Y rhaglen Erasmus+
Cyllid grant ar gyfer lleoliadau rhyngwladol a phrosiectau partneriaeth ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio ym maes addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.
Mae’r DU a’r UE wedi cytuno y bydd y DU yn ymuno â rhaglen Erasmus+ o 2027 ymlaen.
Erasmus+
Mae Erasmus+ yn rhaglen yr UE sy’n darparu cyllid grant ar gyfer lleoliadau rhyngwladol a phrosiectau partneriaeth ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ym maes addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Ei nod yw helpu pobl i wella eu haddysg, ennill profiad gwaith, a thyfu’n bersonol trwy gynnig cyfleoedd i astudio, dysgu a gweithio mewn gwledydd cymwys.
Roedd y DU yn rhan o Erasmus+ o 2014 i 2020, a rhaglenni rhagflaenol cyn hynny. Bydd ymuno ag Erasmus+ o 2027 ymlaen yn creu cyfleoedd newydd i ystod eang o gyfranogwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngwladol.
Nodau’r rhaglen Erasmus+
Mae rhaglen Erasmus+ wedi’i rhannu’n 4 cham gweithredu allweddol:
- Cam allweddol 1: Cefnogi myfyrwyr, pobl ifanc, a staff sy’n gweithio ym maes addysg, ieuenctid a chwaraeon ar lawr gwlad i deithio dramor i astudio, hyfforddi, addysgu, neu wirfoddoli. Gelwir hyn yn ‘symudedd’
- Cam allweddol 2: Cefnogi partneriaethau a meithrin gallu ar gyfer ysgolion, colegau, darparwyr addysg uwch, grwpiau ieuenctid a chwaraeon i gydweithio a rhannu syniadau
- Cam allweddol 3: Cefnogi gwledydd i gydweithio i wella addysg, gwaith ieuenctid a chwaraeon ledled Ewrop
- Camau gweithredu Jean Monnet: Cefnogi pobl i ddysgu mwy am yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’i bolisïau, yn enwedig mewn ysgolion a phrifysgolion
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae Erasmus+ ar agor i ddysgwyr, hyfforddeion a staff mewn addysg uwch (AU), addysg bellach (AB), addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET), ysgolion, addysg oedolion, ieuenctid a chwaraeon.
Gall disgyblion ysgol dreulio amser yn astudio dramor, naill ai fel rhan o ddosbarth neu grŵp, neu’n unigol.
Gall myfyrwyr a phrentisiaid mewn AU, AB a VET astudio, hyfforddi, gwirfoddoli neu wneud lleoliad gwaith dramor.
Gall dysgwyr sy’n oedolion dreulio amser mewn sefydliad dysgu oedolion dramor neu astudio dramor fel rhan o grŵp.
Gall pobl ifanc sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli i sefydliadau ieuenctid deithio i gael hyfforddiant neu gyfnewid ieuenctid a chymryd rhan mewn gweithdai, dadleuon a gweithgareddau awyr agored.
Gall staff sy’n gweithio mewn ysgolion, AB, AU, darparwyr addysg oedolion neu weithwyr ieuenctid hyfforddi neu addysgu dramor a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol.
Gall staff chwaraeon ar lawr gwlad dreulio amser dramor yn cysgodi swyddi neu ar aseiniad hyfforddi.
Gall sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon gymryd rhan mewn partneriaethau cydweithredu â chyfoedion rhyngwladol.
Pwy all wneud cais am gyllid
Ni all dysgwyr na staff wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+. Rhaid i chi wneud cais drwy sefydliad sy’n cymryd rhan fel eich ysgol, prifysgol, coleg AB, clwb ieuenctid neu le gwaith.
Mae sefydliadau a all wneud cais am gyllid yn cynnwys:
- ysgolion
- Darparwyr AU
- Darparwyr AB
- Darparwyr VET
- darparwyr addysg oedolion
- sefydliadau ieuenctid a chwaraeon
- sefydliadau nid-er-elw
Mae’r canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ba sefydliadau all wneud cais am gyllid.
