Canllawiau

Cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogai

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogai os ydych yn gyflogai, cyflogwr, neu’n ddatblygwr meddalwedd.

Bydd y gyfrifiannell hon yn caniatáu i chi wirio faint mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae angen i gyflogi ei dalu.

Defnyddio’r gyfrifiannell

Os ydych yn gyflogai

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gael gwybod a ydych wedi talu’r swm cywir o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os ydych yn gyflogwr

Defnyddiwch y gyfrifiannell i ddarganfod faint o Yswiriant Gwladol sydd ei angen arnoch i ddidynnu o gyflog eich cyflogai.

Os ydych yn ddatblygwr meddalwedd

Gwiriwch y feddalwedd gyflogres rydych wedi’i datblygu yn cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogeion a chyflogwyr yn gywir.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfnod cyflog, a allai fod yn:
    • wythnosol
    • bob 2 wythnos
    • bob 4 wythnos
    • bob mis
  • y dyddiad y cawsoch eich talu, os ydych yn gyflogai
  • y dyddiad y gwnaethoch dalu’ch cyflogai, os ydych yn gyflogwr
  • y swm a dalwyd cyn unrhyw ddidyniadau
  • llythyren gategori Yswiriant Gwladol y cyflogai — gellir dod o hyd i hyn ar slip cyflog y cyflogai

Dechrau nawr

Cyhoeddwyd ar 20 December 2023