Canllawiau

Defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau

Mae ein gwasanaeth trosglwyddo fideo yn caniatáu i ddefnyddwyr byddar Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i ffonio Tŷ'r Cwmnïau drwy dîm o gyfieithwyr SignVideo.

Sut i ddefnyddio SignVideo

Gallwch ffonio Tŷ’r Cwmnïau yn ystod ein horiau cyffredinol o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 6pm. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth trosglwyddo fideo drwy’r we neu lawrlwytho’r ap SignVideo i’ch dyfais.

SignVideo web

Bydd cyfieithydd ar y pryd SignVideo yn ymddangos ar eich sgrin i ddehongli eich sgwrs.

Mae’r gwasanaeth trosglwyddo fideo yn defnyddio ategyn am ddim. Efallai y bydd angen i chi newid y gosodiadau diogelwch ar eich dyfais i osod hwn.

Ap SignVideo

Pan fyddwch yn agor yr ap, byddwch yn gweld y SignDirectory.

Sgroliwch i lawr y SignDirectory a chwiliwch am y gwasanaeth rydych chi am ei alw. Cliciwch ar y botwm ar gyfer y gwasanaeth hwnnw a bydd cyfieithydd ar y pryd SignVideo yn ymddangos ar eich sgrin i ddehongli eich sgwrs.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I ddefnyddio SignVideo, bydd angen:

  • dyfais
  • gwe-gamera
  • cysylltiad rhyngrwyd da

Dyfais

Gallwch ddefnyddio:

  • ap Windows PC
  • ap Apple Mac
  • ap iOS
  • ap Android
  • gwasanaeth gwe SignVideo

Gwe-gamera

Gall eich gwe-gamera gael ei blygio neu ei adeiladu i mewn.

Cysylltiad rhyngrwyd da

Am y profiad orau gyda SignVideo, rydym yn argymell isafswm cyflymder lanlwytho a lawrlwytho y we o 2mbps. Gall eich cysylltiad â’r rhyngrwyd fod yn:

  • rhwydwaith symudol 3G,4G,5G
  • band llydan neu ethernet wedi’u plygio mewn
  • WiFi

Help a chefnogaeth

Gallwch:

Cyhoeddwyd ar 1 February 2022