Sut mae cyllid yn gweithio
Camau gweithredu datganoledig (Camau Gweithredu Allweddol 1 a 2 yn bennaf) ei reoli gan Asiantaeth Genedlaethol a fydd yn cael ei phenodi i gyflwyno Erasmus+ ar gyfer y DU. Ar gyfer lleoliadau rhyngwladol a phrosiectau symudedd (Cam Gweithredu Allweddol 1), mae cyllid Erasmus+ yn cyfrannu at:
- costau teithio
- costau byw
- ffioedd cwrs
- costau fisa a mynediad
- dysgu iaith
- costau sefydliadol
- ymweliadau paratoadol
Mae cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer pobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Mae camau gweithredu Jean Monnet a rhannau eraill o Erasmus+ a ganolir(gan gynnwys rhai o Gam Gweithredu Allweddol 2 a’r rhan fwyaf o Gam Gweithredu Allweddol 3) yn cael eu rhedeg gan Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewrop (EACEA).Os yw cam gweithredu yn cael ei rheoli gan EACEA, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu ceisiadau am gyllid yn uniongyrchol i EACEA yn hytrach na thrwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.
Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ba weithgareddau sydd wedi’u cynnwys o dan bob Cam Gweithredu Allweddol, sut i wneud cais ac a ydynt yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Genedlaethol neu EACEA.
Sut mae Erasmus+ yn cefnogi amcanion llywodraeth y DU
Mae Erasmus+ yn cefnogi Cenhadaeth Cyfle’r llywodraeth drwy helpu pobl o bob cefndir i gymryd rhan. Mae cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer teithio, llety a rhai costau eraill i bobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol neu sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig. Mae Erasmus+ yn helpu i feithrin sgiliau parod ar gyfer y dyfodol trwy ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel sy’n cefnogi datblygiad personol a gyrfaol. Mae gweithgareddau’n cynnwys lleoliadau astudio, hyfforddeiaethau, cyfnewidiadau staff, a phrosiectau cydweithredol ar draws ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr addysg oedolion, sefydliadau ieuenctid a chwaraeon.
Mae Erasmus+ yn galluogi sefydliadau’r DU i gydweithio â phartneriaid rhyngwladol ar arloesi, cynhwysiant a gwella addysgol. Mae’r partneriaethau hyn yn helpu i gryfhau enw da byd-eang y DU ym meysydd addysg a hyfforddiant.
Mae Erasmus+ yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol a chynyddu mynediad at gyfleoedd chwaraeon ar lawr gwlad.
Amserlenni
Bydd Asiantaeth Genedlaethol yn cael ei phenodi maes o law i ddarparu Erasmus+ ar gyfer y DU. Bydd gwefan gyda rhagor o wybodaeth yn cael ei lansio gan Asiantaeth Genedlaethol y DU erbyn Haf 2026.
Cyfleoedd i bob sector
Addysg uwch
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i fyfyrwyr a staff addysgu a gweinyddol gymryd rhan mewn symudeddau dysgu mewn gwlad arall. Mae symudeddau dysgu yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 1. I fyfyrwyr, gallai hyn olygu teithio i wlad wahanol i astudio neu ar gyfer hyfforddeiaethau, tra gall staff ymgymryd â chysgodi swyddi, cyfnodau arsylwi, cyrsiau hyfforddi, neu leoliadau addysgu.
Cyfleoedd i fyfyrwyr
Cyfnod astudio
Gall myfyriwr o brifysgol yn y DU gwblhau cyfnod astudio mewn sefydliad addysg uwch dramor fel rhan o’i raglen radd. Dylai cyfnodau astudio barhau rhwng 2 a 12 mis, heb gynnwys amser teithio. Gall cyfnodau astudio dramor gynnwys hyfforddeiaeth hefyd, er na ddylai cyfanswm y cyfnod symudedd fod yn fwy na’r hyd mwyaf.
Hyfforddeiaeth
Gall myfyriwr o brifysgol yn y DU ymgymryd â hyfforddeiaeth dramor mewn gweithle perthnasol. Lle bo modd, dylai hyn fod yn rhan integredig o’u rhaglen astudio. Dylai hyfforddeiaethau barhau rhwng 2 a 12 mis, heb gynnwys amser teithio.
Symudedd doethurol
Gall myfyrwyr PhD ym mhrifysgolion y DU ymgymryd â chyfnodau astudio corfforol dramor, sy’n parhau rhwng 5 a 30 diwrnod neu 2 a 12 mis. Gall symudeddau doethurol gynnwys hyfforddeiaeth gyflenwol, ar yr amod nad eir heibio i’r cyfnod hiraf cyfan.
