Skip to main content
Canllawiau

Carchar Brynbuga: Strategaeth teuluoedd a phartneriaid

Mae strategaeth teuluoedd Brynbuga yn amlinellu sut rydym yn cynorthwyo carcharorion sydd yn ein gofal i ddatblygu perthnasoedd ystyrlon ac adeiladol gyda theulu neu bartner.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ymweliadau ac archebu ymweliad ar Brynbuga brif dudalen y carchar.

Ein hymrwymiad i chi

Yng Ngharchar Brynbuga, rydym yn deall bod helpu carcharorion i newid eu bywydau a pheidio ag aildroseddu yn gallu bod yn anodd, yn gymhleth ac weithiau’n gallu mynd yn drech na rhywun. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant carchar sy’n rhoi pwyslais creiddiol ar leihau aildroseddu.

Mae’r dull gweithredu hwn yn cael ei adlewyrchu ym mhob rhan o’n hamgylchedd ac yn y gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Rydym yn cydnabod nad yw’n realistig i bob carcharor roi sylw i bob agwedd ar ei fywyd ar unwaith. Fodd bynnag, drwy ystyried pob llwybr yn unigol, gallwn gynnig cefnogaeth ystyrlon i garcharorion drwy gydol eu cyfnod yn y carchar.

Ein nodau:

  • cynorthwyo carcharorion a theuluoedd i gynnal perthnasoedd da
  • helpu i wella sgiliau magu plant carcharorion a’u harwain drwy brofiadau addysgol eu plant   
  • darparu cyngor a chanllawiau i deuluoedd a charcharorion, gan gadw’r pwyslais ar gefnogi teuluoedd  
  • cynnig cymorth â pherthnasoedd sy’n mynd drwy gyfnod anodd 
  • lleihau / chwalu rhwystrau er mwyn galluogi aelodau o’r teulu i ymweld â’r carchar a gallu profi ymweliadau o ansawdd da mewn amgylchedd croesawus 
  • cynnwys teuluoedd mewn prosesau adsefydlu, yn ystod y broses o gynllunio dedfryd ac yn ystod adegau argyfwng, lle bo’n briodol 
  • sefydlu cysylltiadau ag awdurdodau lleol i gefnogi teuluoedd a phlant 

  • hysbysu a hyfforddi staff yn well ynglŷn â materion sy’n ymwneud â phlant a theuluoedd

Cefnogaeth a gwasanaethau a gynigir

Canolfan ymweliadau

Pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan ymweliadau bydd eich manylion adnabod papur yn cael eu gwirio at ddibenion diogelwch. Bydd staff ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Mae manylion am y canlynol i’w gweld ar brif dudalen Carchar Brynbuga GOV.UK:

  • bwcio ymweliadau
  • oriau ymweld
  • ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad

Waliau Anweledig

Ein partner ar gyfer ymweliadau a gwasanaethau i deuluoedd yw Waliau Anweledig.

Beth mae Waliau Anweledig yn ei gynnig:

Mae Waliau Anweledig yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac eiriolaeth i ddynion sydd yn y carchar, er mwyn trefnu cyswllt â theulu. Maen nhw’n fwy na pharod i ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â theulu, gan gynnwys: 

  • gwybodaeth i deuluoedd a phartneriaid 
  • cynnal diwrnodau i’r teulu er mwyn i rieni a phlant allu treulio amser gyda’i gilydd. 
  • cefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio oherwydd bod rhywun yn y carchar
  • darparu gweithgareddau chwarae/cefnogaeth i blant yn ystod ymweliadau 
  • cynnal clybiau gwaith cartref lle gall rhieni gefnogi eu plant
  • darparu cyrsiau cymwysterau mentora er mwyn helpu carcharorion i wella eu cefnogaeth i addysg eu plant tra byddant yn y carchar 

  • cynnig cefnogaeth adsefydlu a mentora 
  • gwefan lle gall teuluoedd ddod o hyd i wybodaeth
  • clinigau cyfreithiol i garcharorion, sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu  

Cyfleusterau chwarae i blant 

Derbynfa – mae gennym deganau, llyfrau ac ardal i blant chwarae.

