Canllawiau

Cyfrifo Treth Incwm cyflogai

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth TWE i gyfrifo faint o Dreth Incwm y mae angen i gyflogai ei thalu yn ystod cyfnod cyflog o’r flwyddyn dreth bresennol.

Bydd y gyfrifiannell hon yn gwirio faint o Dreth Incwm y mae angen i gyflogai ei thalu yn ystod cyfnod cyflog o’r flwyddyn dreth bresennol.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cod treth y cyflogai
  • y dyddiad talu
  • y cyfnod cyflog, er enghraifft:
    • bob wythnos
    • bob 2 wythnos
    • bob 4 wythnos
    • bob mis
  • y swm a dalwyd cyn unrhyw ddidyniadau

Mae’n bosibl y bydd hefyd angen y canlynol arnoch o’r cyfnod cyflog blaenorol:

  • cyfanswm cyflog gros
  • cyfanswm y dreth sy’n ddyledus
  • swm y dreth nas didynnwyd oherwydd y terfyn rheoleiddiol

Dechrau nawr

Cyhoeddwyd ar 20 March 2024