Symudedd cymysg
Gellir cyflawni unrhyw un o’r symudeddau corfforol sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch fel symudedd cymysg. Mae hyn yn golygu cyfuno symudeddau corfforol â chydrannau rhithwir fel cyfnewid dysgu ar-lein cydweithredol neu waith tîm. Gall myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn rhaglenni dwys cymysg, sef rhaglenni byr sy’n cynnwys dulliau dysgu ac addysgu arloesol. Rhaid i gydran gorfforol rhaglen ddwys gymysg fod rhwng 5 a 30 diwrnod i ddysgwyr, ond nid oes isafswm hyd ar gyfer yr elfen rithwir.
Cyfleoedd i staff addysgu a gweinyddol
Cyfnod addysgu
Gall staff addysgu mewn sefydliad addysg uwch neu fenter yn y DU addysgu mewn sefydliad addysg uwch partner dramor. Gellir cyfuno gweithgareddau addysgu â gweithgareddau hyfforddi fel rhan o’r un cyfnod symudedd staff. Rhaid i gyfanswm hyd symudeddau staff, yn y rhan fwyaf o achosion, fod rhwng 2 a 60 diwrnod yn olynol, er bod Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn nodi rhai eithriadau bach.
Cyfnod hyfforddi
Gall unrhyw staff mewn sefydliad addysg uwch yn y DU ymgymryd â gweithgaredd hyfforddi dramor mewn sefydliad addysg uwch partner, menter, neu unrhyw weithle perthnasol arall, ar yr amod ei fod yn berthnasol i’w gwaith o ddydd i ddydd. Gallai hyn gynnwys digwyddiadau hyfforddi, cysgodi swyddi a chyfnodau arsylwi, ond nid yw’n cynnwys cynadleddau. Gellir cyfuno gweithgareddau hyfforddi â gweithgareddau addysgu fel rhan o’r un cyfnod symudedd staff. Rhaid i gyfanswm hyd symudeddau staff, yn y rhan fwyaf o achosion, fod rhwng 2 a 60 diwrnod yn olynol, er bod Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn nodi rhai eithriadau bach.
Symudedd cymysg
Gellir cynnal unrhyw gyfnod addysgu neu hyfforddi staff dramor fel symudedd cymysg. Rhaid i gydran gorfforol rhaglen ddwys gymysg fod rhwng 5 a 30 diwrnod i’r rhan fwyaf o staff, ac mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn nodi rhai eithriadau bach.
Cyfleoedd partneriaeth ar gyfer sefydliadau addysg uwch
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i sefydliadau addysg uwch y DU i feithrin partneriaethau â sefydliadau addysg uwch dramor er mwyn gwella ansawdd y ddarpariaeth addysg. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- partneriaethau cydweithredu
- rhaglen Meistri ar y Cyd Erasmus Mundus
- Cynghreiriau dros Arloesi
- prosiectau adeiladu capasiti
Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gyfleoedd partneriaeth mewn addysg uwch.
Achrediad Siarter Erasmus ar gyfer Addysg Uwch
Rhaid i sefydliadau addysg uwch wneud cais llwyddiannus am Siarter Addysg Uwch Erasmus (ECHE) cyn gwneud cais am brosiect symudedd i’w Hasiantaeth Genedlaethol Erasmus+, boed yn gwneud cais fel sefydliad unigol neu fel consortiwm. Mae llofnodi’r siarter yn golygu ymrwymo i roi’r holl gefnogaeth angenrheidiol i gyfranogwyr ar gyfer eu lleoliadau, gan gynnwys paratoad ieithyddol.
Sut i wneud cais am gyllid Erasmus+ ar gyfer sefydliadau addysg uwch
Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid Erasmus+ drwy eich sefydliad addysg uwch.
Gall sefydliadau addysg uwch wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+ neu drwy gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch.
Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET)
Gall myfyrwyr a phrentisiaid mewn AB neu VET fynd i wlad arall i wneud lleoliad gwaith, cymryd rhan mewn cystadleuaeth sgiliau neu deithio fel rhan o grŵp i ddarparwr partner VET. Gall athrawon, hyfforddwyr ac aelodau staff eraill sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant deithio i wlad arall i fynychu cwrs neu hyfforddiant, cysgodi swyddi neu addysgu. Mae hwn yn brosiect symudedd ac mae’n rhan o Gam Gweithredu Allweddol 1 Erasmus+.