Neuadd ymweliadau

Mae gennym:

  • ardal i blant chwarae
  • bwrdd rhyngweithiol ar gyfer plant o bob oed
  • llyfrau, gemau bwrdd a theganau meddal
  • dau iPad i blant chwarae â nhw yn ystod yr ymweliad

Bistro Brynbuga

Caffi sy’n cael ei redeg gan garcharorion wedi’u hyfforddi. Mae’r Bistro yn cynnig amrywiaeth o fwydydd poeth ac oer, byrbrydau a diodydd am brisiau rhesymol, gan roi cyfle i deuluoedd a phartneriaid ymlacio a mwynhau lluniaeth yn ystod eu hymweliad.

Mae’r Bistro yn gwella’r profiad cyffredinol o ymweliadau drwy ychwanegu cynhesrwydd, lletygarwch ac ymdeimlad o normalrwydd i deuluoedd, sy’n cefnogi perthnasoedd cryfach ac yn cyfrannu tuag at ddarpariaeth deulu a pherthnasoedd ehangach y sefydliad.

Gwaith ymgysylltu â theuluoedd 

Mae Waliau Anweledig yn gweithio yn y carchar er mwyn cefnogi carcharorion a theuluoedd. Mae gennym reolwr ymgysylltu â theuluoedd rhan-amser sy’n treulio ei amser yn helpu carcharorion i gadw cysylltiad da â’u teulu tra byddant yn y carchar.

Mae hefyd yn helpu i ailadeiladu’r perthnasoedd hynny a allai fod wedi torri dros gyfnod, ac yn cefnogi carcharorion nad ydynt yn cael ymweliadau gan eu teuluoedd.

Cymorth Mabwysiadu

Mae’n bosibl y bydd rhai carcharorion wedi colli eu plant, oherwydd bod y plant wedi cael eu mabwysiadu. Bydd carcharorion eraill yn mynd drwy’r broses hon pan fyddant yn cael eu derbyn i’r carchar.

Mae staff Waliau Anweledig yn helpu carcharorion i ysgrifennu llythyrau ac yn eu hannog i gadw cyswllt blwch llythyrau os yw hyn wedi’i ganiatáu. Maen nhw hefyd yn helpu i drefnu ymweliadau cyswllt terfynol rhwng rhieni a phlant yn ein hardal ymweliadau teulu estynedig arbennig.

Rydym yn deall pa mor emosiynol a gofidus y gall yr ymweliadau hyn fod, felly rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn sensitif iawn.

Mae’r tîm hefyd yn cynnig cefnogaeth ar ôl mabwysiadu.

Cyrsiau rhianta/perthnasoedd 

Mae’r cwrs Rhianta Ymarferol wedi’i gynllunio gennym er mwyn ei addysgu yn y carchar.

Mae’n agored i ddynion sy’n parhau i gael cyswllt â’u plant ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, ac mae hefyd yn agored i garcharorion sy’n deidiau a allai fod â chyfrifoldebau gofalu am wyrion.

Cynhelir y cwrs 4 wythnos yn ein hadran addysg.

Gwaith achos ymgysylltu â theuluoedd

Mae ein gweithwyr achos ymgysylltu â theuluoedd yn cynnig cefnogaeth er mwyn cryfhau a chynnal perthnasoedd ac ailgysylltu perthnasoedd sydd wedi chwalu.

Maen nhw’n siarad gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer materion diogelu plant a lles plant.

Diwrnodau i’r teulu

Rydym yn cynnal diwrnodau seiliedig ar thema i deuluoedd â’r bwriad o gefnogi a chryfhau perthnasoedd teuluol.

Mae’r digwyddiadau hyn yn digwydd drwy gydol y flwyddyn ac maent wedi’u cyfyngu i 10 teulu ym mhob sesiwn (bore a phrynhawn) er mwyn sicrhau profiad mwy personol ac ymgysylltiol.

Os bydd y tywydd yn caniatáu, byddwn yn cynnal y digwyddiadau hyn ar y maes chwaraeon, gan gynnig ystod eang o weithgareddau hwyliog ac addysgol yn cael eu cefnogi gan Waliau Anweledig, Undeb y Mamau, ac asiantaethau allanol eraill.

