr eithriadau canlynol yn gyntaf ar gyfer:
- priod neu bartner sifil
- roddion i elusennau
Ar gyfer pob rhodd oes o eiddo cymhwysol a wnaed o 30 Hydref 2024 ymlaen, bydd angen i chi wybod y canlynol:
- dyddiad y rhodd
- gwerth y rhodd sy’n gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol
- gwerth y rhodd sy’n gymwys i gael Rhyddhad Busnes
- enw’r derbynnydd (unigolyn neu ymddiriedolaeth)
Ar gyfer asedion a ddelir ar adeg y farwolaeth, bydd angen i chi wybod y canlynol:
- y math o ased (er enghraifft, tir fferm neu gyfranddaliadau busnes)
- y gwerth sy’n gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol
- y gwerth sy’n gymwys i gael Rhyddhad Busnes
- enw’r perchennog (yr ystâd, perchnogion ar y cyd neu ymddiriedolaeth y caiff y person ei drin fel pe bai’n berchen arni)
- unrhyw rodd â budd amodol
- unrhyw asedion sy’n gymwys i gael rhyddhad o 50% yn unig
Cyfrifo Rhyddhad Amaethyddol a Rhyddhad Busnes
Bydd yr offeryn yn rhoi’r lwfans ar waith yn y drefn ganlynol:
- Mae rhoddion oes o eiddo cymhwysol yn defnyddio’r rhyddhad o 100% yn gyntaf, o’r rhodd hynaf i’r rhodd fwyaf diweddar.
- Yna bydd yr offeryn yn rhannu unrhyw lwfans sy’n weddill ar draws yr holl asedion sy’n gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol o 100% neu Ryddhad Busnes o 100%. Mae’n rhaid rhannu’r lwfans yn gymesur ar draws yr ystâd. Ni allwch ddefnyddio’r lwfans i gyd ar gyfer un ased yn unig.
Os yw eiddo yn gymwys i gael y ddau ryddhad, bydd yr offeryn yn defnyddio Rhyddhad Amaethyddol yn hytrach na Rhyddhad Busnes.
Os bydd y lwfans o 100% yn cael ei ddefnyddio’n llawn, bydd unrhyw swm cymhwysol pellach dros £2.5 miliwn yn cael rhyddhad o 50%.
Ni chaiff eich atebion eu cadw. Os byddwch yn cau’r offeryn heb ateb y cwestiynau i gyd, bydd angen i chi ddechrau eto.
Yr hyn i’w wneud nesaf
Rhowch y symiau rhyddhad o 100% a 50% o’r offeryn yn y ffurflenni Treth Etifeddiant perthnasol.
Bydd y dosraniad o ryddhad yn newid os bydd unrhyw un o’r gwerthoedd yn newid ar ôl i chi wneud y cyfrifiad, gan gynnwys ar ôl i chi roi gwybod am werth yr ystâd.