Cyfleoedd i fyfyrwyr a phrentisiaid
Symudedd grŵp dysgwyr VET
Gall grŵp o fyfyrwyr neu brentisiaid dreulio amser yn dysgu gyda darparwr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol partner mewn gwlad arall. Bydd aelod cymwys o staff gyda nhw. Gall y math hwn o symudedd barhau rhwng 2 a 30 diwrnod.
Symudedd dysgu tymor byr dysgwyr VET
Gall myfyrwyr neu brentisiaid dreulio amser yn dysgu gyda darparwr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol partner neu wneud lleoliad gwaith mewn cwmni dramor. Gall y math hwn o symudedd barhau rhwng 10 diwrnod a 3 mis. I fyfyrwyr neu brentisiaid dan anfantais, neu’r rhai ag anghenion ychwanegol, gall lleoliadau symudedd fod mor fyr â 2 ddiwrnod.
Symudedd dysgu hirdymor dysgwyr VET (Erasmus Pro)
Symudedd hirdymor yw pan fydd myfyrwyr neu brentisiaid yn astudio neu’n gwneud lleoliad gwaith sy’n hirach na 3 mis. Gall y symudeddau hyn barhau hyd at flwyddyn.
Cystadlaethau sgiliau
Mae Erasmus+ yn cynnig cyllid i fyfyrwyr neu brentisiaid fynychu cystadlaethau sgiliau mewn gwledydd eraill. Gall y symudeddau hyn fod rhwng 1 diwrnod a 10 diwrnod.
Cyfleoedd i staff sy’n gweithio mewn VET
Cyrsiau a hyfforddiant
Gall athrawon, darlithwyr ac aelodau staff eraill sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol fynychu cyrsiau hyfforddi dramor i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Gall symudedd ar gyfer cwrs hyfforddi fod rhwng 2 a 10 diwrnod.
Cysgodi swyddi
Gall staff VET dreulio amser yn cysgodi swydd cydweithiwr mewn sefydliad partner neu ddarparwr perthnasol arall. Gall y math hwn o symudedd fod o 2 ddiwrnod hyd at 2 fis.
Aseiniadau addysgu
Gall athrawon neu ddarlithwyr addysg a hyfforddiant dreulio cyfnod yn addysgu neu’n darparu hyfforddiant mewn sefydliad partner mewn gwlad arall. Gall hyn fod o 2 ddiwrnod hyd at 1 flwyddyn.
Cyfleoedd partneriaeth ar gyfer darparwyr VET
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i ddarparwyr VET ddatblygu partneriaethau â sefydliadau perthnasol eraill mewn gwahanol wledydd. Dylai’r prosiect fynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau Erasmus+. Mae’r partneriaethau hyn yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 2 Erasmus+. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gyfleoedd partneriaeth ar gyfer darparwyr AB a VET.
Sut i wneud cais am gyllid Erasmus+ ar gyfer VET
Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid Erasmus+ drwy eich darparwr AB neu VET neu’ch gweithle.
Gall darparwyr AB a VET wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+ neu drwy gonsortiwm.
Ysgolion
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i ddisgyblion, athrawon, arweinwyr ysgolion a staff addysg eraill gymryd rhan mewn symudeddau dysgu mewn gwlad arall. Mae symudedd dysgu yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 1 a gallent gynnwys teithio i wlad wahanol i astudio mewn ysgol bartner, cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu grŵp, mynychu hyfforddiant neu gysgodi swyddi.
Cyfleoedd i ddisgyblion
Symudedd grŵp
Gall dosbarth neu grŵp o ddisgyblion o ysgol yn y DU deithio i ysgol letyol mewn gwlad arall i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu. Byddant yng nghwmni athro neu aelod arall o staff yr ysgol. Gall y math hwn o symudedd barhau rhwng 2 a 30 diwrnod.
Symudedd dysgu tymor byr
Gall disgyblion astudio dramor mewn ysgol bartner neu wneud hyfforddeiaeth mewn sefydliad perthnasol dramor. Mae’r math hwn o symudedd fel arfer yn parhau rhwng 10 a 29 diwrnod.