Os bydd y tywydd yn wael, byddwn yn cynnal y diwrnod yn ein canolfan ymweliadau.

Bydd rhai sesiynau yn sesiynau ar gyfer oedolion yn unig neu’n grwpiau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

Bydd pob sesiwn yn cynnwys gweithgareddau sy’n seiliedig ar thema, ac rydym yn ceisio amrywio’r themâu a’r ddarpariaeth drwy gydol y flwyddyn er mwyn cadw pethau’n newydd ac yn ddiddorol.

Fel arfer mae sesiynau’r bore’n cynnwys baguette brecwast, a sesiynau’r prynhawn yn cynnwys bwffe ar ffurf barbeciw.

Nodwedd boblogaidd o’n diwrnodau i’r teulu yw’r cyfle i deuluoedd gael tynnu eu lluniau gyda’i gilydd. Mae’r rhain yn cael eu hargraffu a’u rhoi i anwyliaid i gofio am y diwrnod.

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau arbennig megis gêm bêl-droed rhwng carcharorion a’r staff, a gwahoddir rhieni i’r digwyddiadau hyn. Maen nhw’n helpu i feithrin ysbryd cymunedol ac yn rhoi profiadau cadarnhaol a rennir i bawb sy’n rhan ohonynt.

Diwrnodau graddio

Gwahoddir teuluoedd i fynychu a dathlu llwyddiannau eu hanwyliaid.

Cyflwynir tystysgrifau yn ystod y digwyddiadau hyn, i gydnabod cynnydd a chyflawniadau. Mae’r adegau hyn yn ffordd ystyrlon o gydnabod datblygiad personol ac atgyfnerthu cefnogaeth deuluol.

Gall ein staff dynnu lluniau mewn diwrnodau i’r teulu os rhoddwyd caniatâd.

Rydym yn deall bod lluniau’n gallu bod yn werthfawr iawn ac weithiau’n brin i rai sydd ag aelod o’r teulu yn y carchar.

Unigolion sydd wedi bod mewn gofal 

Rydym yn awyddus i gefnogi’r rhai sydd wedi bod drwy’r system ofal. Gwyddom y bydd rhai wedi bod drwy adegau trawmatig iawn yn ystod eu bywydau ac y bydd arnynt angen cymorth ychwanegol o bosibl.

Mae gennym ‘hyrwyddwyr gofal’ sy’n gallu cynnig cefnogaeth arbenigol ac atgyfeirio at wasanaethau sydd wedi’u dylunio i helpu’r rhai sydd â phrofiad yn y sector gofal.

Mae ein harweinydd gadawyr gofal hefyd yn bennaeth diogelwch.

Mesurau diogelu

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01291 671 600 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Llinell gymorth dalfa fwy diogel

Os oes gennych bryderon ynglŷn â diogelwch neu lesiant carcharor yng ngharchar Brynbuga nad ydynt yn bryderon uniongyrchol, galwch y llinell gymorth cadw’n ddiogel ar 0808 808 2003.

Gwybodaeth am gost galwadau

Polisi diogelu

Yng Ngharchar Brynbuga mae gennym bolisi diogelu sy’n sicrhau bod mesurau diogelu yn eu lle ar gyfer pobl sydd yn ein gofal, oedolion agored i niwed a phlant.

Mae gan bob oedolyn sydd angen ei ddiogelu hawl i fyw ei fywyd heb gael ei gam-drin mewn unrhyw ffordd. Mae gan bob asiantaeth ac unigolyn sy’n dod i gysylltiad ag oedolion sydd angen eu diogelu ddyletswydd i’w diogelu rhag camdriniaeth.

Os rhoddir gwybod am gamdriniaeth neu os bydd unrhyw unigolyn yn amau bod camdriniaeth yn digwydd bydd yr ymateb yn gyflym ac yn unol â pholisïau’r gwasanaeth carchardai.

Mae’r carchar yn gweithio fel tîm amlasiantaethol er mwyn diwallu anghenion carcharorion a sicrhau eu bod yn ddiogel o hyd.