Symudeddau hirdymor
Symudedd hirdymor yw pan fydd disgyblion yn astudio neu’n gwneud hyfforddeiaeth dramor am fwy na mis.
Cyfleoedd i athrawon a staff addysg eraill
Cyrsiau a hyfforddiant
Gall athrawon a staff ysgolion fynychu cyrsiau hyfforddi dramor i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Gall ysgolion hefyd groesawu arbenigwr addysg o wlad arall i ddarparu hyfforddiant. Gall symudedd ar gyfer cwrs hyfforddi fod rhwng 2 a 10 diwrnod.
Cysgodi swyddi
Gall athrawon neu staff ysgol eraill gysgodi cydweithwyr mewn ysgol bartner dramor a chael profiad dysgu ymarferol. Gall symudedd ar gyfer cysgodi swyddi fod rhwng 2 ddiwrnod a 2 fis.
Aseiniadau addysgu
Gall athrawon dreulio amser yn addysgu dramor i ddysgu trwy ymarfer ac ennill profiad o system addysg arall. Gall symudedd ar gyfer aseiniad addysgu fod rhwng 2 ddiwrnod a blwyddyn.
Cyfleoedd partneriaeth ar gyfer ysgolion
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid ar gyfer partneriaethau ag ysgolion eraill neu sefydliadau perthnasol i wella ansawdd addysgu, dysgu ac addysg. Mae’r partneriaethau hyn yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 2. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gyfleoedd partneriaeth ar gyfer ysgolion.
eGefeillio
Mae eGefeillio yn blatfform cydweithio ar-lein sy’n caniatáu i ysgolion gysylltu a gweithio ar brosiectau ar y cyd, rhannu deunyddiau addysgu, dod o hyd i bartneriaid a thrafod mewn grwpiau ar-lein.
Sut i wneud cais am gyllid Erasmus+ ar gyfer ysgolion
Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid Erasmus+ drwy eich ysgol.
Gall ysgolion wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+ neu drwy gonsortiwm o ysgolion.
Addysg Oedolion
Gall staff a dysgwyr mewn addysg oedolion gymryd rhan mewn prosiectau symudedd Erasmus+. Mae prosiectau symudedd yn caniatáu i sefydliadau addysg oedolion anfon dysgwyr neu staff i wlad arall i ddysgu, hyfforddi, cysgodi swyddi, neu addysgu. Mae prosiectau symudedd yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 1 Erasmus+.
Cyfleoedd i ddysgwyr a staff mewn Addysg Oedolion
Gall dysgwyr addysg oedolion deithio i wlad arall i ddysgu, hyfforddi neu wirfoddoli gyda sefydliad partner am hyd at fis.
Gall staff mewn addysg oedolion deithio i wlad arall i addysgu neu hyfforddi mewn sefydliad partner, cysgodi swyddi, cymryd rhan mewn hyfforddiant, neu gwblhau cwrs sy’n helpu i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol.
Cyfleoedd i ddarparwyr Addysg Oedolion
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i ddarparwyr addysg oedolion ddatblygu partneriaethau â sefydliadau perthnasol eraill mewn gwahanol wledydd. Nod prosiectau partneriaeth ywdatblygu, gweithredu neu gyfnewid arferion arloesol a dylent fynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau Erasmus+. Mae’r partneriaethau hyn yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 2. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gyfleoedd partneriaeth mewn Addysg Oedolion.
Sut i wneud cais am gyllid Erasmus+ ar gyfer addysg oedolion
Os ydych chi’n ddysgwr unigol sy’n oedolyn neu’n aelod o staff, ni allwch wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+. Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid Erasmus+ drwy ddarparwr addysg oedolion.
Ieuenctid
Gall pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid deithio i wlad arall ar gyfer hyfforddiant a chyfnewidfeydd ieuenctid. Gall pobl ifanc hefyd gymryd rhan mewn prosiect Cyfranogiad Ieuenctid. Dyma fathau o brosiectau symudedd ac maent yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 1 Erasmus+.
Cyfleoedd i bobl ifanc
Cyfnewidiadau ieuenctid
Mae cyfnewidiadau ieuenctid yn dod â phobl ifanc o o leiaf ddwy wlad wahanol ynghyd i ddysgu gyda’i gilydd trwy weithgareddau fel gweithdai, dadleuon a gweithgareddau awyr agored. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y mathau o weithgareddau sy’n gymwys. Gall cyfnewidiadau ieuenctid barhau rhwng 5 a 21 diwrnod.
Discover EU
Mae Discover EU yn caniatáu i bobl ifanc 18 oed deithio ar draws Ewrop, yn bennaf ar y trên. Mae cyfranogwyr yn derbyn tocyn teithio am ddim i archwilio gwahanol wledydd yn yr UE. Gall pobl ifanc deithio ar eu pen eu hunain neu fel rhan o grŵp o hyd at 5. Rhaid i bob aelod o’r grŵp fodloni meini prawf cymhwysedd Discover EU.
I fod yn gymwys ar gyfer Discover EU, rhaid i chi fod yn 18 oed ac o’r DU, yr UE neu wlad arall sy’n rhan o raglen Erasmus+.
Prosiectau cyfranogiad ieuenctid
Mae prosiectau cyfranogiad ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn bywyd dinesig, diwylliannol a gwleidyddol, a chodi llais ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Gall prosiectau cyfranogiad ieuenctid gynnwys gweithgareddau fel gweithdai, dadleuon, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a digwyddiadau diwylliannol. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am brosiectau cyfranogiad Ieuenctid.
Cyfleoedd i weithwyr ieuenctid
Prosiectau Symudedd i Weithwyr Ieuenctid
Dyma brosiectau a gynhelir gan sefydliadau ieuenctid i gefnogi datblygiad proffesiynol a rhwydweithio gweithwyr ieuenctid. Gall gweithgareddau gynnwys seminarau, cyrsiau hyfforddi, digwyddiadau rhwydweithio, ymweliadau astudio, neu gysgodi swyddi dramor. Rhaid i’r prosiect gynnwyso leiaf ddau sefydliad ieuenctid o wahanol wledydd a gall barhau rhwng tri mis a dwy flynedd. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am Brosiectau Symudedd i Weithwyr Ieuenctid.
Cyfleoedd partneriaeth i Sefydliadau Ieuenctid
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i Sefydliadau Ieuenctid ddatblygu partneriaethau â sefydliadau perthnasol eraill mewn gwahanol wledydd. Dylai’r prosiect fynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau Erasmus+. Mae’r partneriaethau hyn yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 2 Erasmus+. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gyfleoedd partneriaeth i’r sector Ieuenctid.
Chwaraeon
Cyfleoedd i hyfforddwyr a staff chwaraeon eraill
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i hyfforddwyr a staff chwaraeon eraill gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol dramor. Mae’r cyllid wedi’i anelu’n bennaf at staff chwaraeon ar lawr gwlad ond gall staff mewn chwaraeon nad ydynt yn chwaraeon ar lawr gwlad gymryd rhan os gall eu gwaith fod o fudd i chwaraeon ar lawr gwlad.
Symudedd staff chwaraeon
Gall hyfforddwyr a staff chwaraeon deithio dramor i gysgodi swyddi, gwneud cyfnod arsylwi neu gymryd rhan mewn aseiniad hyfforddi. Mae symudeddau staff chwaraeon yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 1.
Gall cyfnod cysgodi swydd neu arsylwi fod rhwng 2 a 14 diwrnod.
Gall aseiniad hyfforddi fod rhwng pythefnos a 2 fis.
Cyfleoedd partneriaeth ar gyfer chwaraeon
Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i sefydliadau chwaraeon ddatblygu partneriaethau â sefydliadau perthnasol eraill mewn gwahanol wledydd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- adeiladu capasiti ym maes chwaraeon
- Digwyddiadau Chwaraeon Ewropeaidd nid-er-elw
- Partneriaethau Cydweithredu
- Partneriaethau ar Raddfa Fach
Dylai’r prosiect fynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau Erasmus+. Mae’r partneriaethau hyn yn rhan o Gam Gweithredu Allweddol 2 Erasmus+. Mae Canllaw Rhaglen Erasmus+ yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gyfleoedd partneriaeth ar gyfer sefydliadau chwaraeon.
Sut i wneud cais am gyllid Erasmus+ ar gyfer chwaraeon
Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid Erasmus+ drwy sefydliad chwaraeon perthnasol.
Gall sefydliadau chwaraeon wneud cais yn uniongyrchol am gyllid Erasmus+ neu drwy gonsortiwm.