Os oes gennych bryder yn ymwneud â diogelu, mae’r manylion cysylltu i’w gweld ar brif dudalen Carchar Brynbuga GOV.UK.

I gael rhagor o wybodaeth am fesurau diogelu, edrychwch ar Fframwaith Polisi Diogelu Plant Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi

Beth rydym wedi ei gyflawni?

  • Mae’r sefydliad yn dal i gynnal sesiynau cymar-i-gymar, ac ar hyn o bryd mae’n cynnal 4 y flwyddyn.
  • Mae’r sefydliad yn cynnal diwrnodau teulu i gyn-filwyr drwy gydol y flwyddyn.
  • Mae cyfarfodydd adborth ffrindiau/teulu yn dal i ddigwydd drwy gydol y flwyddyn.
  • Mae’r Pennaeth Lleihau Aildroseddu a’r Hyrwyddwr teuluoedd a phartneriaid a’r arweinydd llwybr yn parhau i gwrdd â theuluoedd yn y ganolfan ymweliadau ac yn ystod diwrnodau teulu er mwyn trafod unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglŷn ag ymweld.
  • Rydym yn parhau i helpu i gefnogi carcharorion a’u teuluoedd i gynnal eu cysylltiadau teuluol drwy drefnu ymweliadau, a diwrnodau teulu - gan gynnwys ar gyfer y rhai sy’n cael anhawster i fynychu ymweliadau cymdeithasol rheolaidd.
  • Eleni bwriadwn gynnig 19 diwrnod teulu cynhwysol. Rydym yn cynnal digwyddiadau i’r teulu, megis eisteddfod a diwrnodau pêl-droed i garcharorion a staff.
  • Gall pobl sydd yn ein gofal nad oes ganddynt neb sy’n gallu ymweld ofyn am gael ymwelydd carchar gwirfoddol, a elwir yn ‘ymwelydd carchar swyddogol’, a fydd yn ymweld ac yn cynnig cefnogaeth. Cynigir y gwasanaeth hwn drwy adran y Gaplaniaeth.
  • Mae ein perfformiad fel carchar yn un o’r goreuon yn y wlad.

Chi’n dweud, ni’n gwneud

Mae eich adborth yn bwysig i ni er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r profiad ymweliad gorau. Dyma sut rydym yn defnyddio eich adborth er mwyn dal i wella.

  • Mwy o ddiwrnodau teulu sy’n seiliedig ar thema – yn cynnig 19 y flwyddyn erbyn hyn.
  • Cynnal diwrnod ‘tad a mab’.
  • Byddwn yn dathlu’r diwrnod plant â rhiant yn y carchar.
  • Mwy o deganau a gemau i blant.
  • Mae amrywiaeth ehangach o gemau wedi’u harchebu erbyn hyn ar gyfer ystod oedran ehangach
  • Gofynnodd carcharorion am ddiwrnodau teulu gemau pêl-droed ac mae’r rhain wedi’u hychwanegu at ein digwyddiadau erbyn hyn.
  • Gofynnodd y côr am ddiwrnodau teulu yn seiliedig ar thema.
  • Roedd canlyniadau arolwg yn dangos bod ar garcharorion a theuluoedd eisiau i anifeiliaid ecsotig ymweld. Mae hyn bellach yn thema flynyddol.

Sut fyddwn ni’n mesur ein llwyddiant?

  • Holiadur anghenion teuluoedd carcharorion. 
  • Cyfarfodydd lleihau aildroseddu. 
  • Arolygiadau Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi. 
  • Arolygon carcharorion. 
  • Cyfarfodydd diwylliant adsefydlu. 
  • Fforymau ymwelwyr. 
  • Cyflawni ein dangosyddion perfformiad allweddol.

Strwythur staffio

Prif Lywodraethwr.
Pennaeth Lleihau Aildroseddu.
Pennaeth y Gaplaniaeth.
Arweinydd Teulu a Phartneriaid.
Hyrwyddwr Teulu a Phartneriaid.
Rheolwr Ymgysylltu â Theuluoedd.
Gwirfoddolwyr (x2).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Awst 2026

Argraffu'r dudalen hon